Nid oedd llwybr James i chwaraeon anabledd yn un arferol. Wedi ei eni gyda dysplasia ffemwrol o'i goes chwith, dechreuodd James nofio mewn clwb i bobl nad oeddent yn anabl yng Ngwlad Belg. Ar ôl newid i chwaraeon anabledd yn 2003, fe wnaeth James ymuno’n fuan â Sgwad Botensial Nofio Prydain ond erbyn y Nadolig roedd eisoes wedi cael ei ollwng o'r sgwad. Gyda dychwelyd i’r brifysgol fel myfyriwr cyffredin yn ei wynebu, heriwyd James gan Gyfarwyddwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru i fynd ati i rwyfo. Roedd James yn gyndyn i dderbyn yr her i ddechrau ond fe aeth ymlaen i gystadlu mewn 3 pencampwriaeth y byd a dod yn 5ed yn y Gêmau Olympaidd yn Beijing.

Roedd ailddosbarthu yn bygwth dod â'i yrfa rwyfo i ben, ond nid oedd James am roi’r gorau. Newidiodd ei gamp eto ac aeth ymlaen i gynrychioli tîm GB ym Mhencampwriaethau'r Byd yn chwarae Pêl Foli wrth Eistedd.

Ers ymddeol o chwaraeon rhyngwladol, mae James wedi dod yn hyfforddwr personol ac wedi newid camp unwaith eto i gymryd rhan mewn tîm pêl-fasged cadeiriau olwyn y Rhyl Raptors ac yn fwy diweddar Knights of North Wales.