Abdulrauf Waziri

Dirprwy Gydlynydd Meddygol gyda Medecins du monde
MSc Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd 2019

Sut wnaethoch chi benderfynu dod i Brifysgol Abertawe?

Roedd y penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn un rhwydd. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da yn fyd-eang ac mae wedi'i gosod mewn safle uchel iawn yn y DU ac yn fyd-eang. Mae ganddi safon aur am ragoriaeth addysgu. Mae ei henw da yn dyst i'r lefel uchel o ragoriaeth academaidd a'i rhaglenni ymchwil o safon fyd-eang.

Mae'r Brifysgol mewn lleoliad godidog, ychydig  funudau o'r traeth. Mae hyn yn cynnig lle ardderchog i ymlacio ac i grwydro. Roedd naws amlddiwylliannol y Brifysgol hefyd yn drobwynt i mi. Mae'r Brifysgol yn un gosmopolitaidd gyda myfyrwyr o wledydd ar draws y byd. Mae gan y Brifysgol gyfleoedd bwrsariaeth ac ysgoloriaeth heb eu hail. Derbyniais fwrsariaeth gwerth £3,000 tuag at fy ffioedd dysgu. Dyma lefel uchel o haelioni yn wir gan y Brifysgol. Ar ben hynny, mae'r ffaith mai Prifysgol Abertawe yw un o'r unig brifysgolion yn y byd sy'n cyfuno iechyd y cyhoedd a hybu iechyd mewn un cwrs.

Beth oedd y pethau gorau am eich cwrs?

Yn fy marn i, iechyd y cyhoedd yw'r agwedd bwysicaf ar feddygaeth. Mae’n gallu helpu i atal a dod ag atebion i faterion iechyd yn fwy nag unrhyw faes arall. Roedd y cwrs MSc Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn hynod o ddiddorol, yn ddwys iawn ac yn wir yn werth chweil. Gwnaeth cael y cyfle i fynd ar leoliad gwaith i faes iechyd y cyhoedd proffesiynol yn y DU fy helpu i weld sut oedd modd defnyddio’r theori y gwnes i ddysgu yn ystod y cwrs mewn ymarfer iechyd y cyhoedd. Mae hyblygrwydd y cwrs hefyd yn cynnig digon o amser a chyfleoedd i fyfyrwyr  wneud y darllen ac ymchwil unigol sydd eu hangen er mwyn llwyddo yn y rhaglen academaidd. Mae polisi drws-agored y darlithwyr hefyd yn cynnig gwarchodaeth a chyngor cyflym pan fo angen.

Beth yw eich hoff atgofion o’ch amser yn Abertawe?

Mae’r ffaith fy mod wedi derbyn y dyfarniad uchaf yn fy nhraethawd hir er imi fod yn fyfyriwr rhyngwladol oedd heb lawer o brofiad  ysgrifennu academaidd yn dangos y lefel uchel o arweiniad academaidd yn y Brifysgol. Mae pawb yn barod ac ar gael i helpu myfyrwyr. Roedd darlithwyr y cwrs, staff y Llyfrgell a staff y Ganolfan Llwyddiant Academaidd bob amser ar gael i helpu. Byddaf yn edrych yn ôl ag atgofion melys ar y cymorth y derbyniais yn ystod fy amser yn Abertawe a wnaeth hi’n bosibl i mi ragori mewn gwahanol ffyrdd

Beth wnaethoch chi ar ôl graddio? Sut wnaethoch chi gyrraedd eich rôl bresennol?

Ar ôl graddio’n llwyddiannus gydag MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd, dychwelais i Nigeria er mwyn parhau i gyfrannu at fy nghwota o ymateb i broblemau iechyd enbyd Nigeria. Yn syth ar ôl i mi ddychwelyd, cefais swydd gyda chorff anllywodraethol o Ffrainc (Medecins du monde), lle roeddwn yn cynnig gwasanaethau gwella cleifion i boblogaeth oedd wedi’i dadleoli’n fewnol. Ar ôl hynny, cefais swydd fel Cynorthwy-ydd Cydlynydd Meddygol gyda Medecins sans Frontiers ac yn hwyrach cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Gydlynydd Meddygol ar ôl rhagori yn fy swydd flaenorol, er roedd dal rhaid mynd trwy’r broses recriwtio. Mae MSF yn cynnig gwasanaethau gofal iechyd ansoddol i boblogaethau bregus ar draws Nigeria yn enwedig yn y gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain. Hefyd, rydym yn ymateb i epidemigion a dadleoli ar draws Nigeria. Rydw i hefyd wedi gweithio fel rhan o’r ymateb i’r achosion o covid-19, Colera a’r Frech Goch.

Oeddech chi'n aelod o gymdeithasau i fyfyrwyr? Wnaethoch chi fanteisio ar gyfleoedd eraill?

Roeddwn yn aelod o glwb Futsal Prifysgol Abertawe ac enillon ni bob gêm pêl-droed wnaethon ni chwarae yn ogystal ag ennill cynghrair Futsal BUCS a’r cwpan. Datblygodd hyn fy angerdd dros bêl-droed ac roedd yn blatfform i allu rhwydweithio gyda myfyrwyr eraill.

Ble ydych chi’n byw nawr? I ba raddau mae eich profiadau yn Abertawe wedi’ch helpu i ddatblygu/gwireddu eich dyheadau gyrfa?

Rydw i’n gweithio gyda Medecins sans Frontiers yn Nigeria fel Dirprwy Gydlynydd Meddygol. Darparodd y cwrs MSc ym Mhrifysgol Abertawe'r cymwysterau academaidd oedd eu hangen arnaf ar gyfer y rôl. Hefyd, mae’r sgiliau a ddysgais yn ystod y cwrs, gan gynnwys sgiliau dadansoddol, cyfathrebu, meddwl yn gritigol, sgiliau ymchwil, cymdeithasol, diwylliannol, sensitifrwydd, rheoli amser, cynllunio a threfnu, sgiliau ysgrifennu, hyder, a sgiliau gwneud penderfyniadau yn sgiliau yr wyf yn eu defnyddio i gwblhau fy nhasgau bob dydd yn effeithiol

Sut beth yw diwrnod arferol yn eich swydd neu beth yw'r pethau mwyaf cyffrous am eich swydd?

Rwy’n cynorthwyo’r Cydlynydd Meddygol wrth ddiffinio, arwain a chydlynu cwmpas meddygol cyfan y genhadaeth, yn unol â phrotocolau, safonau, polisïau a gwerthoedd MSF, er mwyn sicrhau ansawdd y gofal meddygol a ddarperir i’r gynulleidfa darged ac felly’n gwella eu hiechyd ac amodau byw yn gyffredinol. Rydw i hefyd yn cynrychioli MSF gerbron trydydd partïon ar faterion meddygol, gan sicrhau ein bod yn cynnal delwedd gyhoeddus dda a bod aliniad â diddordebau’r genhadaeth trwy gyswllt cyson â chynrychiolwyr eraill yn y wlad, gan rannu gwybodaeth â’r awdurdodau pan fo angen am siarter, gwerthoedd ac egwyddorion MSF. Mae pethau eraill yn cynnwys cymryd rhan a chyfrannu at ddiffinio a diweddaru'r polisi ar gyfer y wlad, y cynllun a chyllidebau blynyddol er mwyn datblygu’r prosiectau a’r rhaglenni sy’n ceisio mynd i’r afael â phroblemau dyngarol sydd yn y fantol, gan sicrhau eu heffeithlonrwydd a’u hansawdd. Rydw i hefyd yn hyfforddi ac yn ysgogi’r timoedd yn y genhadaeth er mwyn alinio’r holl staff maes â gwerthoedd a moeseg MSF gan sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu swydd i safonau ansawdd MSF. Rwy’n rhan o gasglu data a rheoli’r prosiectau yn ogystal â pharatoi adroddiadau misol, chwarterol a blynyddol a threfnu archifo data ac adroddiadau meddygol yn y prosiect. Rydw i hefyd yn sicrhau bod data cyson a chywir yn cael ei fwydo i’r System Gwybodaeth Rheoli Iechyd.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried astudio yn Abertawe?

Byddwn yn bendant yn argymell Prifysgol Abertawe i unrhyw ddarpar-fyfyriwr sy’n dymuno derbyn yr wybodaeth a’r mewnwelediad arbennig sydd eu hangen er mwyn rhagori yn yr yrfa o’u dewis. Y rheswm am hyn yw bod y Brifysgol yn cynnig y cydbwysedd cywir rhwng addysgu rhagorol, ymchwil, ac ansawdd bywyd uchel i’w myfyrwyr. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr sy’n gobeithio astudio ym Mhrifysgol Abertawe feddwl dwywaith – ewch amdani. Mae'r profiad yn eithriadol ac rwy'n dweud hyn fel un o'r nifer o fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i ragori yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe.