Anrhydeddus Shekhar Dutt SM gyda'i radd Anrhydeddus.

PGDip Economeg Ddatblygu. Blwyddyn Graddio 1984. Llywodraethwr. Ysgrifennydd Amddiffyn to Llywydd Cymdeithas Frenhinol Cemeg.

Dechreuodd Mr Shekhar Dutt ei fywyd gwaith fel Swyddog y Fyddin ym 1967, ac yn ystod ei amser yn y fyddin Indiaidd bu'n cymryd rhan yn rhyfel 1971 Indo-Pak yn y Gorllewin (Sindh - Rajasthan Sector) ac fe ddyfarnwyd Medal Sena iddo am ei ddewrder.

Graddiodd gyda diploma i raddedigion mewn astudiaethau economeg ddatblygu.  Roedd yn gymhwyster a wasanaethai'n dda iddo yn ystod camau nesaf ei yrfa, pan, ym 1985 daeth yn Gomisiynydd, rhanbarth Raipur, yn nhalaith Madhya Pradesh, ac, ar yr un pryd, yn Gadeirydd awdurdod datblygu ardal reoli Mahanadi.  Caniataodd y ddeiliadaeth iddo gynllunio a gweithredu datblygiad cyffredinol o'r diriogaeth sydd bellach yn cael ei hadnabod fel talaith Chattisgarh. 

Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Ysgrifennydd yn adrannau addysg ysgolion, chwaraeon a lles ieuenctid rhwng 1997 a 1998, cafodd ei gredydu gyda chyflwyno rhaglen arloesol, y 'Cynllun Gwarantu Addysg' lle'r oedd panchayat cymunedol neu gynghorau pentref, yn berchen ac yn rhedeg ysgolion.  Datblygodd hefyd system lle gallai athrawon ysgol gynradd gael eu hanfon i ysgolion mewn mannau anghysbell, gan ledaenu'r addysg elfennol sydd ar gael ledled Madhya Pradesh.

Daeth Shekhar Dutt yn Ysgrifennydd Amddiffyn i Lywodraeth India yn 2005, swydd a gadwodd tan Orffennaf 2007.  Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd nifer o fentrau ar gyfer moderneiddio ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu polisi caffael amddiffyn newydd.   Yn ystod y cyfnod hwn y gwireddwyd fframwaith newydd ar gyfer perthynas amddiffyn yr Unol Daleithiau-India a sefydlwyd mecanweithiau sefydliadol ar gyfer deialog Indo-UDA, gan fraenaru'r tir ar gyfer mwy o gydweithrediad rhwng yr India a'r Unol Daleithiau mewn materion amddiffyn a strategol.

Gwasanaethodd Shekhar Dutt ar fwrdd llywodraethwyr Prifysgol DeSales yn yr Unol Daleithiau o 2008 i 2010.  Fel Llywodraethwr Chattisgarh, mae wedi bod yn Ganghellor i 11 o brifysgolion gwladol sy'n cyd-fynd â'i ddiddordeb brwd ym maes addysg uwch ac yn hyrwyddo meddwl yn wyddonol ac yn ddeallusol ymysg pobl ifanc.

Mae Shekhar Dutt wedi crynhoi ei brofiadau mewn dau lyfr: Reflections on Contemporary India a India’s Defence and National Security.

Derbyniodd wobr Paul Appleby 2016 am wasanaethau eithriadol ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus, a heddiw mae'n aelod o nifer o fyrddau llywodraethu ac ymgynghi, yn ogystal â bod yn Is-lywydd Cyngor Gweithredol Sefydliad Gweinyddiaeth Gyhoeddus India.

"Mae'r hyn a ddysgais yn Abertawe wedi dylanwadu ar fy meddwl ac wedi fy helpu i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion."

Ym mis Gorffennaf 2018, dyfarnodd y Brifysgol radd er anrhydedd i Shekhar Dutt, sef aelod neilltuol o’n cymuned gyn-fyfyrwyr. 

Ar dderbyn ei ddyfarniad, adfyfyriodd Shekhar Dutt ar ei gyfnod yn Abertawe, "Er mawr syndod imi, sylweddolais fy mod yn dal i feddu ar y llyfrau yr oeddwn wedi'u prynu yn Abertawe. Rwy'n cofio Cyngor yr Athro Mike Shephardson i mi - Darllena "Development and Underdevelopment in Historical Perspective” gan Gavin Kitching a oedd hefyd yn dysgu ym Mhrifysgol Abertawe."

"Agorodd yr Athro Shephardson ac eraill yn Abertawe ddrws i mi, lle y gallwn weld achosion tlodi mewn gwledydd datblygol a'r damcaniaethau posibl ar gyfer datblygu polisïau cenedlaethol i'w lliniaru. Mae'r hyn a ddysgais yn Abertawe wedi dylanwadu ar fy meddwl ac wedi fy helpu i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion."