Yr Athro Paul Dolan yw Pennaeth Adran ac Athro Gwyddor Ymddygiad yn yr LSE.

Yn enedigol o Lundain ac o gefndir dosbarth gweithiol balch, Paul oedd y person cyntaf yn ei deulu i fynd i'r brifysgol. Ei feini prawf ar gyfer dewis Prifysgol oedd dewis un cwpl o gannoedd o filltiroedd o’i gartref, fel na allai ei rieni fynd yno’n ddirybudd. Roedd bod mewn Prifysgol â champws hefyd yn atyniadol iddo ac felly, gyda'r lleoliad ger y traeth a’r pellter o Lundain, roedd Abertawe yn ateb y gofynion.

Wrth fyfyrio ar ei gyfnod yn Abertawe Mae Paul yn adrodd "Gyrrodd fy nhad fi i Abertawe gyda fy holl stwff yng nghefn y car. Aethon ni am gwrw yn nhafarn yr Antelope yn y Mwmbwls ac fe wnes i ddweud wrtho bydd angen i mi gael swydd i'm cadw i fynd tra byddaf i'n astudio. Dywedodd fy nhad pam na ofynni di fan hyn, a d’wedais i 'Beth? Nawr?' Felly, es i at y bar a gofyn a oedd eisiau staff arnynt. Dechreuais weithio yn yr Antelope o'm hwythnos gyntaf yn Abertawe. Roeddwn yn gweithio nos Wener a Sadwrn ac ar ddiwedd y noson byddwn yn mynd yn syth i Cinderella's i ymuno â fy ffrindiau".

Yr Athro Paul Dolan.

"Mi wnes i fwynhau fy hun yno'n fawr, mae'n lle bendigedig, roeddwn i wrth fy modd yno (Abertawe)"

Mae Paul yn cofio iddo gael amser gwych yn Abertawe. "Mi wnes i fwynhau fy hun yno'n fawr, mae'n lle bendigedig, roeddwn i wrth fy modd yno".  Mae hefyd yn diolch i Abertawe am wneud iddo sylweddoli faint y mae’n mwynhau dysgu. Roedd ei gyfnod yn Abertawe wedi hau'r hadau ar gyfer ei yrfa academaidd.

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau israddedig, ystyriodd Paul gyfrifyddiaeth am gyfnod ond yn y pen draw aeth i Brifysgol Caerefrog, lle dechreuodd ymddiddori mewn economeg iechyd. Y gwaith hwn a ysgogodd ei ddiddordeb mewn gwyddor ymddygiad.

Ar ôl cwblhau ei PhD, dechreuodd Paul wneud rhywfaint o waith addysgu ochr yn ochr â’i ymchwil. Gan gydnabod diogelwch a sicrwydd ei yrfa ddosbarth canol newydd, taflodd Paul ei hun i mewn i'w yrfa academaidd. Arweiniodd cynhadledd hapusrwydd ym Milan a sgwrs hap ar fws gyda'r seicolegydd Daniel Kanneman, enillydd gwobr Nobel, at Paul yn mynd i Princeton a dechreuodd eu syniadau ynghylch hapusrwydd ac yn enwedig seicoleg hapusrwydd ffurfio.

Mae gwaith Paul bellach yn canolbwyntio ar fesur hapusrwydd, ei achosion a'i ganlyniadau, a'r goblygiadau i bolisi cyhoeddus. Mae wedi cynghori llywodraethau ar wyddor ymddygiad ac wedi ysgrifennu'r cwestiynau sy'n cael eu defnyddio i fonitro hapusrwydd yn y DU.

Mae ei waith yn herio’r confensiynau cymdeithasol o’r hyn mae'n ei olygu i fod yn hapus. Y myth arian, swydd, priodas; Mae'r naratif hwn yn rhoi canllaw i ni fyw ein bywydau. Nid yw’r cysyniadau hyn wedi ystyried bywyd presennol ac er eu bod i nifer yn gweithredu fel patrwm defnyddiol, i eraill gallant achosi mwy o niwed na lles. Cyngor Paul yw cefnu ar y naratif cymdeithasol os nad yw'n addas i chi. Rhaid i bob un ohonom benderfynu pryd y byddwn yn cydymffurfio ac o dan ba amgylchiadau yr ydym am fod yn amlwg. Gall pob un ohonom fyw ein bywydau mewn ffyrdd sy'n cynyddu ein hapusrwydd personol gymaint â phosibl wrth hefyd gymryd cyfrifoldeb dros effaith ein gweithredoedd ar eraill. Mae Paul wedi cyhoeddi dau lyfr, "Happiness by Design" a "Happy Ever After".