Patricia Kinane

BA Saesneg a Drama. Dosbarth 1974.
Uwch-gynhyrchydd teledu

Ym myd teledu, does dim sioeau mwy nag America's Got Talent ac American Idol. Mae Trish Kinane wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw i'n sgriniau a gwerthu fformatau teledu ledled y byd. Cawson ni sgwrs gyda Trish i ofyn ychydig o gwestiynau iddi am ei gyrfa a'i hamser yn Abertawe.

Sut daethoch chi i Brifysgol Abertawe?

Fe es i i Ysgol Our Lady's Convent yng Nghaerdydd a hyd yn oed bryd hynny, roeddwn i'n gwybod mod i eisiau gyrfa yn y cyfryngau.

Roedd Prifysgol Abertawe yn dair blynedd hudolus mewn amgylchedd hyfryd. Roedd hi'n un o'r ychydig brifysgolion a oedd yn cynnig gradd cydanrhydedd mewn Saesneg a Drama, a oedd yn cynnig mwy o opsiynau ar y llwybr gyrfa roeddwn i wedi'i ddewis.

Beth oedd y tri pheth gorau rydych chi'n eu cofio am eich amser ym Mhrifysgol Abertawe?

Penrhyn Gŵyr - mor hardd a ffordd wych o gael gwared ar straen!

Fy Nhiwtoriaid Drama - roedden nhw'n gymaint o hwyl, mor wybodus ac yn gefnogol iawn

Theatr Taliesin - adnodd gwych a lwyfannodd ddramâu anhygoel

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa ym myd teledu?

Roedd y pynciau penodol, Saesneg a Drama, o ddefnydd uniongyrchol i mi yn fy ngyrfa ym myd teledu. Gwnaeth fy ngradd ennyn fy mrwdfrydedd am ddarllen a sgriptiau, gweithio gydag actorion, doniau'r sgrîn ac actio, ac ymagwedd arbrofol at y gwaith.

Sut gwnaethoch chi symud o'r Brifysgol i fyd teledu?

Roedd hi'n anodd cael gwaith ym myd teledu, roedd rhaid i chi fod yn aelod o'r undeb, ond dyna'r unig beth roeddwn i erioed eisiau ei wneud. Bues i’n teithio ychydig ar ôl y brifysgol a chwrddais i â dyn o Dde Affrica a ddywedodd wrtha i eu bod newydd ddechrau diwydiant teledu yno, felly prynais i docyn cwch a bant â fi. Roedd gorsaf deledu gyhoeddus De Affrica newydd ddechrau a ches i swydd gyda SABC. Ar y pryd, pobl o Brydain oedd yn rheoli teledu yn Ne Affrica. Roedd yn amser gwych i fod yno, ces i gyfle i roi cynnig ar lawer o bethau o flaen y camera a'r tu ôl iddo. Roeddwn i'n gweithio yn Johannesburg, ar raglenni dogfen yn bennaf. Dyna gyfnod y terfysg yn Soweto, felly roedd hi'n amser cynhyrfus.  Ces i flwyddyn o brofiad yno ac wedyn dychwelais i i'r DU a llwyddo i gael swydd gyda Granada Television.  

Sut gwnaethoch chi ddatblygu eich gyrfa yn diwydiant?

Arhosais i gyda Granada am 10 mlynedd, yn datblygu gyrfa, o fod yn ysgrifennwr sgriptiau hyrwyddo, yn ymchwilydd ac yn gynhyrchydd. Wedi hynny ces i swydd Rheolwr Adloniant a Rhaglenni Plant yn Tyne Tees Television a fi oedd cynhyrchydd gweithredol cyfres gyntaf The Word ar gyfer Channel 4. Wedyn ymunais i â Stephen Leahy a fyddai’n bartner busnes i mi wrth lansio Action Time (gwerthwr fformatau annibynnol yn y DU), a dyna ddechrau’r diwydiant fformatau yn y DU ac yn fyd-eang. Yn y diwedd, gwerthon ni’r cwmni i Carlton TV a dechrau Ludus Television, a oedd yn gwmni creu fformatau gydag ychydig o gynhyrchu hefyd. Wedyn, gofynnodd Freemantle Media i mi ymuno â nhw fel Llywydd Adloniant Byd-eang, a gwnes i hynny am flwyddyn cyn i mi gael fy ngwahodd i fynd i'r Unol Daleithiau i redeg The X Factor, America's Got Talent ac American Idol. Roeddwn i'n bwriadu aros am dair wythnos a dwi yma o hyd 10 mlynedd yn ddiweddarach.

Rydych chi wedi cwrdd â llawer o bobl enwog. Pwy oedd yr un mwyaf hoffus neu'r un gorau i weithio gyda nhw?

Dwi wedi cael cyfle i weithio gyda llawer o bobl enwog a thalentog ac mae rhywbeth arbennig gyda nhw i gyd - gallwch chi weld pam daethon nhw'n enwog! Roeddwn i'n edmygydd mawr o agwedd Katy Perry a Jennifer Lopez at waith. Roedden nhw'n llwyddo i gyflawni swm anferth o waith yn yr amserlenni mwyaf tynn a hynny mewn ffordd broffesiynol ac â hiwmor da.

Mae Harry Connick Junior yn un o fy ffefrynnau hefyd, gyda'i wybodaeth anhygoel am gerddoriaeth a'i synnwyr hiwmor a Lionel Richie yw'r dyn mwyaf hyfryd sydd wedi gwneud gwaith anhygoel.

Roedd The Word yn fath hollol newydd o raglen ar y teledu. Roedd hi'n flaengar ac yn wyllt. Sut roeddech chi'n gwybod byddai'n llwyddiant a beth yw eich hoff atgof o'r sioe?

Dwi ddim yn siŵr a oedden ni'n gwybod bod The Word yn llwyddiant o'r dechrau ond roedd hi'n gymaint o hwyl gweithio arni. Gwnaethon ni roi cyfle i lawer o artistiaid, fel Kurt Cobain, ymddangos ar y teledu ym Mhrydain am y tro cyntaf, ac mae'r uwch-gynhyrchydd, Charlie Parsons yn athrylith creadigol a ddyfeisiodd The Big Breakfast a Survivor hefyd. Fy hoff atgof, dwi'n meddwl, neu un sy'n gofiadwy yn bendant, yw pan oedd y swyddogion diogelwch yn meddwl bod rhywun â gwn yn rhedeg o gwmpas ar lawr y stiwdio ychydig cyn i'r sioe fynd allan yn fyw.

Beth sy'n gwneud fformatau fel X Factor a Talent mor hirhoedlog? Sut rydych chi'n cynnal diddordeb y gwylwyr mor hir?

Mae'r sioeau talent mawr fel American Idol, X Factor a Got Talent i gyd â fformatau syml lle mae pobl dalentog yn gallu newid eu bywydau drwy gymryd rhan yn y sioeau. Yn achos y sioeau cerddorol, mae pobl ifanc yn cyrraedd 15 oed bob blwyddyn felly gallan nhw gymryd rhan, ac mae'r gerddoriaeth yn newid o hyd sy'n golygu bod y sioeau'n ffres drwy'r amser.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?

Cadwch ffocws, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych chi am ei gyflawni. Hefyd, mae gwaith caled a dyfalbarhad yn hanfodol.