Professor Barratt

BSc Sŵoleg, 1982 & TAR, 1983
Pennaeth Meddygaeth Academaidd Ôl-raddedig a Phennaeth Meddygaeth Atgenhedlol ym Mhrifysgol Dundee.

Prifysgol Abertawe oedd fy newis cyntaf ymysg prifysgolion. Roedd ganddi adran sŵoleg llawn bywyd a oedd yn cynnwys yr holl bynciau roeddwn i am eu hastudio. Pan ymwelais i â'r gyfadran, roedd y staff yn gyfeillgar ac yn groesawgar iawn.  Ar ben hynny, roedd y Brifysgol mewn lleoliad bendigedig ar lan y môr.  Dyma oedd yr unig ddewis i mi. Gwnes i wir fwynhau fy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yr addysgu'n rhagorol ac roedd sawl darlithydd yn llawn ysbrydoliaeth. Rwy'n cofio ein bod ni wedi cael tiwtorialau gyda'r athrawon lle bydden ni'n eistedd mewn grwpiau bach o bedwar neu bum person ac yn trafod pynciau amrywiol. Roedd hi'n braf cael cymaint o gyswllt â'r staff academaidd.

Roeddwn i'n chwaraewr rygbi brwd pan gyrhaeddais i, felly roeddwn i'n dyheu am chwarae dros dîm y Brifysgol. Anghofiais i'n gyflym iawn am yr uchelgais hwnnw pan welais i ba mor uchel oedd safon y chwaraewyr. Rwy'n credu bod rhai ohonynt wedi llwyddo i fod yn chwaraewyr rhyngwladol. Roedd nofio a syrffio ym mhenrhyn Gŵyr yn opsiynau gwell i mi. Roedd y bywyd cymdeithasol yn fywiog iawn sy'n bwysig os ydych chi'n fyfyriwr. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gydol oes. Roeddwn i'n dwlu ar y ddinas a threulion ni amser yn Uplands a'r Mwmbwls. Rwy'n cofio clwb nos o'r enw "Nuts" a oedd â dau grocodeil plastig mawr a oedd yn goleuo. Rwy'n cofio hefyd mynd i wylio tîm o oorllewin Cymru'n chwarae yn erbyn y Crysau Duon  ac roedd hynny'n brofiad gwych. Mwynheais i Brifysgol Abertawe cymaint, arhosais i am flwyddyn  ychwanegol i ymgymryd â Thystysgrif Addysg Raddedig ac addysgais i mewn dwy o'r ysgolion lleol (Penlan a Dynevor).

Ym mlwyddyn olaf fy ngradd Sŵoleg, es i i ddarlith gan Roger Elias ar bwnc ffrwythlondeb ac atgenhedlu a'r wyddor newydd ffrwythloni in vitro (IVF). Roedd yn anhygoel a gwnaeth hwn daro tant i mi. Er fy mod i wedi ymrwymo i gwblhau'r TAR, gofynnais i i Roger sut y gallwn i gael gyrfa mewn atgenhedlu. Dywedodd ef fod angen i mi gwblhau PhD ond doedd hyn ddim yn bosib ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd doedd neb a allai oruchwylio hyn, felly rhoddodd ef fi mewn cysylltiad â Phrifysgol Birmingham.  O hynny, datblygais i yrfa mewn gwyddoniaeth ac addysgu sy'n fy nhywysledled y byd. Nid wy'n siŵr sut i ddisgrifio fy swydd – athro, gwyddonydd, ond ta waeth am y label, dyma'r swydd fwyaf gwobrwyol ac rwy'n teimlo'n wirioneddol ffodus.

Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o'm gyrfa yn gweithio ar IVF. Un o'r pethau mwyaf gwobrwyol yw gweld cwpl yn cwblhau'r broses IVF yn llwyddiannus ac yn cael babi iach yn y pen draw. Rwyf hefyd wedi darlithio a chyflwyno sgyrsiau mewn cynadleddau gwyddonol ledled y byd. Wrth edrych yn ôl nawr, mae'r TAR wedi bod o fudd mawr i mi. Rhoddodd y TAR sgiliau gwerthfawr i mi ac rwyf wedi cynnal elfen addysgu drwy gydol fy ngyrfa. Rwyf hefyd wedi bod yn aelod o Grŵp Arbenigwyr Ffrwythlondeb Gwrywaidd Sefydliad Iechyd y Byd ac wedi gwasanaethu ar fyrddau golygyddol ar gyfer cyfnodolion academaidd amrywiol. Yn ddiweddaraf, rwyf wedi derbyn arian gan Gates Foundation i archwilio i ddull atal cenhedlu gwrywaidd. Mae ein cyrff yn cynhyrchu 1,000 o sberm gyda phob un curiad calon. Mae sberm yn syml o safbwynt cellog ac mae ymdrechion blaenorol o ran dulliau atal cenhedlu gwrywaidd wedi canolbwyntio ar ladd y sberm. Fodd bynnag, bydd unrhyw beth sy'n lladd sberm hefyd yn ymyrryd â phrosesau cellog syml eraill yn y corff felly nid yw'n ateb dichonol. Mae ein gwaith yn edrych ar ffenoteipiau mewn dynion anffrwythlon ac yn defnyddio'r rhain i achosi anffrwythlondeb mewn dynion sydd fel arall yn ffrwythlon. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld treialon dynol o fewn y pum mlynedd nesaf.

Pa gyngor sydd gennych chi i rywun sy'n ystyried Prifysgol Abertawe fel lle i astudio?

Ewch amdani. Mae'n lle gwych. Pe byddwn i heb fynd i Abertawe, fyddwn ni erioed wedi cael y cyfleoedd rwyf wedi'u cael.  Dechreuais i drwy ymgymryd â gradd mewn Sŵoleg ac yn y diwedd rwyf yn gweithio ym maes Meddygaeth. Y peth pwysicaf yw canfod eich hun mewn lle da, wedi'ch amgylchynu gan bobl dda. Mae Prifysgol Abertawe'n lle da gyda phobl dda iawn. Rwyf mewn cysylltiad ag ychydig o bobl o'm cwrs hyd heddiw.