Pam y dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd yr oeddwn yn dymuno dilyn cwrs gradd a oedd yn cynnig llawer o hyblygrwydd gan fy ngalluogi i ddilyn maes pwnc a oedd o ddiddordeb i mi ac a fyddai o fudd i’m dyheadau gyrfaol.

Dywedwch ychydig wrthym am eich amser yn y Brifysgol. Beth yw’ch prif atgof am astudio yn Abertawe?

Fy mhrif atgof am astudio yn y Brifysgol yw’r profiad llesol a gefais sydd wir wedi fy mharatoi ar gyfer camu i’r byd gwaith. Bu’r amgylchedd dysgu, yr adnoddau, y darlithoedd a’r darlithwyr oll yn dda iawn. Mwynheais fy amser yno yn fawr.

"Byddwn i'n dweud mai'r allwedd i lwyddiant parhaus yw aros yn berthnasol..."

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i’r sawl a raddiodd yn ddiweddar?

Byddwn i'n dweud mai'r allwedd i lwyddiant parhaus yw aros yn berthnasol - yn enwedig yn eich maes arbenigedd - a chadw ar flaen y gad o ran y byd sy'n newid yn barhaus. Peidiwch â chanolbwyntio ar yr hyn yr ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn unig, ond dylech hefyd edrych tua’r dyfodol a meddwl am y cyfeiriad y mae pethau'n symud iddo a ble rydych chi a'ch dyheadau chi’n rhan o hynny.

Liam Dutton sy'n sefyll wrth ymyl graffig o'r byd.

Sut aethoch chi o astudio ar gwrs gradd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe i weithio i Channel 4?

Yn ystod y mis a raddiais, mis Mehefin 2002, hysbysebwyd swydd ar gyfer Cynorthwyydd Darlledu gan y Swyddfa Dywydd gan weithio yng Nghanolfan Dywydd y BBC yn Llundain.  Cyflwynais gais am y swydd, cefais gyfweliad a llwyddais i ennill y swydd gan ddechrau ym mis Hydref 2002.

Fel rhan o'r rôl, cefais gyfle i hyfforddi i gyflwyno'r tywydd ar y teledu a'r radio pan fydd cyflwynwyr tywydd rhanbarthau'r BBC ar eu gwyliau. Gweithiais yn galed iawn a threuliais lawer o ddiwrnodau yn y stiwdio hyfforddi a derbyn adborth er mwyn gwella. Gwnaeth hyn ddwyn ffrwyth oherwydd cyflwynais fy rhagolwg tywydd cyntaf ar y teledu ymhen naw mis yn unig - digwydd bod ar BBC Wales Today.

Treuliais lawer o'r tri mis nesaf yn teithio o amgylch cenedlaethau a rhanbarthau'r BBC gan gymryd lle amryw o gyflwynwyr y tywydd cyn ennill dyrchafiad yn 2006 i ddarlledu ar deledu a radio cenedlaethol a rhyngwladol. 

Yn ystod yr haf 2011, cyhoeddodd Newyddion Channel 4 ei fod yn chwilio am ei gyflwynydd tywydd cyntaf erioed. Mynegais ddiddordeb ac ar ôl rhywfaint o drafodaethau a phrawf sgrin ymunais â'r rhaglen yn hwyr yn yr hydref y flwyddyn honno.

Disgrifiwch eich diwrnod arferol

Ar ddiwrnod arferol byddwn i'n cyrraedd yr ystafell newyddion tua 11.30am ac yn treulio rhyw awr neu ddwy yn edrych ar amrywiaeth o fodelau tywydd ar gyfrifiaduron i weld beth fydd y rhagolygon. Rwyf hefyd yn edrych i weld a oes unrhyw straeon mawr am y tywydd yn digwydd yn y byd sy'n gallu golygu fy mod yn ymddangos ar brif raglen y newyddion.

Yna rwy'n treulio ychydig amser ar gyfryngau cymdeithasol yn postio nifer o bethau - fideos, lluniau neu wybodaeth ddefnyddiol - i fesur diddordebau pobl ar y diwrnod hwnnw.

Yna rwy'n treulio ychydig o oriau'n paratoi graffeg y tywydd gan ddefnyddio meddalwedd arbennig sy'n debyg i gyfuniad o PowerPoint a Google Earth. Mae'n fy ngalluogi i ddangos amrywiaeth o wybodaeth am y tywydd ar gyfer unrhyw le ar y blaned hyd at 10 niwrnod o flaen llaw.

Fel arfer byddaf yn treulio mwy o amser ar gyfryngau cymdeithasol tua 5pm oherwydd dyma un o'r cyfnodau gorau er mwyn ymgysylltu â'r gynulleidfa yn y Deyrnas Unedig. Dyna'r amser o'r dydd y mae pobl ar fin teithio felly mae cynnig cyngor ar y tywydd ar gyfer teithwyr yn boblogaidd.

Nesaf yw taith i'r ystafell golur er mwyn sicrhau nad wyf yn sgleinio o dan oleuadau cryf y stiwdio cyn mynd i'r stiwdio i gyflwyno fy rhagolwg ar y teledu.

Liam Dutton yn stiwdio Channel 4.

"...mae amynedd, dyfalbarhad, gwaith caled a chynllun wrth gefn yn rhinweddau hanfodol ar gyfer gyrfa fel fy un i."

Pa gyngor y byddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried dilyn gyrfa fel eich un chi?

Mae tirwedd y cyfryngau yn newid yn barhaus ac mae'n faes sy'n anodd cael mynediad iddo - yn enwedig ar gyfer darlledu'r tywydd oherwydd nad oes llawer o swyddi ar gael yn y Deyrnas Unedig.  Felly mae amynedd, dyfalbarhad, gwaith caled a chynllun wrth gefn yn rhinweddau hanfodol ar gyfer gyrfa fel fy un i. 

Nodwch un peth am eich swydd efallai y bydd yn synnu pobl

Un peth nad yw'r mwyafrif o bobl yn ei sylweddoli yw nad yw cyflwynwyr y tywydd yn darllen oddi ar awtociw. Rydym yn adlibio ac yn cyflwyno'r tywydd gan ddefnyddio stori yr ydym wedi'i chreu yn ein pennau. Mae hyn yn ein galluogi i fod yn hyblyg ac i siarad am gyfnodau amrywiol o amser ar fyr rybudd.

Rydym hefyd yn paratoi'r graffeg ac yn fy achos i fel rhagolygydd hyfforddedig rwyf yn gweithio ar fy rhagolygon tywydd fy hun. Ar y cyfan, mae'n rôl unigol o'r dechrau hyd y diwedd.

"Rwy'n credu mai rhan bwysig o'm rôl yw sicrhau bod cynnwys tywydd credadwy o safon uchel ar gael i bobl gael mynediad ato."

Mae'r tywydd yn bwnc cyson yn y papurau newydd. Yn eich tyb chi, faint o hyn sy'n wir a faint sy'n ffordd o ddenu sylw?

Credaf fod ansawdd cynnwys y tywydd mewn papurau newydd yn amrywio. Mae'r cynnwys gwaethaf ar ben y cynnwys sy'n denu sylw a'r gorau ar y pen ffeithiol.  Yr hyn yr wyf yn ceisio ei wneud yn fy rôl - yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol - yw addysgu pobl i fod yn wyliadwrus wrth ddarllen straeon am y tywydd mewn papurau newydd.

Creais fideo YouTube yn ddiweddar i ddangos sut i wybod bod straeon am y tywydd yn ffug. Mae'n rhywbeth yr wyf yn angerddol amdano ac rwy'n teimlo ei bod hi’n sgwrs bwysig y dylem ni fod yn ei chael. Mae'r tywydd yn effeithio ar bob un ohonom ni ac mae'n dylanwadu ar lawer o'r pethau yr ydym yn ei wneud felly dylai pawb feddu ar yr hawl i wybod a yw'r hyn y mae'n ei ddarllen wedi'i ysgrifennu er mwyn hysbysu pobl neu i ddenu sylw neu'n gymysgedd o'r ddau.

Pam dewisoch chi ddod yn rhagolygwr y tywydd yn hytrach na math arall o hinsoddegydd?

Er bod cysylltiad agos amlwg rhwng y tywydd a hinsawdd rwyf bob amser wedi bod a mwy o angerdd am ochr y tywydd. Mae pobl bob amser yn siarad am y tywydd felly mae cael y cyfle imi allu hysbysu, addysgu ac ymgysylltu â phawb yn freuddwyd.