Maria Marling.

BA Rheoli Busnes. Blwyddyn Graddio 2012. Cyd-Sylfaenydd. Ffatri Fegan Gyntaf Cymru, Saveg.

Pan oedd Maria Marling a'i phartner yn cael trafferth dod o hyd i fwyd cyfleus yn seiliedig ar blanhigion mewn archfarchnadoedd, penderfynodd y pâr fynd i’r afael â’r mater eu hunain. Y canlyniad, SAVEG; cwmni bwyd cynaliadwy sy'n seiliedig ar blanhigion ac sydd wedi dyrchafu’r bei syml i gynnyrch sydd wedi ennill sawl gwobr.

Beth wnaeth i chi benderfynu astudio yn Abertawe?

Roedd gan Yr Ysgol Reolaeth enw gwych, ac roedd hyn yn bwysig i mi, achos roeddwn eisiau astudio Rheoli Busnes. Roedd gan y campws deimlad clòs a phawb mor gyfeillgar. Ar ben hynny, roedd y traeth ar garreg eich drws ac roedd y bywyd nos yn wych!

Oeddech chi wedi eisiau rhedeg eich busnes eich hun erioed?

Yr wyf bob amser wedi bod yn entrepreneuraidd.  Yn ferch ifanc, roedd gen i chwant am wneud fy arian fy hun, ac fel plentyn, byddwn i'n golchi ceir a chanu carolau am arian. Yn ystod fy amser yn Abertawe, fy nod oedd graddio gyda 2:1 a chael swydd dda, bod yn sefydlog yn ariannol a defnyddio'r amser hwnnw'n ddoeth i chwilio am gyfle y gallwn i fanteisio arno.

"Yn sydyn, roedden ni mewn marchnadoedd ffermwyr, yn gwerthu cannoedd o beis bob wythnos!"

Sut dechreuodd y syniad am SAVEG?

Roedd fy mhartner Marysia a minnau'n ceisio bwyta diet yn seiliedig ar blanhigion, ond roeddem bob amser yn ei chael hi'n anodd dod o hyd brydiau bwyd cyfleus mewn archfarchnadoedd. Roeddem yn trafod syniadau a tharo ar beis; wedi'r cyfan, does dim bwyd yn fwy o gysur na phei a sglodion!

Cyn bo hir, dechreuon ni arbrofi gyda ryseitiau yn ein cegin gartref yng Nghaerdydd. Roedden ni am greu peis gyda blasau mentrus ac anturus na fyddech chi'n eu cael mewn peis traddodiadol ond a fyddai'n blasu’n wych. Yn sydyn, roedden ni mewn marchnadoedd ffermwyr, yn gwerthu cannoedd o beis bob wythnos!

SAVEG y byd ... un llysieuyn ar y tro!

Ers sefydlu SAVEG, oes unrhyw beth wedi'ch synnu am fyd busnes? Unrhyw heriau rydych chi wedi'u hwynebu a’u goresgyn?

Faint bynnag y credwch y byddwch yn ei wneud mewn gwerthiant, mae angen ei leihau 70%. Mae mor hawdd cael eich dallu gan drosiant. Efallai bod prynwyr yn dangos ddiddordeb mawr yn eich cynnyrch, ond nes bod yr archeb ar gefn y lori, peidiwch â chymryd unrhyw beth yn ganiataol.

Mae'r straen ar eich iechyd meddwl yn arbennig o anodd, gan nad oes gennych sicrwydd swydd. Os ydych chi'n derbyn incwm, i ddechrau, mae'n debyg mai hwn fydd yr incwm lleiaf y cawsoch erioed, ac mae’n debygol y byddwch mewn dyled; mae cael eich gwrthod gan brynwyr ar ben hyn yn gallu bod yn straen emosiynol. Mae'n rhaid cadw’n bositif bob amser a sicrhau bod pobl dda o’ch amgylch.

Dyfyniad sy'n fy helpu pan fydd amseroedd yn galed yw'r entrepreneur Ben Horrowitz. Ben yw awdur The Hard Thing About Hard Things, lle mae'n dweud 'canolbwyntiwch ar y ffordd, nid y wal'. Mae'n cymharu entrepreneuriaeth gyda gyrru car rasio. Os yw'r gyrrwr yn canolbwyntio ar y ffordd, bydd yn parhau ar ei lwybr ac yn gorffen y cwrs; Os yw'n canolbwyntio ar y wal, bydd yn dod i ben yn ddisymwth.

"Yr wyf yn dyheu am fod fel hynny; yn gallu darparu bywyd da i fy nheulu, yn ogystal â chael fy mharchu fel menyw fusnes gref."

Pwy sydd wedi eich ysbrydoli yn ystod eich gyrfa?

Mae hwnnw'n gwestiwn anodd, gan fod llawer o bobl wedi fy ysbrydoli.

Fy swydd gyntaf ar ôl gorffen y brifysgol oedd gyda chwmni diod Molson Coors (2012-2015), lle cwrddais â Helen Grzonka, Pennaeth y Ganolfan Gyswllt Genedlaethol. Pan fyddai Helen yn dod i mewn i'r Swyddfa, roedd pawb ar eu gorau; roeddem i gyd yn ei pharchu ac am ei phlesio. Roedd hi'n broffesiynol, yn wybodus ac yn ddymunol. Roedd hefyd fel petai'n cydbwyso gwaith a bywyd yn ddidrafferth, gan ei bod hi hefyd yn fam i dri. Yr wyf yn dyheu am fod fel hynny; yn gallu darparu bywyd da i fy nheulu, yn ogystal â chael fy mharchu fel menyw fusnes gref.

Fel entrepreneur, pa gyngor sydd gennych ar gyfer ein myfyrwyr presennol sy'n ystyried dechrau eu busnesau eu hunain?

Sicrhewch fod gennych gynnyrch sydd ei angen ar ddefnyddwyr, nid yn unig yr hyn ‘rydych chi'n meddwl sy'n syniad da. Profwch ac arbrofwch gyda’r syniad hwnnw cyn i chi geisio cyllid, a hefyd, mae'n bwysig dysgu gan eraill. Ymunwch ag unrhyw gynllun entrepreneuraidd sydd am ddim a siaradwch â chynifer o bobl ag y gallwch, yn eich diwydiant neu beidio; wyddoch chi ddim pwy mae pobl yn eu hadnabod ac yn gallu eu cyflwyno i chi.

Fel ffatri fegan gyntaf Cymru, beth yw eich cynlluniau a'ch gobaith ar gyfer y diwydiant?

I ddod yn ddewis cyntaf ar gyfer bwyd cysur cyfleus yn seiliedig ar blanhigion.

Rydym yn byw ar hyn o bryd drwy bandemig, sydd wedi effeithio ar nifer o fusnesau. Sut ydych chi a'r tîm SAVEG yn ymdopi yn ystod y cyfnod anodd hwn?

Rydym wedi cael cymorth gan Fanc Barclays drwy gynllun benthyca Bounce Back, gan Lywodraeth Cymru gyda Grant y Gronfa Cadernid Economaidd a'r Cynllun Cadw Swyddi. Rydym wedi gweld gostyngiad o 95% mewn gwerthiant, ac felly mae pob aelod o staff ar ffyrlo. Y nod yw goroesi yn 2020, yn barod i ymladd yn 2021. Mae hyn yn golygu rhagolwg 3 blynedd newydd a chynllun busnes newydd. Bydd rhai drysau yn cau ond bydd eraill yn agor, ac mae angen i ni fod yn barod i addasu.