Renee Godfrey

BA Anthropoleg. Blwyddyn Graddio 2003. Syrffiwr. Cyflwynydd a Chynhyrchydd Rhaglenni Dogfen.

Gall dewis prifysgol fod yn anodd. Sut y gwnaeth Prifysgol Abertawe amlygu ei hun?

Mae Prifysgol Abertawe mor agos at y môr ac roedd ei lleoliad heb os yn ffactor mawr i mi – mae bod yn agos at y môr, a chael traethau lle’r oeddwn yn gallu syrffio wedi dylanwadu ar nifer o benderfyniadau yn fy mywyd hyd yn hyn.

Beth yw’ch atgofion melys am eich cyfnod yn Abertawe?

Syrffio a mynd am dro yn gynnar yn y bore, cymeriadau lliwgar ac angerddol yr Adran Anthropoleg a chreu fy ffilm anthropolegol gyntaf.

A oes gennych chi unrhyw gyngor yr hoffech chi ei roi i’n myfyrwyr presennol a’n graddedigion newydd?

Dylech chi bob amser geisio dewis llwybr mewn bywyd lle rydych chi’n dilyn un o’ch angerddau. Os ydych chi’n credu yn yr hyn yr ydych chi’n ei wneud, ac rydych chi’n dwlu ar ei wneud yna byddwch chi’n ei gyflawni i’r gorau o’ch gallu.

Beth yw’r pethau o’r ddinas ac o’ch amser yn y Brifysgol yr ydych chi’n gweld eu heisiau fwyaf?

Yr amser rhydd rhwng astudio er mwyn mynd i syrffio a cherdded ar hyd yr arfordir. Fel mae’n digwydd mae gweithio amser llawn a chael teulu ifanc yn golygu nad oes llawer o amser i fynd syrffio!

O bencampwr syrffio i wneuthurwr ffilmiau dogfen. Yn eich barn chi pa mor bwysig yw rôl y gwneuthurwr ffilmiau dogfen o ran pwysleisio effaith bodau dynol ar y blaned?

Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweld nifer o ffyrdd y gall pobl ryngweithio â’u hamgylchedd. Roedd Human Planet yn gyfres a oedd yn seiliedig ar bwysleisio ein cysylltiad â byd natur ar draws y byd – boed yn bysgotwyr ar afon Mekong sy’n dibynnu ar fudo cathbysgod, neu hyfforddi gwreiddiau coed ffigs i greu pontydd gwreiddiau byw sy’n mynd i’r afael â llifogydd y monsynau ym Meghalaya. Ceir perthnasoedd anhygoel rhyngom ni a byd natur – ond nid yw pob un ohonynt mewn lleoedd anghysbell.

Mae’n bwysig i ni gofio bod llawer o bobl yma yng Nghymru’n dibynnu ar y tymhorau fel y ffermwyr yn Eryri neu’r pysgotwyr crancod oddi ar arfordir Ceredigion. Yn y pen draw mae gan bob un ohonom ni gysylltiad â byd natur ac mae hwn yn rhywbeth y dylai bob un ohonom ni ei barchu a’i ddeall yn enwe dig wrth i’n hamgylchedd symud.

Rydych chi wedi sefydlu eich cwmni cynhyrchu eich hun gyda James Honeyborne, y person a greodd cyfres Blue Planet y BBC. Dywedwch wrthym am rai o’r prosiectau yr ydych chi’n gweithio arnynt gyda’ch gilydd?

Sefydlodd James a minnau Freeborne Media er mwyn dod a’n sgiliau a’n profiad ynghyd. Mae’n gydweithrediad cyffrous a ffres iawn ac rydym yn bwriadu parhau i greu ffilmiau sy’n rhannu negeseuon pwysig ar draws y blaned. “Mae ‘effaith Blue Planet 2’ wedi bod mor bwerus bod ei heffaith yn parhau hyd heddiw trwy ein hymwybyddiaeth o blastig ac iechyd ein cefnforoedd. Erbyn hyn mae Freeborne yn bartneriaeth greadigol â Netflix a gyda’n gilydd rydym yn bwriadu parhau i adrodd straeon pwerus mewn ffyrdd cyfareddol.