Graddiodd Sarah Leanne Powell o Brifysgol Abertawe a hi yw’r fenyw gyntaf i fod yn Brif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru.

Cafodd Sarah Leanne Powell ei haddysg yn Ysgol Gyfun Porthcawl. Aeth ymlaen i astudio seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe cyn ennill ei chymhwyster addysgu TAR o UWIC.

Dechreuodd ei gyrfa waith fel athrawes ysgol uwchradd yn Lewis Girls Comprehensive, Ystrad Mynach cyn ymuno â Chyngor Chwaraeon Cymru i weithio gyda Chyrff Llywodraethol Cenedlaethol Cymru (NGBs) dros chwaraeon.

Mae hi'n gyn gapten Hoci Cymru, ac wedi ennill dros 70 o uwch gapiau ac wedi chwarae yng Ngêmau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur ym 1998. Treuliodd 10 mlynedd yn chwarae ar lefel uwch cyn ymddeol o gystadlu’n rhyngwladol i hyfforddi tîm hoci Cymru dan 18.

Ymunodd â Chwaraeon Cymru a bu'n Gyfarwyddwr perfformiad uchel rhwng 2008 a 2010. Daeth yn bennaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Chwaraeon Cymru yn 2010 ac yn 2013 daeth yn Brif Swyddog Gweithredol benywaidd cyntaf Chwaraeon Cymru.

Ar ôl derbyn ei gwobr er anrhydedd yn 2017, dywedodd: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint i dderbyn y wobr hon. I fod yn ôl yn Abertawe lle mae gen i gynifer o atgofion gwych o’r chwaraeon ac astudio, mae’n gwneud y diwrnod hwn a'r gydnabyddiaeth hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae chwaraeon yn rhan bwysig iawn o'n DNA ni yng Nghymru, rhywbeth sy’n gallu ein rhannu ar y terasau ond ein huno fel cenedl.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau sy'n gweithio'n ddiflino i wneud i chwaraeon ddigwydd. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn i fod yn rhan o hwnnw. Yn olaf, diolch i Brifysgol Abertawe a phawb sy'n gysylltiedig â gwneud hyn yn ddiwrnod i'w gofio."