Dyn ifanc deunaw oed oedd Matt ar leoliad blwyddyn yn Ysgol Ryngwladol Mafikeng pan rannodd ef a Henry Matthews athro ysgol, syniad dros bowlen o jeli a hufen iâ. Ychydig a wyddant y byddai'r syniad hwn yn datblygu’n sefydliad llwyddiannus a fyddai'n grymuso cannoedd o blant drwy addysg. Ar ôl dychwelyd i'r DU, dechreuodd Matt ei astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac ymroi pob eiliad sbâr i godi arian ar gyfer achos SOS Africa ynghyd â'i ffrindiau a'i deulu.

"Ar hyn o bryd mae llawer o lwyddiant yr elusen oherwydd cefnogaeth a haelioni anhygoel staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ystod blynyddoedd cynnar datblygu’r elusen."

"Pan ddechreuais fy ngradd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2003 roedd SOS Africa yn cefnogi un plentyn. Erbyn i mi gwblhau fy PhD yn 2012, roedd SOS Africa wedi tyfu'n sefydliad ffyniannus a oedd yn grymuso bywydau llawer o blant drwy addysg. Ar hyn o bryd mae llawer o lwyddiant yr elusen oherwydd cefnogaeth a haelioni anhygoel staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ystod blynyddoedd cynnar datblygu’r elusen."

Yn 2010 cafodd SOS Affrica ei gyfle mawr wrth i Hyundai bartneru â'r elusen yn ystod Cwpan Pêl-droed y Byd 2010 yn Ne Affrica. Ysbrydolodd hyn Matt i ddilyn gyrfa lawn-amser yn SOS Affrica. Nawr fel Prif Swyddog Gweithredol yr elusen, mae Matt wedi gosod y bar codi arian yn uwch ac yn uwch gydag amrywiaeth o heriau mentrus a chreadigol i godi arian. Mae wedi gohebu'n bersonol â phob un o'r 200+ o noddwyr plant o amgylch y byd ac wedi parhau i esblygu rhaglenni addysg a chefnogaeth SOS Affrica ledled De Affrica. Yn ddiarwybod iddo yn 18 mlwydd oed, dechreuodd Matt ar oes o ymroi i weddnewid bywydau plant, a'u cymunedau, drwy rym addysg.