Astudiodd Dr Sam Blaxland am radd doethur mewn Hanes yn Abertawe rhwng 2013-6, ac ar ôl hynny daeth yn gymrawd ôl-ddoethurol yn yr adran honno.  Mae Sam yn ymddangos yn aml fel arbenigwr ar raglenni teledu, mae e’n cyflwyno cyfres podlediadau Prifysgol Abertawe Archwilio Problemau Byd-eang, ac mae e’ wedi ysgrifennu hanes Prifysgol Abertawe i ddathlu ei chanmlwyddiant.

Beth sbardunodd eich cariad at hanes?

Roeddwn i bob amser yn dwlu ar hanes yn yr ysgol.  Cefais fy magu mewn pentref bach yng ngorllewin Cymru, a oedd ganddo ddiwydiant glo a physgota sylweddol ers talwm.  Roeddwn i’n arfer cerdded o gwmpas y coedwigoedd yn sylwi ar ychydig o symbolau’r diwydiannau hyn oedd yn weddill.  Dyma’r tro cyntaf i mi ddechrau meddwl am sut cafodd fy nghynefin ei lunio a’i ffurfio gan yr holl rymoedd ehangach hyn, yn ogystal ag unigolion arbennig, o’r gorffennol. 

Beth oedd pwnc eich gradd doethur? 

Mewn gwirionedd, testun fy ngradd doethur oedd y Ceidwadwyr yng Nghymru ers 1945. Gwnes i fagu diddordeb yn hyn fel myfyriwr israddedig pan astudiais i hanes Cymru a sylweddolais i fod y testun hwn wedi cael ei esgeuluso. Sylweddolais i fod lleoedd fel y lle y cefais fy magu yn Sir Benfro, yn cael eu tangynrychioli yn y llyfrau hanes, tra roedd lleoedd fel y Cymoedd yn fwy amlwg.  Roedd hyn yn iawn, wrth gwrs – doedd e’ ddim yn fy ngwneud i’n grac! – ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i unioni’r anghydbwysedd. Dyna’r unig destun byddwn i erioed wedi ystyried ar gyfer gradd doethur, serch peidio â bod yn Geidwadwr fy hunan.  Pan dderbyniais i’r cyllid gan y cyngor ymchwil er mwyn ei astudio, roeddwn i wrth fy modd. 

O ble y daw eich cariad at ymchwil? 

Rydw i’n dwlu  darganfod pam mae pobl yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw.  Mae natur dynol yn gymhleth ac mae pawb yn ymateb mewn ffyrdd emosiynol.  Pan rydych chi mewn archif gallwch chi wir deimlo gwendidau a diffygion pobl yn diferu o ddogfennau.  Pan astudiais i hanes gwleidyddol, roeddech chi’n gwybod bod rhai pobl yn cael eu hysgogi gan uchelgais, neu gan awydd i gyflawni gwasanaeth cyhoeddus, neu gan drachwant – neu beth bynnag oedd e.  Mae hynny’n fy hudo i.  Ac mae bod mewn archif (treuliais i sawl wythnos yn gweithio yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen ar gyfer fy ngradd doethur) bob amser yn brofiad arbennig iawn.

"Mae hi wedi bod yn wir fraint imi dderbyn y dasg o ysgrifennu hanes y Brifysgol ar gyfer ei chanmlwyddiant."

Dywedwch wrthon ni am eich rôl bresennol yn y Brifysgol. Pam ydych chi’n ei mwynhau?

Mae hi wedi bod yn wir fraint imi dderbyn y dasg o ysgrifennu hanes y Brifysgol ar gyfer ei chanmlwyddiant.  Dyma anrhydedd.  Hefyd rhoddodd y Brifysgol law rydd imi ymgymryd â’r pwnc yn y ffordd roeddwn i eisiau, sy’n golygu ysgrifennu hanes cymdeithasol o ddiwylliant ieuenctid a bywyd academaidd ers 1945, gan ddefnyddio Abertawe fel astudiaeth achos, yn y ffordd roeddwn i’n meddwl oedd orau.  Mae e wedi bod yn brofiad gwych.  Ond yr agwedd fwyaf pleserus o bell ffordd oedd cynnal  agwedd hanes llafar  fy llyfr, a oedd yn golygu siarad â bron 100 o staff a myfyrwyr presennol neu flaenorol o’r gorffennol pell neu ddiweddar. Trwy hyn rydw i wedi cwrdd â rhai o’r bobl fwyaf caredig a diddorol rydw i erioed wedi dod i gysylltiad â nhw.  Mae hi wedi bod yn gymaint o hwyl, a dydw i ddim yn gor-ddweud wrth ddweud mai dod i nabod llawer o’r bobl hyn, siarad â nhw, a dysgu ganddyn nhw yw rhai o o freintiau mwyaf fy mywyd.  Hefyd rydw i’n dwlu ar y gwaith dysgu a thiwtora rydw i’n ei wneud.  Mae gennyn ni lawer o bobl ifanc dalentog yn dod i astudio gyda ni yn Abertawe. 

Beth sy’n eich swyno chi am y bobl rydych chi wedi cyfweld â nhw, ac am eich gwaith yn fwy cyffredinol?

Ches i ddim fy magu gan fy nheidiau a’m neiniau, ond roedden nhw’n byw yn yr un pentref â’m rhieni, felly cefais fy magu gyda nhw.  Roedden nhw’n ymddiddori yn eu hanes eu hunain felly rydw i bob amser wedi teimlo bod pobl yn ffenestri ar fydoedd na phrofais i fyth mohonynt. Yn aml mae atgofion pobl yn amherffaith – ac weithiau’n  anghywir! – ond maen nhw’n gallu rhoi ymdeimlad neu flas i chi o gyfnod mewn hanes, neu o agweddau hŷn, mewn ffordd na all llyfrau hanes ei wneud bob tro. Rydw i’n dwlu ar siarad â phobl sydd yn adrodd stori, hefyd.  Mae rhai manteision gan fy nghenhedlaeth i, ond rydw i’n meddwl nad ydyn ni, yn gyffredinol, yn sgwrsio nac yn adrodd straeon cystal â chenedlaethau blaenorol.  Mae bod yng nghwmni pobl hŷn fywiog yn ein cyfoethogi ni. 

Beth achosodd i chi gymryd rhan yng nghyfres podlediadau’r brifysgol?

Rydw i’n credu ei fod e’n hanu  o’r gwaith cyfryngau roeddwn i wedi’i wneud, yn ogystal â’m profiad fel cyfwelydd am y prosiect hanes llafar.  Yn 2017, pan roedd ymgyrch yr etholiad cyffredinol ymlaen, ymwelodd cyn-Brif Weinidog y DU â Chymru ac roedd y BBC eisiau i rywun  siarad am hyn.  Y Ceidwadwyr yng Nghymru? Gallwn i ddweud rhywbeth am hynny!  Felly gwnes i ddarn i gamera ar gyfer y sianel newyddion, ac ers hynny rywsut rydw i wedi bod mewn ac allan o’r stiwdios yn gwneud pytiau bach i’r sylwebwyr.  Rydw i’n dwlu ar wneud hyn, er eu bod nhw fel arfer yn fyw a dan bwysau uchel. Yn fwy na thebyg yr uchafbwynt oedd gweithio fel un o’r sylwebwyr dros nos i’r BBC yn ystod etholiad 2019. Arhosais yn effro drwy’r nos yn gwylio’r canlyniadau hanesyddol hyn yn ymddangos! Beth bynnag, oherwydd hynny ces i gynnig i wneud y gyfres hon, Archwilio Problemau Byd-eang. Mae’n her hollol newydd, ond yn un rydw i wedi ymhyfrydu yn ei gwneud ac wedi ei mwynhau.

Fy swyddogaeth i yw hwyluso’n hymchwilwyr i siarad am eu gwaith eu hunain.  Bydda i’n siarad tua phump y cant o’r amser?  Dydw i ddim yna i’w herio nhw nac i ychwanegu at hanfod yr hyn maen nhw’n ei ddweud.  Ond, bydda i’n gwneud llawer o ymchwil cyn y recordio, oherwydd bydda i eisiau holi cwestiynau perthnasol. Hefyd, dydw i ddim yn ofni gofyn i bobl  esbonio pethau eto. Dydw i ddim yn wyddonydd, ond bydda i’n deall llawer o’r hyn mae’r academyddion o’r disgyblaethau hyn yn ei ddweud.  Os na fydda i’n deall am beth maen nhw’n sôn, bydd yn debygol na fydd gwrandawyr eraill yn ei ddeall chwaith.  Felly rydw i’n meddwl fy mod i’n ddefnyddiol yn yr ystyr hwnnw!  Mae hi’n gyfres wych, ac mae gwerthoedd y cynhyrchiad yn anhygoel – dyw hynny ddim byd i wneud â fi. 

Sut ydych chi’n treulio’ch amser pan dydych chi ddim yn gweithio?

Rydw i’n ceisio yn bwrpasol i neilltuo amser i bethau sydd heb gysylltiad â’r gwaith.  Rydw i’n hoff iawn o redeg.  Rydw i wedi rhedeg sawl hanner marathon mewn amserau rydw i’n eitha bodlon arnyn nhw.  Hefyd rydw i’n rhedeg llawer o bellterau eraill, yn aml gydag aelodau eraill y clybiau rhedeg rydw i’n aelod ohonyn nhw. Fel arfer, rydw i’n frwd iawn dros redeg trwy barciau ac rydw i wedi gwneud dros 100 o’r rhediadau hyn (mewn 50 lleoliad gwahanol!).

Rydw i’n darllen papurau newydd mewn ffordd hen-ffasiwn ac eitha obsesiynol ac rydw i’n ceisio darllen mwyafrif y prif deitlau mewn wythnos, yn enwedig dros y penwythnos. Rydw i wir yn hoffi coginio ar gyfer fy ffrindiau, neu ar fy nghyfer i a’m partner hir-dymor, ac rydyn ni yn mynd allan i fwyta yn llawer rhy aml hefyd! Hefyd, mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y broses o gynhyrchu gwin, a’i hanes, sydd yn golygu yfed y stwff hefyd.

Mae fy mhartner yn dod o Awstralia felly rydyn ni’n ceisio mynd yno unwaith y flwyddyn.  Rydw i’n hoffi teithio ond hefyd rydw i’n credu bod gyda ni ddigonedd o leoedd anhygoel ar stepen ein drws ni felly rydw i wrth fy modd yn darganfod cefn gwlad Cymru a Phrydain yn ehangach.  Os bydd hynny’n dod i ben mewn tafarn sy’n croesawu cŵn ac sy’n gweini cwrw braf neu win da,  gorau oll.  

Pa etifeddiaeth hoffech chi ei gadael i genedlaethau’r dyfodol?

Dydw i ddim erioed wedi meddwl am hyn.  Nawr fy mod i’n cael fy holi, rydw i’n dyfalu: ysgrifennu ychydig o lyfrau da, diddorol a gweddol ddigrif.  Rydw i’n gobeithio bydd fy myfyrwyr yn meddwl fy mod i’n athro da.  Ac rydw i’n gobeithio bydd rhai pobl sydd yn fy ngwylio ar y teledu yn meddwl bod gen i rywbeth i’w ddweud sydd yn mynd yn groes i ddoethineb confensiynol.  Mae llawer gormod o hynny!