Photo of Simon Saxby

BSc Swoleg (1980)

Prif Swyddog Gweithredol Leaf Expression Systems Ltd

Pam y daethoch chi i Brifysgol Abertawe?

Yn wreiddiol, roeddwn i'n bwriadu astudio Bioleg y Môr a dim ond pedair prifysgol yn y DU oedd yn cynnig Bioleg y Môr ar y pryd, gan gynnwys Abertawe.

Beth oedd y pethau gorau am eich cwrs?

Yr hawl i ddewis o amrywiaeth eang o bynciau yn fy ail flwyddyn a fy nhrydedd flwyddyn, a wnaeth fy ngalluogi i deilwra fy nghwrs ar sail fy niddordebau fy hun.

Beth yw eich hoff atgofion o'ch amser yn Abertawe?

Byw yng Nghastell Clun yn fy mlwyddyn gyntaf a fy nhrydedd flwyddyn. Gwneud ffrindiau sydd wedi para hyd heddiw. Y lleoliad. Y cwrs. Slade yn canu yn neuadd ddawns Castell Clun ar gyfer ein dawns Going Down. Crwydro tafarnau'r Mwmbwls! Pydew nadroedd a gwiberod Lionel Kellaway y tu ôl i'r adeilad Sŵoleg. Gweld fy nghanlyniad terfynol ar y bwrdd yn yr adran Sŵoleg.

Beth a wnaethoch chi ar ôl graddio? Sut gwnaethoch chi gyrraedd eich rôl bresennol?

Gwnes i weithio fel argraffydd am oddeutu wyth mis cyn cael fy swydd gyntaf ym maes gwyddoniaeth yn y Labordy Bioleg Foleciwlaidd ("LMB") yng Nghaergrawnt. Symudais i i gwmni biotechnoleg ar ôl dwy flynedd ac rwyf wedi aros ym maes biotechnoleg ers hynny. Ar ôl cyd-sylfaenu cwmni gwasanaeth arloesi a datblygu biotechnoleg yng Nghaergrawnt yn y DU, ces i gynnig uniongyrchol i weithio ym Massachusetts yn Unol Daleithiau America lle gwnes i helpu i ddylunio ac adeiladu cyfleuster gwasanaethau contractau cynhyrchion bioleg cGMP. Ers hynny, rwyf wedi dylunio ac adeiladu cyfleusterau GMP yn y DU ac yn Asia. Rwyf wedi bod yn brif swyddog gweithredol cwmnïau cyhoeddus a phreifat ac rwy'n gyfarwyddwr anweithredol ac yn ymgynghorydd i gwmnïau biotechnoleg a thechnoleg feddygol eraill. Roeddwn i'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Dechnegol Fienna am nifer o flynyddoedd, rwy'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Caergrawnt ar eu cwrs Meistr mewn Mentergarwch Biotechnoleg ac rwy'n mentora un o raddedigion Abertawe.

Ble rydych chi'n gweithio nawr? I ba raddau y mae eich profiad yn Abertawe wedi eich helpu i ddatblygu/gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa?

Mae Leaf Expression Systems Ltd yn fusnes gweithgynhyrchu a datblygu contractau biotechnoleg lle rydyn ni'n mynegi ac yn cynhyrchu proteinau, gan gynnwys brechlynnau a gwrthgyrff monoclonol, yn nail planhigion.  Pe bawn i heb astudio sŵoleg a chael yr hawl i ddewis cyrsiau mewn bioleg celloedd, imiwnoleg, ffisioleg, etc, rwy'n amau'n fawr y byddwn i wedi cyflawni'r un pethau ers i fi raddio.

Beth yw eich diwrnod gwaith arferol neu beth yw'r pethau mwyaf cyffrous am eich gwaith?

Cyfarfodydd – mewnol ac allanol. Fel prif swyddog gweithredol, rwy'n gyfrifol am bob agwedd ar y busnes, o iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, adnoddau dynol, materion cyfreithiol, cyllid, datblygu'r busnes a chysylltiadau â'r bwrdd a'r buddsoddwyr. Yn ogystal, rwy'n helpu i feithrin ein rhwydwaith cysylltiadau ac rwy'n arwain cysylltiadau â'r llywodraeth.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried astudio yn Abertawe?

Ewch! Cewch chi addysg wych, byddwch chi'n dysgu rhai gwersi bywyd gwerthfawr, a chewch chi amser gwych yn un o’r lleoliadau prifysgol mwyaf rhagorol yn y byd!