Joanne Hill

Joanne Hill

 BSc mewn Nyrsio Oedolion, Dosbarth O 2019.

O gaeth i nyrs. Yn troi fy mywyd o gwmpas.

Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol, dwi wedi tyfu cymaint fel person. Dwi wedi magu mwy o hyder, wedi datblygu diddordebau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae wedi bod yn gyfnod hapus ond heriol sydd wedi fy ngorfodi i adael cynefin fy nghysur, gwthio fy hun a chael ffydd ynof fi fy hun.

Rydych chi wedi bod ar daith mor anhygoel. Beth, fyddech chi’n dweud oedd y cymhelliant mwyaf i weddnewid eich bywyd fel y gwnaethoch chi?

Cyn i mi benderfynu newid cyfeiriad fy mywyd, doedd dim ots da fi taswn i’n byw neu’n marw. Roedd fy mywyd yn gymaint o lanast roeddwn i wedi colli pob gobaith y gallai pethau newid er gwell. Pan oedd rhaid i mi fynd i’r ysbyty ag endocarditis yn 2012, sylweddolais i nad oeddwn i eisiau marw, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i newid fy mywyd ac roeddwn i dal eisiau cymryd cyffuriau. Roeddwn i’n gaeth i gyffuriau. Roeddwn i wedi bod yn defnyddio heroin am 10 mlynedd, felly doeddwn i ddim yn gwybod sut i fyw fy mywyd heb gyffuriau.

Pan oeddwn i yn yr ysbyty, eisteddodd nyrs gyda mi a’m hannog i fynd i raglen adsefydlu. Cafodd gymaint o effaith ar fy mywyd, gwnaeth hi fy ysbrydoli i ddod yn nyrs er mwyn i fi  helpu eraill fel roedd hi wedi fy helpu i pan oeddwn i’n teimlo bod fy mywyd yn anobeithiol. Gwnaeth hyn fy sbarduno i gwblhau’r rhaglen a cheisio gwireddu fy mreuddwyd i fod yn nyrs.

Yn eich barn bersonol chi, sut profiad yw bod yn nyrs?

Dwi’n dwlu ar fod yn nyrs! Roedd yn freuddwyd gen i fod yn nyrs, mae’n rhoi cymaint o hapusrwydd i mi, mae’n rhaid i mi binsio fy hun. Dwi’n methu credu fy mod i’n cael bod yn nyrs a gofalu am bobl eraill a gwneud gwahaniaeth, yn enwedig gyda fy nghefndir i. Mae fy mreuddwyd wedi cael ei wireddu. Dyw hynny ddim yn golygu bod nyrsio heb ei heriau. Gall y pwysau ar y GIG wneud i nyrsys deimlo eu bod yn gweithio’n rhy galed, yn cael eu talu’n rhy isel a dydyn ni ddim yn cael ein gwerthfawrogi’n ddigon.

Mae nyrsio yn ystod pandemig Covid-19 wedi dod â heriau unigryw y mae’r proffesiwn nyrsio cyfan wedi’u hwynebu â dewrder gan weithio yn y rheng flaen i ymladd y pandemig. Dwi’n hynod falch o fod yn nyrs yn ystod y cyfnod hwn ac mae’n anrhydedd gweithio i’n GIG  gwych. Gwnaeth y GIG achub fy mywyd, dwi bellach yn gweithio i’r GIG yn achub bywydau eraill.

Joanne hill group shot

 Enillodd chi radd dosbarth cyntaf, sy’n gamp anhygoel. Sut profiad oedd astudio nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe?

Roeddwn i wedi bod allan o fyd addysg am 20 mlynedd cyn i mi benderfynu astudio am radd nyrsio. Helpodd y cwrs mynediad fi i ddychwelyd i addysg ac i baratoi am y radd. Roedd y radd ei hun yn un o’r pethau mwyaf anodd dwi wedi’u cyflawni. Mae’r radd ei hun yn cynnwys darlithoedd sy’n cael eu cynnal yn y brifysgol, a lleoliadau gwaith mewn amgylcheddau gofal iechyd, lle rydych chi’n gweithio oriau amser llawn sy’n rhoi cyfle i chi gael profiad mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol. Treuliais i gyfnod hefyd yn gweithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ar ward iechyd meddwl acíwt yn ystod fy ngradd. Dwi’n credu bod fy nghyfnod ar raglen adsefydlu wedi fy mharatoi am y strwythur a’r sgiliau rheoli amser byddai eu hangen arnaf i astudio am radd nyrsio heriol.

Beth oedd y rhan fwyaf anodd o newid cyfeiriad eich bywyd? Mae’n rhaid eich bod wedi cael adegau anodd?

Y rhan fwyaf anodd i mi heb os oedd fy rhaglen adsefydlu. Mae Teen Challenge yn ganolfan adsefydlu sy’n cael ei rheoli gan Gristnogion ac roeddwn i’n bell o fod yn Gristion pan gyrhaeddais i yno. Rhoddon nhw obaith i mi fod newid yn bosib. Roedd yn rhaglen strwythuredig iawn ar sail y Beibl; doedden ni ddim yn gwylio’r teledu, doedd dim ffonau symudol na mynediad at y rhyngrwyd gennym ac roedd yr holl gynnwys yn seiliedig ar egwyddorion Cristnogol. Roedd rhaid ufuddhau i’r rheolau, ond roedd angen y rheolau hynny arna i a strwythur yn fy mywyd ar ôl blynyddoedd o fyw bywyd anhrefnus iawn. Rhoddodd fy ffydd newydd nerth i mi wynebu fy nghamgymeriadau (llawer ohonyn nhw) a gofyn am faddeuant, ond roedd rhaid i mi faddau i mi fy hun hefyd a gollwng y cywilydd a’r euogrwydd a oedd ynof.

Roedd sylweddoli bod fy mywyd wedi cymryd tro gwahanol i’r un roeddwn i ei eisiau yn dorcalonnus a dwi’n cofio crio am ddiwrnod cyfan. Roedd fy llygaid yn goch ac wedi chwyddo. Doeddwn i ddim yn gallu ail-fyw fy mywyd ond o’r adeg honno, gallwn i weithio i fod yn berson gwell a mwy hoffus a newid cyfeiriad fy mywyd.

 Rydych chi wedi dangos  bod modd gwneud unrhyw beth rydych chi’n rhoi’ch bryd arno drwy waith caled.  Ydy hwn yn feddylfryd hoffech chi ei ddysgu i’ch plant?

Yn bendant! Dwi’n onest iawn gyda fy mhlant. Maen nhw’n gwybod am fy ngorffennol oherwydd, yn anffodus, y gwnaethon nhw fyw drwyddo gyda mi ac rydyn ni’n siarad yn agored amdano. Roedden nhw’n eithaf ifanc pan aethon nhw i fyw gyda fy rhieni pan ddaeth y  gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o’n bywydau. Ar ôl i mi adael y rhaglen adsefydlu a symud cartref, fe wnes i gais i astudio ar gwrs mynediad a roddodd gyfle i mi astudio am radd nyrsio wedyn. Mae’r bechgyn wedi gweld y gwaith caled dwi wedi ei roi i’r cyrsiau hyn, yr oriau di-rif yn ysgrifennu traethodau ar liniadur, y boreau cynnar a’r sifftiau nos niferus yn gweithio yn fy swydd fel cynorthwy-ydd gofal iechyd ochr yn ochr â gwneud lleoliad gwaith amser llawn. Maen nhw wedi fy ngweld yn ymroddi’r chwe blynedd diwethaf i gyflawni fy nodau a thrwy fy ngwylio i’n cyflawni, gallan nhw weld bod angen i chi weithio’n galed os ydych chi eisiau cyflawni rhywbeth yn eich bywyd. Does dim byd gwerth ei gael yn dod yn hawdd. Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n dysgu o’m camgymeriadau i a mynd ymlaen i fyw bywydau hapus.

Sut byddech chi’n disgrifio eich cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe a’r effaith mae wedi’i chael arnoch chi’n bersonol?

Gwnaeth fy amser ym Mhrifysgol hedfan. Ond cyn hynny, roedd rhaid i mi gyflwyno cais drwy UCAS ac ysgrifennu datganiad personol i gyd-fynd â’m cais. Roeddwn i’n hollol onest am fy mhrofiad a pham roeddwn i eisiau bod yn nyrs a ches i fy nerbyn. Doedd gen i ddim profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal iechyd cyn fy lleoliad gwaith cyntaf, felly gwnaeth y cwrs addysgu egwyddorion sylfaenol gofal i mi a rhoddodd gyfle i mi brofi amrywiaeth eang o leoliadau gofal iechyd. Roedd hyn yn brofiad dysgu amhrisiadwy. Ar y cyd â chefnogaeth fy nhiwtoriaid, datblygais i wybodaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd ynghlwm wrth rôl nyrs. Roedd hi’n radd heriol ond roedd cefnogaeth fy nhiwtoriaid, sy’n angerddol am nyrsio, yn wych.

Ar lefel bersonol, mae graddio o Brifysgol Abertawe’n gamp enfawr ac yn un dwi’n hynod falch ohoni. Roedd cerdded ar draws y llwyfan hwnnw ar ddiwrnod graddio, gyda fy nheulu yn fy ngwylio, yn brofiad balch iawn i mi. Gwelodd Prifysgol Abertawe botensial ynof a newidiodd hynny fy mywyd. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf  8 mlynedd yn ôl y byddwn i’n dod yn nyrs, byddwn i wedi chwerthin achos roedd fy mywyd yn gymaint o lanast. Nawr mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn nyrsio!

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun yn yr un sefyllfa â chi cyn i chi newid cyfeiriad?

Does neb yn penderfynu bod yn gaeth i gyffuriau. Gall cyfres o ddewisiadau gwael achosi i rywun golli rheolaeth ar ei fywyd a chyn i chi sylweddoli, rydych chi’n deffro un diwrnod ac mae angen sylwedd arnoch i godi o’ch gwely a byw drwy’r dydd. Mae mor anodd goresgyn caethiwed, am ei bod hi’n fwy eang na’r caethiwed yn unig, rhaid i chi ddelio â’r anhrefn, y niwed, y difrod a’r poen, nid i chi yn unig ond i eraill hefyd; ond mae’r un mor anodd aros yn gaeth i gyffuriau a byw gyda phopeth sy’n gysylltiedig â hynny. Gall gymryd sawl ymgais i oresgyn caethiwed. Fe wnes i geisio nifer di-rif o weithiau cyn i mi drawsnewid fy mywyd yn y diwedd. Y cam cyntaf i bawb, dwi’n meddwl, yw cyfaddef bod problem gennych chi. Unwaith rydych chi’n derbyn bod angen help arnoch chi, mae sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth. Yn y pen draw, yr unigolyn sy’n dewis newid, ond mae newid yn bosib. Mae fy mywyd i’n brawf o hynny.

 Dyma restr fer o’r cymorth sydd ar gael:

 Barod – 01633 439813 info@barod.cymru 

DDAS – 03303 639997 confidential@d-das.co.uk 

Teen Challenge UK 01664 822221/ 01269 844 114 www.teenchallenge.org.uk 

Betel UK 01564 822356 www.betel.uk 

New Leaf 03009 990330 www.newleafrecovery.co.uk 

Victory Outreach UK 01495 212516 www.victoryoutreachuk.com