Beth taniodd eich angerdd dros redeg ?

Dwi ddim yn cofio pam roeddwn i wrth fy modd yn rhedeg fel plentyn, mae'n rhywbeth roeddwn i bob amser yn ei wneud. Nawr rwy'n gwybod na allwn i fyw heb redeg fel dihangfa, fel rhyddid; rhywbeth y gallaf ei wneud unrhyw le yn y byd, ac sy’n mynd â fi dros y byd. Rwyf wrth fy modd yn teithio a rhedeg yw tarddiad mwyaf elfennol hynny. Mae'n deimlad mor gadarnhaol i fod yn mynd i rywle bob amser ac mae hynny wedi fy nghymell pan oedd elfennau eraill o fy mywyd yn teimlo mor stond.

Oeddech chi bob amser eisiau bod yn athletwr proffesiynol?

Rwy’n cofio bod yn llawn edmygedd o Kelly Holmes pan enillodd ei haur Olympaidd dwbl yn Athen ‘nôl yn 2004. Dyna’r tro cyntaf, yn 12 oed, i mi wir feddwl “Waw, hoffwn i fod fel hi.” Roedd campau Kelly yn ymddangos mor bell i ffwrdd oddi wrth fy lefel i fodd bynnag, nes i ddim hyd yn oed freuddwydio am fod yn rhan o fyd athletau proffesiynol tan ddegawd yn ddiweddarach pan wnes i raddio o Brifysgol Lamar. Gorfododd hynny i fi wneud penderfyniad am yr hyn yr oeddwn am ei wneud gyda fy mywyd.

Pwy fyddech chi'n dweud sydd wedi'ch ysbrydoli fwyaf trwy gydol eich gyrfa?

Gall unrhyw un gael ei ysbrydoli fel y cefais i gan gampau fel rhai Kelly, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cofio nad oes unrhyw bencampwr yn ceisio bod fel rhywun arall. Mae fy hyfforddwr Tony Houchin bob amser yn fy atgoffa i beidio â rhoi unrhyw un ar bedestal ac i fod yn falch o'r hyn sy'n gwneud fy llwybr i yn wahanol i un pawb arall.

"Er bod canlyniadau terfynol y rasys hyn yn gamau pwysig, mae'r gwerth yr wyf yn ei roi arnynt yn deillio o sut yr wyf yn teimlo am y ffordd yr wyf yn eu rhedeg."

Beth yw eich camp fwyaf hyd yn hyn?

Rwy'n falch o'r ras ddiwethaf i mi gystadlu ynddi: y 3000m yn y Pencampwriaethau Prydeinig dan do ym mis Ionawr, yn Arena Emirates Glasgow. Medal arian Prydain yw'r clod uchaf i mi ei dderbyn hyd yn hyn.

Rwy’n dal i deimlo bod rhai rasys wedi bod yn fwy pwysig na hynny fodd bynnag, er enghraifft y ras a’m cymhwysodd ar gyfer pencampwriaethau trac yr NCAA a’r ras a’m cymhwysodd i gynrychioli Prydain Fawr yn rhyngwladol am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau XC Ewrop.

Er bod canlyniadau terfynol y rasys hyn yn gamau pwysig, mae'r gwerth rydw i'n ei roi arnyn nhw yn deillio o sut rydw i'n teimlo am y ffordd y gwnes i eu rhedeg. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod yn ymwybodol o'r campau hyn, nad ydyn nhw byth yn cael eu cofnodi’n swyddogol, ond yn dangos cynnydd personol mwy anghyffwrddadwy o ran pethau fel hyder, na ellir ei fesur mewn ystadegau yn unig.

Mae’n flin gennym ond nid oes fersiwn Gymraeg o’r fideo hwn.

Cawsoch chi flwyddyn anodd yn 2018 yn sgîl anaf a salwch, ond y llynedd gwnaethoch chi rasio dros Brydain Fawr yng Nghwpan 10,000m Ewrop. Fe wnaethoch chi hyd yn oed lwyddo cyflawni amser personol gorau! Sut wnaethoch chi bara trwy'r cyfnod anodd hwnnw a dod yn ôl yn gryfach fyth?

Roedd gen i system gefnogi wych. Mae pobl yn siarad am unigrwydd y rhedwr pellter hir ond rwy'n credu bod cyfathrebu â hyfforddwyr, ffisiotherapyddion, ffrindiau a theulu yn hanfodol i gynnal hunan-gred yn y gamp hon. Credaf hefyd fod y pencampwyr mwyaf yn athronwyr da. Rhaid i chi allu codi uwchlaw pethau ac mae hynny'n sgìl y gallwch chi ei feithrin trwy brofiad.

Verity Ockenden yn rhedeg yn ystod cystadleuaeth (Ⓒ Tarda Davison-Aitkins)

fe wnaethoch chi raddio o brifysgol abertawe yn 2014 gyda ba mewn llenyddiaeth saesneg ac eidaleg. ydych chi wedi defnyddio elfennau o'ch gradd ers graddio?

ydw, rwyf wedi parhau i ysgrifennu ar ryw ffurf neu'i gilydd. mae wedi dod yn llawer mwy creadigol na dadansoddol, ond rwy'n gweld fy marddoniaeth yn fodd defnyddiol iawn i grisialu atgofion a theimladau sydd wedyn yn gweithredu fel anogaeth, therapi a gellir hyd yn oed ei hymgorffori i greu mantras a ffocws cyn y ras. ar wahân i hynny, rwy'n credu ei bod hi’n bwyisg i ddal gafael ar yr etheg waith gref y mae prifysgol wedi'i meithrin ynof; dylai athletwr da bob amser fod yn fyfyriwr da.

A oeddech chi'n ei chael hi'n anodd i gydbwyso'ch llwyth gwaith yn y brifysgol wrth hyfforddi?

I ddechrau, roeddwn ychydig yn ddiog gyda fy hyfforddiant a fy rhestrau darllen ac fe wnes i fynd i gryn dipyn o bartion. Fodd bynnag, ym mlynyddoedd olaf fy ngradd, aeth un o fy Athrawon â mi i’r naill ochr a dweud y gallwn gael 1af pe bawn i'n gweithio amdani, felly mi wnes i hynny. Roedd y cynnydd hwnnw yn y llwyth gwaith ynghyd â sylweddoli bod gen i botensial i ennill medal yn BUCS a’r cynnydd mewn hyfforddiant a ddilynodd yn gofyn i mi ganolbwyntio a threfnu fy amser yn hynod ofalus. Byddwn yn deffro’n gynnar i fachu man da yn y llyfrgell, gan fynd â brecwast a chinio gyda mi ac aros yno drwy’r dydd heblaw am adael i fynd i ddarlithoedd ac yna ymlaen i’r trac wedyn. Dechreuais wrando ar fersiynau sain o lyfrau wrth redeg, a oedd yn awgrym defnyddiol iawn.

Rydych chi hefyd yn gogydd ac yn fardd. Sut ydych chi'n cydbwyso'r tri pheth, ac a ydych chi'n gweld eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd yn dda?

Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus fy mod yn gorffwys digon ac yn bwyta ar yr adegau cywir pan rydw i'n gweithio yn y gegin ond yn ffodus mae fy nghyflogwyr yn Messums Wiltshire yn gefnogol iawn i'm gyrfa redeg, ac wedi trefnu fy oriau gwaith o amgylch fy hyfforddiant, felly dydw i ddim yn gweithio o gwbl ar fy nyddiau hyfforddi caletaf (dyddiau Mawrth a Gwener) er mwyn gallu canolbwyntio'n gyfangwbl ar hynny. Rwy'n credu bod fy nealltwriaeth a'm mwynhad o goginio yn fuddiol iawn o ran rhoi'r lefel orau o faeth i mi fy hun i helpu i gynnal fy nghorff.

O ran ysgrifennu, rydw i'n gwneud llawer o gyfansoddi a golygu wrth redeg, sy'n fy nifyrru, felly'r unig broblem yw cofio popeth nes i mi gyrraedd gartref.  Dydw i ddim yn cyflwyno cymaint o waith ag yr hoffwn i, ond mae yna ddigon o amser ar gyfer hynny yn nes ymlaen.

(Ers cynnal y cyfweliad hwn, nid yw Verity yn gweithio fel cogydd yn Messums Wiltshire bellach. Ar hyn o bryd mae hi’n ystyried newid llwybr gyrfa tuag at rywbeth sy’n gwneud mwy o ddefnydd o’r sgiliau ysgrifennu a ddatblygodd yn ystod ei chwrs gradd. Ni allwn ni aros i weld beth fydd nesaf ar gyfer Verity a byddwn ni’n rhoi gwybod i chi i gyd!)

"Mae'n iawn gwneud pethau yn eich ffordd eich hunan, yn eich amser eich hunan."

A oes gennych chi unrhyw gyngor i'r rhai sy'n gobeithio dilyn eich esiampl? A oes rhywbeth y byddech chi wedi dymuno’i wybod neu’i glywed?

Rwy’n difaru nad oedd gen i fwy o hunan-gred yn gynharach o ran fy rhedeg a'm hastudiaethau, ond yn y pendraw, mae'n eithaf lwcus o bosib na ddechreuais hyfforddi'n ddwys yn rhy gynnar yn fy natblygiad. Mae yna risg mor enfawr o wneud gormod, yn enwedig ymhlith menywod. Mae'n iawn gwneud pethau yn eich ffordd eich hunan, yn eich amser eich hunan.

At beth yr ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd?

Rydym wedi gwybod bod gennyf y gallu i redeg dan 15.20 dros 5000m a dan 32 munud yn y 10,000m ers tro bellach, ond rhan o'r broses yn y sefyllfa bresennol yw bod yn amyneddgar wrth aros am fy nghyfle i wneud hynny. Pan fyddwn yn gallu rasio'n ddiogel eto, gobeithiaf y bydd cyflawni’r amseroedd hyn yn rhoi cyfle i mi gymhwyso ar gyfer pencampwriaethau rhyngwladol fel y rhai Ewropeaidd, y Gymanwlad ac un diwrnod efallai hyd yn oed y Gemau Olympaidd.