Rawan Taha.

MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Blwyddyn Graddio 2018. Deiliad Ysgoloriaeth Eira Francis Davies. Cymrawd Materion Dyngarol. Ymgyrchydd yn Erbyn Newid Hinsawdd.

Rydym yn falch bod un o’n graddedigion Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd, Rawan Taha, a raddodd yn 2018, yn gweithio gyda Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP) fel Cymrawd Materion Dyngarol bellach. Mae Rawan yn gweithio yn Sambia ac mae ei rôl yn rhan o gyd-raglen gymrodoriaeth rhwng y Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Affricanaidd dros arweinwyr benywaidd ifanc.

Pan fydd hi'n gweithio gydag UNDP, mae Rawan yn gweithio ar y cynllun ymateb dyngarol i ddarparu mecanweithiau ar gyfer adfer cynnar a gwytnwch i helpu i ddiogelu bywydau a bywoliaeth Sambiaid gan ystyried newid yn yr hinsawdd sy’n arwain at law afreolaidd sy’n achosi sychderau mewn rhannau amrywiol o’r wlad a rhanbarth De Affrica.

Mae Rawan yn dweud wrthym am ei phrofiad ym Mhrifysgol Abertawe isod.

Fel menyw Affricanaidd ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Ar ôl i fi wneud cais am Ysgoloriaeth Eira Francis Davies ar gyfer Menywod Affricanaidd yn y Gwyddorau Iechyd a chael fy newis, penderfynais i astudio yn Abertawe.

"Yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs oedd y rhyddid i ysgrifennu fy aseiniadau ar bynciau o’m dewis..."

Yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs oedd y rhyddid i ysgrifennu fy aseiniadau ar bynciau o’m dewis, ac i ddatblygu fy nghwricwla fy hun, fy rhestrau darllen fy hun, ac oherwydd fy niddordebau fy hun, gwnes i raddio gyda gwybodaeth eang am amrywiaeth eang o bynciau ac rwyf wedi ymchwilio i feysydd sy’n mynd y tu hwnt i faes iechyd cyhoeddus. Mae hyn wedi cyfrannu at fy nealltwriaeth gyfannol o systemau iechyd drwy integreiddio safbwyntiau cymdeithasol a meddygol.

Fi oedd cynrychiolydd pwnc Iechyd Cyhoeddus fy ngharfan. Roeddwn i hefyd yn aelod o gymdeithas Cyfeillion MSF (Medicines Sans Frontiers). Drwy gydol fy mlwyddyn academaidd, roedd gennyf nifer o swyddi ar y campws. Bues i’n gweithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery yn ystod yr haf fel Cynorthwy-ydd i Wirfoddolwyr gydag Anghenion Arbennig.

Bues i hefyd yn gweithio fel Intern Ymchwil yn y Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Polisi ac Ymchwil i Anafiadau Llosg o dan oruchwyliaeth yr Athro Tom Potokar. Bues i ar ddau leoliad gwaith ychwanegol, un gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r llall gyda Chanolfan Gydweithredol ar gyfer Cemegion Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yng Nghaerdydd. Mae’r cyfleoedd hyn wedi cyfrannu at fy natblygiad academaidd a gyrfaol hyd yn oed y tu hwnt i’m gwaith cwrs a’m darlithoedd.

Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw i ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’w gradd, eu traethawd a’u trawsgrifiadau. Dim ond wedyn fyddwch chi’n gallu ennill swydd a chael bywyd sydd y tu hwnt i’ch disgwyliadau.