Kenneth Walters

Kenneth Walters

Mathemateg gymhwysol

Athro Ymchwil Nodedig – Kenneth Walters

Cafodd Kenneth ei eni a'i fagu yn Abertawe, ac roedd yn ddisgybl mewn Ysgol Ramadeg (Dinefwr) leol. Ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Gymhwysol ym 1956, gradd MSc ym 1957 ar gyfer ymchwil ym maes Trylediad Atmosfferig, a gradd PhD ym 1959 am ymchwil ym maes Rheoleg.  Ym 1993, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Kenneth gan Brifysgol Abertawe.

"Yn dilyn fy ngwaith ymchwil ôl-raddedig, treuliais flwyddyn yn ymchwilio ac yn darlithio yn UDA.  Dychwelais i Gymru ar ôl cael swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yno cefais fy nyrchafu'n Uwch-ddarlithydd ym 1965, yn Ddarllenydd ym 1970 ac yn Athro ym 1973.Ar hyn o bryd rwy'n 'Athro Ymchwil Nodedig.'

Cefais fy ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1991, ac ym 1995, cefais fy ethol yn Aelod Tramor o Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau. Dyfarnwyd Doethuriaethau Er Anrhydedd imi gan Brifysgol Joseph Fourier, Grenoble, Ffrainc ym 1998, gan Brifysgol Strathclyde, Glasgow yn 2011 a chan Brifysgol Aberystwyth yn 2016.

Yn ystod ei chwe blynedd ym Mhrifysgol Abertawe, roedd Kenneth yn aelod rheolaidd o dîm criced y Coleg ac roedd yn gapten ar y tîm ym 1957. Ym 1961, dechreuodd Ken ganlyn myfyriwr o Aberystwyth (Mary Eccles) a fu'n 'Frenhines Rag' y Myfyrwyr cyn iddynt gyfarfod. Gwnaethant briodi ym 1963, a geni tri o blant a saith o wyrion ac wyresau wedi hynny.

Ers gadael y Brifysgol, daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1991, ac ym 1995, fe'i etholwyd yn Aelod Tramor o Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau.

Dyfarnwyd Doethuriaethau Er Anrhydedd imi gan Brifysgol Joseph Fourier, Grenoble, Ffrainc ym 1998, gan Brifysgol Strathclyde, Glasgow yn 2011 a chan Brifysgol Aberystwyth yn 2016. Yn 2009, derbyniais wahoddiad i ddod yn Aelod Sylfaenol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac roeddwn yn Aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru (SACW) rhwng 2000 a 2004.

"Rhwng 1974 a 1975, roeddwn i'n Llywydd Cymdeithas Rheoleg Prydain a dyfarnwyd Medal Aur imi gan y Gymdeithas ym 1984. Rhwng 1996 a 2000, roeddwn i'n Gadeirydd y Pwyllgor Rhyngwladol ar Reoleg. Yn 2002, dyfarnwyd Gwobr Weissenberg imi gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar Reoleg.

Adeg ddiffiniol  astudio yn Abertawe?

"Cael elwa ar Oruchwyliwr Ymchwil PhD sy'n enwog yn fyd eang (Yr Athro  J.G.Oldroyd)”

Parhau i gysylltu â Phrifysgol Abertawe

"Ym 1991, ffurfiodd grŵp o wyddonwyr, y rhan fwyaf ohonynt o brifysgolion Cymru, grŵp ymchwil rhyngwladol hynod lwyddiannus, o'r enw Sefydliad Mecaneg Hylif An-Newtonaidd (INNFM). Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd a chynadleddau dros y blynyddoedd wedi hynny, ac mae'r rhain wedi cynnwys llawer o gyfarfodydd yn Abertawe, lle rwy'n aml yn ail-fyw'r dyddiau a fu!"