Ravindran Navaratnam

BSc Peirianneg Drydanol 1987
Cyfarwyddwr Gweithredol yn Sage 3

Eich gyrfa

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Ymgynghoriaeth PwC ac yn Rheolwr Cyffredinol Cyllid Corfforaethol ar gyfer Pengurusan Danaharta Nasional Bhd cyn fy swydd olaf fel Uwch-swyddog Gwybodaeth Bursa Malaysia (sef Cyfnewidfa Stoc Kuala Lumpur gynt). Cefais fy atgyfeirio gan PwC i gynorthwyo wrth sefydlu Cwmni Rheoli Asedau cyntaf Tsieina, sef China Cinda Asset Management Co, Ltd (CINDA).

Rwyf wedi cael profiad ymgynghori helaeth yn y DU, De-ddwyrain Asia a Tsieina. Cymhwysais fel cyfrifydd siartredig gyda Sefydliad y Cyfrifyddion Siartredig yng Nghymru a Lloegr a dilynais brentisiaeth gyda Deloitte and Touche. Cyd-sefydlais i Sage 3 yn 2005 ac erbyn hyn, mae'r cwmni yn un o'r cwmnïoedd Ymgynghori Arbenigol mwyaf blaenllaw yn Ne-ddwyrain Asia.Ar hyn o bryd, rwyf yn cwblhau rhaglen ddoethurol gyda Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Hong Kong, sef prifysgol ymchwil flaenllaw Asia ym maes busnes. Rwyf wedi cyhoeddi sawl darn o waith mewn cyfnodolion ac mae gen i brofiad helaeth o siarad mewn digwyddiadau.

Sut byddech chi'n crynhoi eich profiad gyda Phrifysgol Abertawe?

Amser mwyaf anhygoel fy mywyd. Gwnes i ffrindiau gydol oes ac rwyf yn dal i ymweld â nhw a chadw mewn cysylltiad 40 mlynedd yn ddiweddarach. Roedd yr amgylchedd yn un a oedd yn fy helpu i lwyddo, gan roi hyder i mi sydd wedi fy ngalluogi i i lwyddo ers graddio. Abertawe yw fy lle arbennig.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?

  1. Neuadd Beck, lle treuliais i fy amser yn Abertawe. Gwnes i lawer o ffrindiau newydd, a dyna oedd fy nghartref oddi cartref. Roedd bob amser yn bleser cerdded i'r Brifysgol ac yn ôl, yn hytrach nag aros ar y campws, a sgwrsio â'm ffrindiau o'r neuadd breswyl ar y ffordd yn ôl.
  2. Canol y dref. Roeddwn i'n mwynhau mynd i glybiau nos, bwytai ac i'r sinema, er es i ddim gormod oherwydd y gyllideb myfyriwr dynn a oedd gen i!
  3. Parc Singleton, lle byddem ni'n chwarae pêl-droed yn yr haf a phleser cerdded drwy'r parc i'r Brifysgol a galw i mewn i'r siop gornel wrth ymyl y parc i brynu Kit-Kat

Pam dewisoch chi astudio ar gyfer eich gradd yn Abertawe?

Er nad oedd Abertawe yn ddewis cyntaf i mi, ac yn fwy o ddewis drwy ddamwain oherwydd newid fy meddwl o ran cwrs, o Beirianneg Sifil i Beirianneg Drydanol, yn y pen draw, roedd yn droad ffawd ffodus iawn.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun a oedd yn meddwl am fynd i'r Brifysgol?

Byddwn, rwyf wedi cynorthwyo'r brifysgol yn Kuala Lumpur yn ei hymgyrch recriwtio. Byddwn i'n dweud mai'r prif resymau dros ddewis Abertawe fyddai ei bod hi'n brifysgol dda iawn am beirianneg, gydag addysgu da, cyfleusterau rhagorol, mae'n lle cyfeillgar ac mae'r costau'n is na rhannau eraill o'r DU, ac rydych chi'n cael cyfle i fwynhau byw mewn dinas lai os ydych chi'n dod o ddinas fawr iawn yn Asia.

Sut gwnaeth eich gradd chi eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Gweithiais i am ychydig dros flwyddyn yn Seagate, Singapôr. Fodd bynnag, y fantais allweddol a oedd gen i dros beirianwyr ifanc oedd y gallu i feddwl am sut i ddatrys problemau neu archwilio materion drwy greu arbrofion maes. O ganlyniad i'm gradd, roedd gen i ddealltwriaeth gadarn o electroneg a pheirianneg reoli i ddeall y cynnyrch a oedd yn cael ei weithgynhyrchu. Gwnaeth yr holl ffactorau hyn gyfrannu at fy nyrchafu i Uwch-beiriannydd a Rheolwr Dros Dro. Hefyd diolch i'r wybodaeth a ges i yn y brifysgol, roeddwn i'n gallu ateb cwestiynau'r cyfweliad a wnaeth arwain at fy mhenodi, yn ystod dirywiad economaidd sydyn a sylweddol. O ran dilyniant fy ngyrfa cyfrifeg siartredig, helpodd y radd 2:1 i mi sicrhau prentisiaeth a safon academaidd uchel iawn y raglen radd.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr yrfa gawsoch chi?

Mae fy llwyddiannau yn fy ngyrfaoedd peirianneg, cyfrifeg, ymgynghori rheoli neu gyllid corfforaethol yn uniongyrchol gysylltiedig â chael athrawon da a gweithio gyda phobl ddisglair iawn. Mae dyfalbarhad personol yn hanfodol i lwyddiant ond mae amgylchedd addas yn galluogi person i ddysgu a thyfu. Gwnaeth Abertawe fy helpu i gyflawni'r ddau o ran addysgu rhagorol ac amgylchedd llawn anogaeth (gan gynnwys cael cyfeillion disglair iawn yn y dosbarth, a oedd hefyd yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd), gan fy ngalluogi i ddysgu a thyfu.