RAJAS VILAS JAGDALE

MSc Peirianneg Fecanyddol. Dosbarth 2023.
Peiriannydd Dylunio yn ORONA Ltd

Eich Gyrfa

Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel Peiriannydd Dylunio yn ORONA Ltd yn Llundain. Yn ORONA, rwyf wedi cael y cyfle i roi fy ngwybodaeth a'm sgiliau ar waith wrth ddylunio atebion arloesol. Mae'r rôl hon wedi caniatáu i mi gydweithio â thîm talentog a chyfrannu at amryw brosiectau ym maes peirianneg. Rwyf yn angerddol am fanteisio ar dechnoleg i greu atebion effeithlon a chynaliadwy. Mae fy nghefndir academaidd a'm profiad ymarferol wedi fy arfogi i fynd i'r afael â heriau dylunio cymhleth a sbarduno canlyniadau llawn effaith yn y diwydiant.

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe dilynais i fy astudiaethau ôl-raddedig mewn Peirianneg Fecanyddol, gan feithrin sylfaen gadarn yn y maes. Gwnaeth y rhaglen gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o gysyniadau peirianneg uwch a chymwysiadau ymarferol, gan fy mharatoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg ddylunio.

Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe (y Brifysgol/y ddinas/yr ardal)?

Yn gyntaf, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amgylchedd academaidd buddiol, gan gyfuno cwricwlwm arloesol â chyfadran gefnogol.   Mae'r ymagwedd arloesol at addysgu a dysgu yn meithrin profiad dysgu deinamig. Yn ail, cefais fy nghyfareddu gan harddwch Abertawe. Mae arfordir ysblennydd y ddinas a'i pharciau gwyrdd yn cynnig cefndir llonydd ar gyfer astudiaethau a hamdden.  Un o'r uchafbwyntiau i mi yn bersonol oedd archwilio traeth Campws y Bae sy'n cynnig ffordd berffaith o ddianc o ddyletswyddau academaidd.  Yn olaf, roedd bwrlwm diwylliannol Abertawe bob amser yn ysbrydoliaeth i mi.  Mae gan y ddinas gymuned gelfyddydau amrywiol, gyda llu o orielau, theatrau a digwyddiadau.  Cafodd fy mhrofiad yn y brifysgol ei gyfoethogi drwy ymwneud â'r egni creadigol hwn, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr y tu hwnt i'r byd academaidd. I grynhoi, gwnaeth Prifysgol Abertawe gynnig taith academaidd ragorol a gafodd ei hategu gan ogoniant naturiol y ddinas a bywyd diwylliannol ffyniannus.  Gwnaeth y cyfuniad o'r tair elfen hon sicrhau bod fy amser yn Abertawe yn brofiad bythgofiadwy a boddhaus.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais i ddilyn fy MSc mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd ei chyfadran o fri, ei chyfleusterau o'r radd flaenaf a'i phwyslais cryf ar gymwysiadau ymarferol. Roedd cwricwlwm cynhwysfawr y rhaglen yn cyd-fynd yn berffaith â'm nodau gyrfa, gan gynnig y platfform perffaith i mi ddyfnhau fy ngwybodaeth a'm sgiliau yn y maes hwn.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?

Byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe heb os nac oni bai i unrhyw un sy'n ystyried addysg uwch.  Mae'r gyfadran ragorol, y cwricwlwm arloesol a'r amgylchedd campws bywiog yn cynnig profiad dysgu buddiol. Mae harddwch naturiol y ddinas a'i chyfoeth diwylliannol yn gwella'r daith brifysgol gyffredinol ymhellach. Mae'r lle'n cynnig cyfuniad o ragoriaeth academaidd a ffordd foddhaus o fyw.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Gwnaeth fy MSc mewn Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Abertawe roi i mi sylfaen gadarn mewn egwyddorion damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol. Gwnaeth y prosiectau ymarferol a mynediad at gyfleusterau labordy feithrin fy sgiliau technegol, gan ganiatáu i mi fynd i'r afael yn hyderus â heriau peirianneg o'r byd go iawn. At hynny, gwnaeth y rhaglen annog meddwl yn feirniadol a datrys problemau, gan fy ngalluogi i feithrin y gallu i ymdrin â phroblemau cymhleth mewn modd dadansoddol.  Gwnaeth yr amgylchedd cydweithredol ac ymgysylltiad â safbwyntiau amrywiol gyfoethogi fy mhrofiad dysgu ymhellach. Ar ben hynny, gwnaeth cysylltiadau cryf y Brifysgol â byd diwydiant hwyluso cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio ac ymgymryd ag interniaethau, gan fy ngalluogi i roi gwybodaeth o'r ystafell ddosbarth ar waith mewn lleoliadau proffesiynol. Roedd y bont hon rhwng y byd academaidd a byd diwydiant yn hynod werthfawr wrth i mi symud ymlaen yn ddidrafferth i'm rôl fel Peiriannydd Dylunio yn ORONA Ltd.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?

Sicrhewch fod gennych sylfaen gref mewn sylfeini peirianneg fecanyddol.  Byddwch yn chwilfrydig a chwilio am gyfleoedd ar gyfer prosiectau ymarferol. Datblygwch hyfedredd mewn meddalwedd CAD a chofiwch ddilyn y diweddaraf am dueddiadau ym myd diwydiant.  Meithrinwch sgiliau datrys problemau a byddwch yn agored i ddysgu gan gydweithwyr a phrofiadau. Mae rhwydweithio ac interniaethau'n allweddol, felly achubwch ar bob cyfle i gael profiad ymarferol. Yn olaf, cofiwch fod arloesedd a chynaliadwyedd yn ysgogi datblygiadau allweddol yn y maes felly mae angen i chi gynnal eich brwdfrydedd drostynt.