Lanvell Blake

MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Dosbarth 2021.

Ble rwyt ti'n gweithio nawr?

Equality for All Foundation Jamaica

Beth yw dy swydd bresennol?

Rheolwr y Rhaglen Iechyd a Lles

 

Sut gyrhaeddaist ti Brifysgol Abertawe?

Yn 2019, enillais ysgoloriaeth o fri sef yr Ysgoloriaeth Chevening er mwyn dilyn fy astudiaethau ôl-raddedig. Rhwng y tair prifysgol roeddwn i wedi cyflwyno ceisiadau amdanynt ac roeddent wedi fy nerbyn, dewisais Brifysgol Abertawe. Yn ddoniol, fy newis cyntaf oedd ysgol yn Llundain. Rydw i bob amser yn adrodd y stori o sut roedd Dr Ruth Hopkins, Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus yn yr Adran Polisi Iechyd Cyhoeddus a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ffactor allweddol wrth benderfynu.

Beth oedd y pethau gorau am dy gwrs?

Yr heriau yr oedd yn eu cyflwyno. Nid yw materion iechyd cyhoeddus a hybu iechyd byth yn ddu a gwyn. Mae ymyriadau wedi'u gwreiddio mewn llawer o ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Roeddwn i'n gwerthfawrogi bod y rhaglen yn ein galluogi i weld iechyd cyhoeddus drwy lens gwledydd gwahanol. Roedd myfyrwyr unigol yn cael cyfle i siarad am faterion iechyd cyhoeddus yn eu gwlad nhw a sut roedd y materion hynny'n cael eu trin. Hefyd, roedd y rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrio ar eich gwlad chi, cymharu a chyferbynnu.

Beth yw dy hoff atgofion o dy amser yn Abertawe?

Bywyd ar draeth oddi ar y campws. Gwnes i, a deiliaid eraill yr Ysgoloriaeth Chevening, joio mas draw yn ystod yr haf ar draeth Bae Abertawe.
Codi'n gynnar ar fore Sadwrn i wneud Parkrun Bae Abertawe.
Gwirfoddoli yn Matthew's House (Matt's Cafe).

Beth wnest ti ar ôl graddio?

Cyn cyflwyno fy nhraethawd estynedig ym mis Rhagfyr 2020, ces i gyfweliad a chynigiwyd  swydd y Cydlynydd Iechyd a Lles yn yr Equality for All Foundation Jamaica i mi.

Oeddet ti'n aelod o gymdeithasau i fyfyrwyr, neu achubaist ti ar gyfleoedd eraill?

Bywyd Prifysgol

1. Cynrychiolydd Myfyrwyr - Cefais fy ethol yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar gyfer carfan 2019/20 y cwrs MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. 

2. Y Gynhadledd Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol - Cefais fy newis o garfan Chevening 2019/20 Prifysgol Abertawe i siarad yng nghynhadledd Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol y Brifysgol. Canolbwyntiodd fy nghyflwyniad ar fy ngwaith yn Jamaica, gan gynnwys Jamaica Moves, sef ymgyrch newid ymddygiad ynghylch clefydau anhrosglwyddadwy, a Safe Space JA (addysg, ymwybyddiaeth ac eiriolaeth iechyd meddwl). Hefyd, amlygais  Ysgoloriaethau Chevening a'm huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr.

Gwirfoddoli

1. Gwirfoddolais yn Matthew's House (Matt's Cafe). Mae Matthew's House yn elusen sy'n cael gafael ar fwyd sy'n hollol fwytadwy o archfarchnadoedd a busnesau lleol cyn iddo fynd yn y bin, ac yn ei droi'n brydau blasus fel y rhai wedi'u coginio gartref, sydd ar gael i bawb, ond maen nhw ar gael yn benodol i bobl ddigartref a phobl sy'n agored i niwed.
https://matthewshouse.org.uk/  

Digwyddiadau Arbennig

1. Cawsom ni (sef deiliaid Ysgoloriaeth Chevening Prifysgol Abertawe) wahoddiad arbennig i fynd i drafodaeth banel rhwng 'Menywod Mentrus Cymru' wedi'i threfnu a'i chynnal gan Brifysgol Abertawe. Y panelwyr oedd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, yr Athro Laura McAllister a'r Athro Elwen Evans, a gwnaethant rannu'r llwyfan â'r Gwestai Gwadd yr Ysgrifennydd Hillary Rodham Clinton.

2. Er mwyn parhau â'r traddodiad o ddathlu myfyrwyr rhyngwladol a ddaeth i Brifysgol Abertawe ag ysgoloriaeth, cawsom ni wahoddiad arbennig i fynd i'r Cinio i Ddeiliaid Ysgoloriaethau Rhyngwladol ym mis Tachwedd. Mae'r seremoni'n cydnabod deiliaid ysgoloriaethau'n unigol ac fel grŵp, ar sail yr ysgoloriaeth sydd wedi'i dyfarnu a'u gwlad enedigol.

Cefnogi Elusennau:

1. Cymerais ran yn ras MoRun 10K Abertawe. Mae'r ras yn un o'r mentrau codi arian i Tashwedd (Movember) - yr unig elusen sy'n mynd i'r afael ag iechyd dynion ar raddfa fyd-eang, drwy'r flwyddyn. Mae Sefydliad Movember yn ystyried iechyd meddwl drwy lygaid dynion, gan ganolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a hybu iechyd. Mae hyn yn cysylltu â'm gwaith â'r fenter Safe Space JA (ymwybyddiaeth, addysg ac eiriolaeth iechyd meddwl).

Hefyd, rydw i wedi cyfrannu at dri blog gan ddeiliaid Ysgoloriaeth Chevening:

https://www.chevening.org/news/eight-of-my-best-orientation-moments/

https://www.chevening.org/news/twelve-people-who-helped-cure-my-homesickness/

https://www.chevening.org/news/five-times-the-british-weather-has-let-me-down/  

Podlediad:
Cyflwynais bodlediad i'r Brifysgol, gan gyfweld â myfyrwyr a staff ynghylch eu profiad o Ddinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe.

Ble rwyt ti’n gweithio nawr? 

Equality for All Foundation Jamaica

Cyn dechrau ar y rhaglen MSc, roedd fy nghefndir ym maes Cyfathrebu. Gwnaeth y cwrs MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd roi hygrededd i mi yn fy maes presennol. Bron 2 flynedd ers hynny, rydw i'n gallu gwerthfawrogi'r sgiliau trosglwyddadwy, y rhwydweithio a'r profiadau a gefais o ganlyniad i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth yw eich diwrnod gwaith arferol neu beth yw'r pethau mwyaf cyffrous am eich gwaith?

A bod yn onest, nid oes 'diwrnod nodweddiadol' yn fy swydd i. Nid yw dau ddiwrnod byth yr un peth. Dyna beth sy'n ei gwneud yn ddiddorol ac yn foddhaus. Y peth mwyaf cyffrous yw cael creu newid mewn rhyw ffordd. Mae fy ngwaith yn cynnwys eiriolaeth sy'n ymwneud ag iechyd pobl LGBTQ+, sy'n ceisio'n gyffredinol i leihau anghydraddoldebau iechyd ymhlith pobl LGBTQ.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n ystyried astudio yn Abertawe?

Cymerwch le. Mae digon o le i chi wneud, gweld ac archwilio pethau. Mae digon o le i chi ddysgu, dad-ddysgu ac ail-ddysgu. Cymerwch ran yn y Brifysgol ond yng nghymuned Abertawe hefyd. Byddwch yn cael mwy o brofiad pan fyddwch yn dechrau teimlo'n rhan o'r gymuned honno. Darganfyddwch eich lle.