Ryan Johnson

Y Gyfraith gyda Throseddeg 2023

Dywed wrthon ni am dy amser ym Mhrifysgol Abertawe

Fi yw'r person cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol, felly roedd y cwbl yn dipyn o sioc yn fy mlwyddyn gyntaf gan nad oeddwn i'n gwybod beth i'w ddisgwyl, ac ychwanegwyd at hyn yn rhannol gan ddyfodiad COVID-19. Ychydig wythnosau ar ôl i fi symud i Abertawe, caeodd y Brifysgol ac aeth darlithoedd ar-lein. 

Yn ystod fy ail flwyddyn, roedd cyfyngiadau symud ar waith o hyd ond cawson nhw eu llacio ychydig, gan roi cyfle i fi a fy ffrindiau yn yr un

fflat fynd allan ac archwilio'r byd. Penderfynon ni gofrestru ar gyfer hirdaith i wersyll cychwyn Mynydd Everest a chodi rhywfaint o arian at elusen ar yr un pryd.

Roedd y drydedd flwyddyn yn hynod ddifyr ac yn welliant amlwg ar y ddwy flynedd flaenorol, wedi'i helpu'n rhannol gan ddychwelyd i'r campws a chael darlithoedd ar y safle i bawb. Roedden ni newydd ddychwelyd o Nepal ac roedden ni bellach yn barod i gychwyn RAG (Codi a Rhoi) Abertawe o ddifrif. Ochr yn ochr â fy astudiaethau, roeddwn i am fynd allan a gwneud rhagor o bethau. Dechreuais i wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai a chymryd rhan yn rhaglen Cyfraith Stryd Clinig y Gyfraith Abertawe. Byddwn i’n mynd i'r llys cymaint â phosib, gan feithrin profiad o waith cyfreithiol lle bo modd, ac ymunais â Chymdeithas y Bar. Aeth beicio a bod yn heini â fy mryd i o ddifrif, ac roedd gen i gyfle i fynd allan ac astudio mewn mwy o fannau gan fod y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau wedi dod i ben. Yn gyffredinol, roedd y brifysgol yn anodd, yn galed ac yn ddwys, ond fyddwn i byth am ei newid.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

1) Rwy'n dwlu ar draeth Abertawe. Mae'n hardd. Mae'n ymestyn yr holl ffordd o un pen o'r bae i'r llall ac ar ddiwrnod da gallwch chi gerdded ar hyd y traeth cyfan. Mae gan draeth Abertawe le i bawb, ger y twyni tywod lle mae'n dawel, ger y grisiau lle gallwch chi eistedd heb i neb darfu arnoch chi ac os nad ydych chi am gael tywod yn eich esgidiau, neu ger The Secret Bar & Kitchen lle gallwch chi gael parti a chwarae gemau chwaraeon. Mae rhywle bach i bawb.

2) Yr ail beth rwy'n ei hoffi am Abertawe yw ei bod hi'n ddinas fach sy'n newid drwy'r amser. Mwy na thebyg, gallwch chi gerdded o un pen o ‘dref’ Abertawe i'r llall mewn tua 30 munud. Os ydych chi'n dod o dref fach, mae'n hawdd dod i arfer ag i Abertawe. Mae coedwigoedd a thraethau o'ch cwmpas a'r Mwmblws yn y bae, nid yw'n lle rhy gynhyrfus ond mae'n meddu ar sŵn hyfryd bwrlwm bywyd.

3) Y trydydd peth hoffus am Abertawe yw'r teithiau cerdded a'r gweithgareddau awyr agored. Ceir llwybrau coetir ym mhob man yn Abertawe o Barc Singleton i Fynydd Cilfái, ac o'r Marina i Erddi Clun. Mae rhai mannau gwych ar gael y mae'n hyfryd cerdded ynddyn nhw a'u harchwilio. Os oes gennych chi geufad neu badlfwrdd, mae Afon Tawe neu lanfa'r Mwmbwls yn fannau perffaith i roi cynnig ar chwaraeon dŵr neu, os hoffech chi fynd dro hirach i weld morloi a dolffiniaid, gallwch chi yrru i Fae Rhosili. Ar y cyfan, mae gan Abertawe lawer i'w gynnig os ydych chi'n barod i archwilio.

Pam dewisaist ti astudio yn Abertawe?

Dewisais i astudio yn Abertawe gan ei bod hi'n ddigon pell oddi cartref i deimlo'n newydd ac yn wahanol, ond pe bawn i am fynd adref, fyddwn i ddim yn gorfod gyrru am filltiroedd lawer i gyrraedd yno. Roeddwn i am aros yng Nghymru a chan fod gan Brifysgol Abertawe'r ysgol orau o ran y gyfraith, roedd y penderfyniad yn un hawdd. Gan mai fi yw'r person cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol, roedd syndrom y ffugiwr yn effeithio arna i a chymerodd gryn amser i fi sylweddoli y gallwn i fynd i'r brifysgol. Roedd y croeso a ges i yn Abertawe'n ddigon i liniaru’r ofnau hynny.

Dywed wrthon ni am yr hyn rwyt ti’n ei wneud bellach ac am dy gynlluniau gan dy fod ti wedi graddio

Penderfynais i gymryd blwyddyn i ffwrdd ar ôl y brifysgol i weithio a theithio. Ar hyn o bryd, rydw i'n cyflwyno ceisiadau am rolau paragyfreithiol/cyfreithiol a fy nod yw astudio am radd ôl-raddedig yn y dyfodol. Fodd bynnag, rwyf heb benderfynu ar LPC/SQE neu'r Bar. Rwyf wedi bod yn gwneud ambell dymor prawf byr yn Siambrau 3 Pump Court a Siambrau Linenhall ac wedi cael profiad gwaith gyda chyfreithwyr Evans Hayes Brunell, felly rwy'n agored i gyfleoedd gwahanol. Fy nod i yw ailgydio ym maes y gyfraith, meithrin profiad ac ennill arian.

Dywed wrthon ni am dy waith elusennol (gan gynnwys adfywio ac arwain y Gymdeithas Codi a Rhoi (RAG) a pham mae mor bwysig i ti.

Dechreuon ni RAG tua mis Ebrill 2022. Roedd angen i ni hefyd benderfynu ar strwythur ein dwy elfen, sef gwaith elusennol a gwaith cymunedol; roedd y rhain yn cynnwys ein heriau megis heicio i wersyll cychwyn Mynydd Everest, gyrru o'r DU i Dubrovnik, heicio i gopaon y Balcanau ac adeiladu meysydd chwarae yn Uganda dros blant difreintiedig, i'n sesiynau glanhau traethau a'n rhaglenni lliniaru trychinebau naturiol. Ein nod oedd rhagori ar bob grŵp myfyriwr arall a oedd yn codi arian a'n gweledigaeth oedd tyfu drwy her, cyflawni drwy newid, a newid drwy elusengarwch.

O fewn dwy flynedd, roedd cymdeithas myfyrwyr RAG Abertawe wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol ac wedi ennill sawl gwobr, gan helpu i godi cyfanswm syfrdanol o £156,248,13 i elusennau wrth anfon mwy na 80 o fyfyrwyr ar deithiau trawsnewidiol, ynghyd â chyrraedd y rhestr fer am effaith leol orau'r flwyddyn a grŵp codi arian myfyrwyr y flwyddyn. Yn 2023, cawson ni ein gwahodd i'r Senedd yng Nghaerdydd am noson lansio cenhinen Pedr Mari Curie. Fodd bynnag, doedden ni ddim yn gwybod bod seremoni wobrwyo na'n bod ni wedi cael ein henwebu. Cawson ni ein galw'n annisgwyl i dderbyn gwobr am wneud y cyfraniadau elusennol mwyaf eithriadol at Gymru.