Jamie Tagg

Jamie Tagg

BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2009

Mae Jamie Tagg, perchennog a Rheolwr- gyfarwyddwr East Creative wedi bod yn defnyddio’i ddawn greadigol er mwyn creu bywyd nos newydd a chyffrous ar gyfer cymuned LQBT Llundain. Ynghyd â grŵp o berfformwyr bendigedig (a llawer iawn o befr), mae Jamie Tagg a’i gyd-sefydlydd Glyn Fussell, wedi bod yn diwygio’r gymuned gyda’u tîm yn East Creative, mae’r asiantaeth yn ymfalchïo yn ei rhestr hir o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid – o archebu talent i drefnu canolfannau’r celfyddydau – ond mae’n arbenigo mewn digwyddiadau sy’n gyfeillgar i bobl LGBTQ, gan gynnwys Sink the Pink, un o nosweithiau drag mwyaf y DU, a Mighty Hoopla, gŵyl gerddoriaeth bop yn Llundain sy’n croesawu 25,000 o ddathlwyr bob haf.

Sink the Pink

Ers dechrau yn 2008, mae Sink The Pink wedi tyfu o wreiddiau gostyngedig mewn clwb gweithwyr yn Bethnal Green i fod ymhlith y nosweithiau LGBTQ mwyaf yn y byd, gan lenwi lleoliadau megis Brixton Academy, Roundhouse a Troxy yn ogystal â theithio’r byd gyda Melanie C o’r Spice Girls llynedd.

Mighty Hoopla

Mae Mighty Hoopla wedi tyfu’n sylweddol ers ei ddyddiau cynnar, o gael cynulleidfa fach o 3,000 i gael 20,000 yn llenwi Brockwell Park rydym yn ei weld bellach. “Dechreuon ni â sioeau dros y penwythnos yn Butlin’s yn Bognor Regis yn 2016, gyda chynulleidfa o 3,000 yn unig” meddai Jamie. Mae Mighty Hoopla yn boblogaidd, oherwydd y galw am wyliau pop pleserus sy’n gwbl gampus.

Mae Jamie yn adnabod y sector yn dda, ar ôl gweithio fel asiant DJ yn flaenorol, ond roedd yn cael trafferth â diwydiant a oedd yn troi’n ddiflas.

“Cwrddais i â Glyn yn 2013, roeddwn i’n rheoli DJs ar y pryd. Roedden ni’n dod o fydoedd gwahanol iawn ond wedi adnabod ein gilydd am bedwar mis gadawais i’m swydd a dweud ‘Dwi am wneud hyn yn drwy’r amser’.  Sylweddolon ni fod gennym lawer o ffrindiau’n gyffredin yn y diwydiant nad oedden nhw’n cael eu cynrychioli’n briodol yn y gymuned gerddorol a chreadigol." Ar ôl sefydlu eu busnes digwyddiadau yn nwyrain Llundain, gwnaeth y deuawd bartneru â’r DJ a darlledwr Fearne Cotton yn 2016 er mwyn sefydlu Noisy Kitchen, asiantaeth dalent fasnachol sydd bellach yn cynrychioli ystod o bobl enwog a chantorion megis Reggie Yates, Gok Wan, Kate Nash and Fleur East.

Mae gwaith Jamie wedi bod yn hanfodol wrth wireddu’r digwyddiadau anhygoel ac arbennig hyn, sy’n rhan bwysig ym mywydau cynifer o bobl. 

Roeddem yn drist i weld bod Sink the Pink yn dod i ben ond yn falch bydd Mighty Hoopla yn parhau. Pam mae digwyddiadau fel Sink the Pink a Mighty Hoopla yn bwysig am newid agweddau a hyrwyddo cynwysoldeb ac amrywiaeth?

Ymunais i â Sink the Pink yn 2012 a dwi'n cofio mai ym Mhrifysgol Loughborough roedd un o'n sioeau cyntaf. Doedd neb yn gwybod pwy neu beth oedd Sink the Pink ac roedd hyn cyn i RuPaul neu hyd yn oed drag (fel rydyn ni'n gyfarwydd ag ef nawr) fod yn boblogaidd. Roedd y tîm rygbi cyfan yn y rhes flaen a golwg hollol syfrdan ar eu hwynebau. I ddechrau, roedden nhw'n eithaf ansicr beth roedden nhw'n ei weld ac yna dechreuon nhw ymddwyn braidd yn ymosodol tuag at y cwîns. Felly, dyma ni’n eu llusgo lan i'r llwyfan ac erbyn diwedd y noson, roedd hanner y tîm yn gwisgo drag a hanner ein criw ni yn gwneud leiniau mewn sodlau uchel.
I fi, yr eiliadau hynny sy'n gallu gweddnewid barnau a syniadau er gwell ac er bod STP yn dod i ben, gobeithio bydd Mighty Hoopla yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.

Beth oedd uchafbwyntiau Sink the Pink i chi?

Rydyn ni wedi cael llwyth o brofiadau gwych dros y blynyddoedd, felly dwi wrth fy modd yn gweld fy ffrindiau yn dechrau eu gyrfaoedd mewn clwb dynion gweithio yn Bethnal Green ac yna'n teithio'r byd gydag un o’r Spice Girls. Un uchafbwynt oedd smyglo ychydig o bobl ychwanegol drwy'r drws cefn i sioe roddem yn ei chynnal yn 2015. Roedd pawb yn gwisgo wigiau a phaent wyneb ac unwaith i ni gyrraedd y bar, tynnodd un ohonyn nhw ei wig a gofyn a oeddwn i eisiau diod - a Bryan Adams oedd hwnnw. Roedd honno'n noson wych.

Pam mae Mis Hanes LGBT+ yn bwysig i chi?

Mae Mis Hanes LGBTQ+ yn bwysig iawn i bawb ddeall hanes pobl LGBTQ+ a'r gorthrwm maen nhw wedi'i wynebu ac yn parhau i'w wynebu. Mae'n anhygoel meddwl bod dau person o'r un rhyw sy’n dal dwylo yn gyhoeddus yn rhywbeth herfeiddiol o hyd, ar wahân i lond llaw o godau post yn y DU. Addysg yw'r allwedd i newid ac mae mis Hanes LGBTQ+ yn rhan hollbwysig o hynny.

Beth yw eich cynlluniau am eleni/y dyfodol?

Ein cynlluniau nawr yw lledaenu ymwybyddiaeth o Mighty Hoopla i bob man. Dwi'n meddwl bod llawer o bobl eisiau rhywbeth mwy na’r math arferol o ŵyl gerddoriaeth, yn seiliedig ar algorithmau o'r gerddoriaeth maen nhw'n ei ffrydio; maen nhw eisiau diwrnod mas i ddianc rhag straen byw yn y byd heddiw a gobeithio y gallwn ni gynnig rhywbeth i bawb sy'n dod drwy ein gatiau.

"Mewn gwirionedd nid oes dim byd byddwn yn ei newid am fy amser yn Abertawe."

Sut byddech yn disgrifio’ch amser ym Mhrifysgol Abertawe?

"Mewn gwirionedd nid oes dim byd byddwn yn ei newid am fy amser yn Abertawe. Mae gen i’r atgofion gorau o’m hamser yno, fel myfyriwr a hefyd ar ôl graddio gweithiais i Undeb y Myfyrwyr.  Mae llawer o’r ffrindiau agosaf sydd gennyf heddiw yn deillio o’m hamser yno ac rwyf yn gwybod bod hyn yn wir i lawer o bobl sy’n mynychu’r brifysgol."

Mae eich gyrfa’n swnio’n gyffrous dros ben, rwy’n dychmygu bod llawer o nosweithiau hwyr ac oriau hir. Serch hynny, mae’n rhaid ei bod yn teimlo’n werth chweil?

Ydy, mae hi, mae’n ddiwydiant bendigedig i weithio ynddo ond mae’n rhaid ichi fod yn mwynhau’r gwaith. Rwyf yn lwcus fy mod wedi mwynhau gweithio ym maes bywyd nos yn fwy neu lai ers fy sifft gyntaf yn Diva’s yn 2006, ac rwyf wedi cael pobl wych o’m cwmpas. Gary Lulham (perchennog Sin City) a Russell Wade (Rheolwr Adloniant) oedd fy nghyflogwyr cyntaf fel hyrwyddwr, a heb os gwnaethant fy sefydlu yn fy ngyrfa.

"Rwyf yn ddyledus am lawer o’m gyrfa i’m hamser yn Abertawe, yn nhermau dysgu sut i drefnu digwyddiadau mawr a gweithio gyda phobl dalentog."

Oes gennych atgofion arbennig o’ch amser yn Abertawe?

Rwy’n siwr fel y rhan fwyaf o bobl, bod gennyf un neu ddau! Ond mae llawer ohonynt yn deillio o’m hamser yn gweithio i Undeb y Myfyrwyr fel Cydlynydd Adloniant, a bod yn onest. Gwneud tost i Fatman Scoop yn fy nghegin cyn iddo berfformio yn Wythnos y Glas, neu weithio gyda’r Undeb Athletaidd i gynnal y gêm Farsity gyntaf erioed yn Stadiwm y Mileniwm. Rwyf yn ddyledus am lawer o’m gyrfa i’m hamser yn Abertawe, yn nhermau dysgu sut i drefnu digwyddiadau mawr a gweithio gyda phobl dalentog.