Sion Williams

Sion Williams

Rheoli Busnes gydag Entrepreneuriaeth, Dosbarth o 2021.

Entrepreneur, uwchgylchwr, prynwr ffasiwn.

Rydych chi’n cwblhau eich gradd israddedig mewn Astudiaethau Rheoli. Pam dewisoch chi ddod i Abertawe?

 Dwi o dras Cymreig yn mynd yn ôl cenedlaethau, felly roeddwn i’n awyddus i astudio yng Nghymru am fy mod i’n falch o’m cenedligrwydd, sy’n help mawr wrth gyfathrebu â chwsmeriaid a chyflenwyr lleol. Abertawe oedd fy newis cyntaf wrth feddwl am Brifysgol. I ddechrau ymwelais i â Champws y Bae’r Brifysgol ar ddiwrnod agored a oedd wedi’i drefnu’n dda ac roedd cynllun y campws, ei gyfleusterau a’i leoliad yn apelio’n fawr ata i. Hefyd, roedd y cwrs Rheoli Busnes yn cynnig cyfleoedd ym maes entrepreneuriaethnad oeddent ar gael mewn lleoedd eraill. Mae Abertawe’n ddinas â llawer o gymeriad.

Oeddech chi bob amser eisiau bod yn entrepreneur? A beth wnaeth eich ysbrydoli i gychwyn y busnes hwn?

Roeddwn i bob amser eisiau bod yn hunan-gyflogedig er mwyn bod â rhyddid i arloesi heb gyfyngiadau. Hefyd, dwi’n gallu darparu amgylchedd gwaith cyfeillgar, anffurfiol ac effeithiol nad ydw i wedi ei brofi yn y gorffennol. Yn y chweched dosbarth, cychwynnais i fusnes bach yn gweithgynhyrchu ac yn gwerthu clociau wedi’u gwneud o hen ddisgiau finyl, ac enillais i ‘Wobr Entrepreneur y Flwyddyn’ gan Ysgol Uwchradd Caerdydd. Yn fuan, sylweddolais i fod gen i archwaeth a gallu am fusnes ac entrepreneuriaeth. Ces i fy ysbrydoli i agor RAVS pan sylweddolais i fod galw uchel am y math hwn o ddillad mewn dinas â phoblogaeth mor uchel o fyfyrwyr, ac roedd hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’m hangen i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd. Byddai’r agwedd hon ar gynaliadwyedd yn cael ei gwireddu drwy annog pobl i ailddefnyddio eitemau a chael gwared ar yr embaras sy’n gysylltiedig â ‘siopa ail law’ drwy ei farchnata fel rhywbeth modern, cŵl ac unigol, rhywbeth rydym yn parhau i’w gyflawni yn fy marn i.

Fyddwn i’n iawn yn rhagdybio bod galw arbennig o fawr am siop fel RAVS yn Abertawe, lle nad oedd llawer o siopau’n gwerthu dillad retro o’r blaen?

Mae’r sîn dillad retro yng Nghaerdydd wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi, drwy arsylwi ar arddulliau, lleoliad a’r sylfaen cwsmeriaid. Ces i fy sbarduno gan siopau tebyg yng Nghaerdydd i leoli RAVS mewn arcêd siopa, er mwyn meithrin yr ymdeimlad o hiraethu am oes a fu ac annog y naws ‘trysor cudd’. Amcan arall oedd gwella poblogrwydd ac amgylchedd arcedau Abertawe i’r un safon â rhai Caerdydd. Mae Depop yn wefan adnabyddus am brynu a gwerthu dillad retro; yn aml dwi’n hoffi disgrifio RAVS fel Depop y byd go iawn, heb y gost ariannol ac amgylcheddol ychwanegol o ffioedd comisiwn a chludiant. Mae hyn yn golygu y gallwn drosglwyddo’r arbedion hyn i’r cwsmer ar ffurf prisiau is a thecach. Dwi’n teimlo bod y gymuned o fyfyrwyr a phobl leol sydd wedi tyfu o gwmpas RAVS yn y flwyddyn ddiwethaf wedi profi’r galw sylfaenol am y math hwn o ddillad ac mae’r siop wedi dod yn lleoliad siopa rheolaidd i lawer. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth prisio a phrynu stoc gan ein cwsmeriaid – mae hyn yn caniatáu i bobl gyfnewid hen ddillad am gredyd yn y siop neu arian parod, rhywbeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol i lawer mewn cyfnod o gyni. Mae hefyd yn cyfrannu at leihau gwastraff dillad.

Ydych chi’n gobeithio tyfu eich busnes ac agor siopau mewn dinasoedd eraill?

Er bod pandemig Covid-19 wedi rhoi stop ar gynlluniau i ehangu’r busnes ar hyn o bryd, mae hefyd wedi rhoi amser i mi lunio nifer o gynlluniau creadigol am y flwyddyn i ddod a dwi’n edrych ymlaen at y dydd pan fydd modd iddyn nhw gael eu gwireddu. Mae Abertawe’n unigryw yn y rhagolygon mae’n eu cynnig: rhwyddineb ymsefydlu yn y farchnad a rhenti isel. Fy ngobaith yw cadw RAVS ar agor ac yn ffynnu cyhyd â phosib, gan bob amser cynnwys y Brifysgol a chyflogi myfyrwyr. Fodd bynnag, ar ôl graddio, dwi’n gobeithio cychwyn menter newydd yn ne Cymru, a fydd yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gynaliadwyedd ac ailgylchu, ar raddfa ddigon mawr i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i ddiwydiannau penodol megis adeiladu. Dwi’n gweld RAVS fel cyfle i gael profiad o arweinyddiaeth, cysylltiadau â chwsmeriaid/cyflenwyr ac i gronni cyfalaf, sgiliau hanfodol a fydd yn fy helpu ar fy llwybr i lwyddiant yn y dyfodol.

RAVS Siop Ar-lei

ravs retro and vintage store, swansea

Pa uchelgeisiau sydd gennych am y dyfodol, ar eich cyfer chi a’r busnes?

Fel dwi eisoes wedi’i nodi, fy uchelgeisiau am y dyfodol yw gwneud effaith gadarnhaol go iawn ar y byd drwy annog uwchgylchu ac ailddefnyddio hen ddeunyddiau, lleihau gwastraff ac allyriadau carbon. Dwi’n gobeithio defnyddio fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol i ddatblygu syniadau am sut i wireddu hyn a defnyddio’r adnoddau a’r cyngor helaeth sydd ar gael yn yr Ysgol Reolaeth i lunio cynllun busnes effeithiol am y dyfodol.

Ar ôl graddio, dwi’n bwriadu teithio am chwe mis neu flwyddyn i gasglu syniadau a gwybodaeth am gynhyrchion a gwasanaethau a allai fod ar gael mewn gwledydd eraill nad ydynt ar gael yma ar hyn o bryd. Fy ngobaith yw y bydd dysgu gan arferion gwaith a diwylliannau eraill yn fy helpu i greu’r amgylchedd gwaith mwyaf effeithiol a chynhyrchiol posib ar gyfer mentrau yn y dyfodol.

Beth byddech chi’n ei ddweud am Abertawe, fel Prifysgol ac fel Dinas, o ran sefydlu busnes newydd yma?

Yn fy marn i, mae Abertawe’n lleoliad delfrydol i gychwyn y rhan fwyaf o fusnesau. Mae’r boblogaeth uchel o fyfyrwyr yn y ddinas yn golygu bod cynnal ymchwil gywir i’r farchnad yn hwylus, oherwydd bod myfyrwyr, o’u natur, yn aml yn fodlon cwblhau holiaduron a does dim angen llawer o gymhelliant arnynt.

Mae llawer o gwmnïau mawr fel BT hefyd yn arloesi ym meysydd technoleg ac isadeiledd yma, felly mae’n ddinas arloesol â llawer o botensial. Mae’n hawdd cysylltu â’r cyngor lleol hefyd ac mae nifer o grantiau, cymorthdaliadau a ffynonellau cyllid ar gael i fusnesau o bob maint gan fod y ddinas yn croesawu ac yn annog busnesau newydd. Un cynllun sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol i mi yw ‘Busnes sy’n Datblygu’ (BiD) Abertawe a fydd yn gweithio, am ffi flynyddol fach, i hysbysebu, hyrwyddo a chynyddu diogelwch busnesau bach a lleol yn y ddinas a’r cyffiniau.

Oes gennych chi atgofion arbennig am eich cyfnod yn Abertawe hyd yn hyn?

Efallai ei bod hi’n swnio fel ystrydeb i fyfyriwr o Abertawe ddweud hyn, ond mae’r ffaith ei bod mor agos at y traeth yn fantais enfawr i’r brifysgol, ac i’r ddinas; does dim lle arall yn debyg iddi. Dwi wedi creu llawer o atgofion ym Mae Abertawe gyda’m ffrindiau a dwi wedi teithio ar hyd y Bae i’r Mwmbwls a’r tu hwnt, i rai o draethau gorau’r byd.

Mae bywyd y brifysgol, cyflogaeth a phreswylfeydd amrywiol wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â grŵp o ffrindiau gydol oes a dod i adnabod pobl sydd wedi fy nghynorthwyo a’m hannog ar hyd y ffordd i wireddu fy angerdd am entrepreneuriaeth a chynaliadwyedd.

Wrth feddwl am un atgof arbennig, byddwn i’n dweud y byddai agor ail lawr siop RAVS ym mis Ionawr 2020 ar y brig. Ar ôl chwe mis o waith a llafur caled, trefnon ni ddigwyddiad agor mawreddog gyda DJs byw a lluniaeth. Wrth weld y ciw o bobl y tu allan i’r drws oherwydd poblogrwydd y digwyddiad, ces i ymdeimlad o ryddhad pur bod ein holl waith wedi dwyn ffrwyth. Roedd gweld amrywiaeth o bobl o bob cefndir yn dod i’r agoriad hefyd yn pwysleisio’r gymuned a oedd wedi’i chreu o gwmpas y siop a sut roedd ei phoblogrwydd wedi datblygu yn y ddinas.