Sian Thomas

Sian Thomas

BA & MA Cymraeg, Dosbarth 1980.

Darlledwr, Trailblazer.

Pam dewis gyrfa mewn teledu?

Nid fi ddewisodd teledu, ond teledu dewisodd fi! Ers yn ifanc, archeolegydd o’n i ishe bod, a gweithio yn yr Aifft yn arbennig, ond roedd hi’n amhosib astudio hen hanes yn yr ysgol – ‘roedd rhaid neud hanes mwy modern yn gyntaf. Roeddwn yn dwli ar y Gymraeg hefyd, felly dyma benderfynu astudio Cymraeg fel gradd, a chadw’r Eifftoleg fel diddordeb mawr a hobi. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r frwydr i sefydlu sianel  deledu Cymraeg, ac erbyn i mi orffen yn y coleg, ‘roedd y Sianel yn realiti. Erbyn hynny, roedd gen i brofiad radio helaeth, ac ar ôl cyfweliad am swydd cyflwynydd gydag S4C, mi gefais y swydd. Mae’r gweddill yn hanes , fel ma’ nhw’n dweud.

Siwt wnaethoch chi ddechrau ar eich gyrfa?

Tra yn y chweched dosbarth yn yr ysgol - Ysgol Gyfun Ystalyfera, roeddwn yn chwilio am waith dros yr haf, i ennill tipyn o arian ychwanegol. Cefais y cyfle i weithio ar y dderbynfa yng ngorsaf radio Sain Abertawe - yn ateb ffôns - a hynny am dair wythnos, tra bo’r derbynnydd ar wyliau.  Tra yno byddai pobol yn dod â’u coffi i  gael sgwrs gyda fi, a bûm yn siarad rhywfaint am y ffaith fy mod yn licio canu, ac yn ymddiddori yn y sîn bop Cymraeg. Daeth y swydd i ben, ond rhai wythnosau wedyn cefais alwad ffôn gan Wyn Thomas, oedd yn bennaeth rhaglenni Cymraeg yr Orsaf ar y pryd, yn gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn cyflwyno rhaglen fyw ar ganu ysgafn Cymraeg. Roedd y DJ presennol yn gadael i fynd i’r BBC.  Roeddwn erioed wedi ystyried cyflwyno, ond derbyniais y cynnig, a mynd am raglen brawf. Ar ddiwedd honno, ddwedodd Wyn ‘wela i ti wythnos nesa’, a dyna ddechrau ar bethe. Cefais hyfforddiant ar weithio’r ddesg rheoli, ac o fewn wythnos roedd gen i raglen radio wythnosol fyw am ddwy awr bob nos Wener!  O fewn dim, roeddwn yn ‘hooked’ ac yn mwynhau pob munud. Prifysgol Abertawe oedd fy newis cyntaf i wneud gradd - roeddwn yn awyddus i astudio tafodieitheg a chymdeithaseg iaith, ac roedd yr Adran Gymraeg yno yn ei gynnig fel opsiwn.  Roedd yn gyfleus iawn felly i fi fynd i Sain Abertawe bob nos Wener i wneud fy rhaglen , ac yna dod yn ôl i’r Coleg. Gwnes hyn am bedair blynedd wrth wneud B.A. Cymraeg, ac yna M.A. mewn tafodieitheg a chymdeithaseg iaith. Tra yno,  cefais ddysgu am bob agwedd o ddarlledu radio - casglu straeon newyddion, golygu tapiau, gwerthu ‘air time ‘ hysbysebion, gwneud ‘jingles’  - ‘you name it’ fe wnes i fe. Roedd yn brofiad anhygoel, ac yn sylfaen wych i’r byd darlledu. Erbyn hyn roedd y ‘bug’ darlledu wedi cydio ynof, ac roedd S4C yn mynd i ddigwydd, ac ar y gorwel. Ar ôl gadael Coleg es i weithio am ychydig fisoedd fel ymchwilydd i Radio Cymru yn Abertawe, cyn gweld swydd cyflwyno S4C yn cael ei hysbysebu yn y wasg. Es amdani, ac fel dwedes I , mae’r gweddill yn hanes.

Beth ydych chin hoffi fwyaf am gyflwyno?

 Dwi wrth fy modd yn cyflwyno. Dwi’n licio bod yng nghanol pobol, ac wrth fy modd yn clywed eu straeon. Mae’r swydd yma yn berffaith i fi felly. Dwi’n cael sgwrsio gyda rhywun gwahanol bob dydd, ac yn cael y cyfle i ddysgu am bob math o bethe. Mae’n fraint i rannu hanesion, ymweld â chartrefi pobol , a dweud eu hanes.  Mae hefyd wedi golygu mod i wedi cael y cyfle i deithio’r byd a ffilmio mewn nifer o wledydd gwahanol. Mae pob diwrnod yn wahanol, a ma’ hynny’n wych.

Sut deimlad oedd bod yn un o gyflwynwyr cyntaf S4C?

Mae cael bod yno ar ddechrau unrhyw beth yn fraint, ac roedd cael bod yno ar ddechrau S4C yn fythgofiadwy. Roedd cymaint o frwydro ac aberthu wedi bod yn gefnlen i sefydlu S4C, ac roeddwn yn awyddus i neud fy  ngore glas i sicrhau ei llwyddiant. Roeddwn yn un o’r tîm o dri chyflwynydd cyntaf y Sianel - Robin , Rowena a finnau, y fenga’ o’r tri. Roedd bod yno ar y noson agoriadol yn brofiad anhygoel.  Dim ond un noson agoriadol sydd yna - mae’n unigryw, ac mi roeddwn i yno.

Ydych chin teimlo bod rhagfarn yn erbyn cyflwynwyr benywaidd o hyd?

 Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn fy ngyrfa i weithio gydag amrywiaeth o bobol o bob cwr, ac ymhob maes. Ers y swydd gyntaf yna ar Radio Sain Abertawe, dwi wedi bod yn y lleiafrif, fel merch, ac er bod pethe wedi gwella’n aruthrol dros y blynyddoedd, mae merched dal yn y lleiafrif yn y swyddi uchaf mewn darlledu. Rhaid cyfaddef, dwi erioed wedi profi rhagfarn gan fy mod yn ferch, nag o ran fy oedran. Dwi’n credu fy mod wedi bod yn fwy ffodus na nifer. Mae’n wir fod dynion yn cael eu beirniadu’n llai llym na merched am eu golwg (a’u gallu yn aml), ac yn sicr mae rhagfarn yn fyw ac yn iach iawn yn y cyfryngau. Fel merched mae disgwyl i chi edrych yn well a phrofi eich bod yn gallu neud y swydd  nid jest cystal, ond yn aml yn well na dynion . Ma’ pethe yn newid  - ‘drychwch ar y merched gwych sy’n ymddangos ar ein sgrin bob nos - ond does gen i ddim amheuaeth eu bod wedi gorfod brwydro, a brwydro i ennill eu lle. Mae yna dipyn o ffordd i fynd, a lot o frwydrau eto o’n blaen ni.

Pwy yw’r person enwocaf i chi holi?                     

Dwi wedi cael y fraint o gyfweld a phob math o bobol ym mhob cylch o fywyd. Beth sy’n gwneud rhywun yn enwog? Bod pobol yn eich nabod ar y stryd?  Eich bod yn gyfoethog, neu yn llwyddiannus yn eich gyrfa? Eich bod yn wyneb cyfarwydd drwy’r byd? Yn ddylanwadol? Os felly, dwi wedi bod ddigon ffodus i gyfweld ag amryw o'r rhain. Anodd dweud pa un fyddai’r mwyaf enwog, nag am ba reswm chwaith.

 Pwy yw’r person mwyaf anodd i chi gyfweld?

Y mwyaf anodd? Mi gadwa i hynny’n gyfrinach - ond byddai mwy nag un ar y rhestr!!

 Atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe?

Gallaf ddweud yn gwbl onest taw fy mlynyddoedd fel myfyrwyr yn Abertawe oedd gyda’r hapusaf yn fy mywyd. Pe byddai modd gwneud yr un peth eto, gyda’r union run bobol, fydden ni yno’n syth! Roeddwn wrth fy modd gyda’r cwrs a staff yr Adran Gymraeg, roedd y Gym Gym yn lot o sbri, a gwnes  ffrindiau oes yno . Roedd y Brifysgol ar un campws hefyd - yn wahanol i nifer o brifysgolion eraill, sydd naill ai heb gampws, neu sydd ag adrannau ar chwâl ar draws  dinas neu dref. Roedden ni, fyfyrwyr  Abertawe , gyda’n gilydd, beth bynnag oedd eich cwrs - hanes, peirianneg, Saesneg, gwyddoniaeth, cerddoriaeth, Cymraeg ac yn y blaen. Roedd pawb yn bwyta gyda’n gilydd yn y ffreutur, ac yn yfed gyda’n gilydd yn y bar. O ganlyniad roedd  ein llwybrau, fel Cymry Cymraeg yn y meysydd gwahanol, yn croesi’n ddyddiol, hyd yn oed os oedden ni’n astudio mewn adrannau cwbl ar wahân. Roedd gen i ffrindiau o bob cwr o’r byd hefyd.  Erbyn hyn wrth gwrs mae campws anferth arall ar Fabian Way, sy’n wych, ond o ganlyniad, ma’ na ddwy ran i’r brifysgol nawr, a dau gampws. I fi, roedd bod gyda’n gilydd fel un corff o fyfyrwyr Abertawe yn amhrisiadwy. Mae’r Gymraeg, erbyn hyn, diolch fyth yn cael mwy o sylw a mwy o statws nag yn ein dyddiau ni. Dyddiau hynny, roedd yn frwydr barhaol i gael pethe’n ddwyieithog, ac i gael statws cydnabyddedig i’r Iaith o fewn y coleg.

Ar y llaw arall, mae dinas Abertawe ei hun i weld yn llai Cymreig a Chymraeg nag y bu pan oeddwn i’n fyfyriwr. Bryd hynny roedd y Gymraeg I’w chlywed yn gyson mewn siopau ac ar y stryd. Mae llai o Gymraeg ar y stryd nawr, ac mae hynny yn ofid calon.

Anghofia i fyth fy nyddiau yn y Brifysgol yn Abertawe - dyddiau dedwydd, dyddiau hapus, dyddiau da a dyddiau i’w trysori am byth.