Khairol Anuar Bin Mohamad Tawi

BSc Peirianneg Drydanol ac Electroneg (1983).
Cadeirydd a KAT Technologies Sdn Bhd

Ar hyn o bryd, fi yw Cadeirydd Gweithredol fy nghwmni fy hun, KAT Technologies Sdn Bhd a sefydlais ym 1994. Mae gan y cwmni dri phrif maes busnes - datblygu meddalwedd, platfform cymwysiadau symudol fel gwasanaeth a chwmni gwasanaethau sy'n gwasanaethu'r diwydiant telegyfathrebu. Rwyf hefyd yn Gadeirydd SIRIM Berhad, cwmni sy'n eiddo'n llwyr i'r llywodraeth. Mae SIRIM yn sefydliad ymchwil a thechnoleg ddiwydiannol blaenllaw ym Malaysia.

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Darparodd Prifysgol Abertawe'r amgylchedd a feithrinodd fy sgiliau delio â phobl, gan gyfoethogi fy ngallu deallusol ar yr un pryd.

Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe (y Brifysgol/y ddinas/yr ardal)?
Fy hoff beth yw Campws Singleton ei hun sydd yng nghanol Bae Abertawe. Mae'n cynnig heddwch, llonyddwch a harddwch, i gyd yn yr un lle. Fy hoff beth arall yw cyfeillgarwch y gymuned Gymreig a estynnodd groeso mor gynnes i mi pan oeddwn i'n fyfyriwr. Mae gan y brifysgol staff academaidd a phroffesiynol gofalgar, cymwynasgar a hynod broffesiynol.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Ar y pryd, roedd Abertawe'n brifysgol gymharol 'ifanc'. Roeddwn i am astudio mewn sefydliad cymharol newydd. Roeddwn i hefyd am astudio rywle lle gallwn i fwynhau'r awyr agored, byd natur a chwaraeon.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?
Byddwn i'n ei hargymell y rhan fwyaf o'r amser. Mae gan Gampws y Bae asedau newydd sbon a fydd o fudd i'r myfyrwyr. Hefyd, mae enw da'r brifysgol yn cynyddu sydd wedi'i adlewyrchu yn ei chynnydd uchel yn y tablau o'r prifysgolion gorau yn y DU. Mae’r amgylchedd trefol/maestrefol yn gyfleus iawn am astudio heb lawer o'r ymyriadau difrifol sy'n bodoli yn y rhan fwyaf o ddinasoedd mawr. Mae costau byw yn llawer mwy cyfeillgar o'u cymharu â dinasoedd mwy.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Roedd y radd mewn Peirianneg Drydanol, Electroneg a Chyfathrebu yn gwrs perthnasol iawn yn yr wythdegau cynnar. Yng nghanol yr 80au ac ar ddechrau'r 90au, roedd y sector cyfathrebu symudol a masnach electronig ar ei anterth. Dywedwn i fod gan Brifysgol Abertawe'r weledigaeth i deilwra cwrs sy'n cyd-fynd â thueddiadau'r dyfodol.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?
Dydw i ddim yn gwybod beth fyddai enw'r cwrs nawr, ond bydd peirianneg gyfathrebu bob amser yn berthnasol i fyd diwydiant. Mae problemau peirianneg sylfaenol sydd angen eu datrys. Hefyd, mae bob amser angen rhoi technolegau newydd ar waith mewn peirianneg gyfathrebu, sy'n golygu y bydd yn berthnasol yn y dyfodol.