Owen Evans

Owen Evans

Economeg BSc, Dosbarth 1991.

Prif Weithredwr, strategydd, cynghorydd.

Beth yw eich atgofion o astudio yn Abertawe?

Rwy’n cofio campws hapus, darlithwyr cyfeillgar, tref gyfeillgar, y traeth, aros am fws yn y glaw yn y Quadrant, gweld y Manic Street Preachers yn yr haul yn Singleton Park, trio meddwl sut i ddod adre o’r Mwmbwls ar ôl noswaith allan, rygbi yn St Helens a’r Gym Gym (Y Gymdeithas Gymraeg) ar brynhawn Mercher. Atgofion melys.

Pam Economeg?

Ro’n i’n caru’r pwnc ar ôl gwneud lefel A mewn blwyddyn. Cyfuniad o athroniaeth a gwyddoniaeth, a deall sut mae ymddygiad pobl yn effeithio ar eu penderfyniadau. Pam Abertawe ? – Roedd Adran penigamp gan y Brifysgol o dan arweinyddiaeth yr Athro Ken George.

Beth yw’r heriau sy’n wynebu’r cyfryngau cyfrwng Cymraeg heddiw?

Rhai hanesyddol – diffyg arian, pwll gymharol fach o bobl,  ond hefyd heriau newydd fel mae yr arlwy i wylwyr a defnyddwyr cynnwys wedi newid efo Netflix ayb. Rhaid ymladd nawr i gael llais y Cymry ar lwyfannau’r byd. Ond mae ‘na gyfleoedd newydd – siawns i uno’r Cymry a rhannu’r iaith a’n cynnwys ar draws y byd trwy gymunedau digidol yn annog balchder ein pobl tuag at ein iaith.

Beth yw patrwm eich diwrnod arferol? ( cyn yr argyfwng presennol !)

Mae gennym swyddfeydd yn Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd felly mi fyddaf ar fy ffordd i un ohonynt. Cyfarfodydd efo’r tîm neu gydweithwyr i drafod syniadau neu gyfleoedd neu, wrth gwrs, i drafod ein heriau. Ar ryw ben mae ‘na elfen wleidyddol – delio efo cefnogwyr S4C yn Llundain neu yng Nghymru wrth drafod y dyfodol ac wedyn rhyw ben sgyrsiau am rai o’n themau mwy hir dymor wrth i ni gynllunio sianel i’r dyfodol ble fydd llai o bobl yn gwylio yr amserlen ar sgrîn adre a mwy yn dewis beth, pryd ac ar ba lwyfan mae nhw eisiau gweld cynnwys S4C. 

 A wnaeth eich addysg Brifysgol eich ysbrydoli i ddod yn Gyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru?

Fe wnes I fwynhau fy amser yn Abertawe ond fe ges i’r fraint o addysg uwch – o gwrdd â phobl o bob gefndir ac i ddysgu am bwnc diddorol. Fe ges i siawns i feddwl ac aeddfedu mewn amgylchiadau hapus ond cael fy herio hefyd yn academiadd. Beth wnaeth symud i’r Llywodraeth fel Cyfarwyddwr ac wedyn Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg ac wedyn Dirprwy Ysgrifennydd Barhaol rhoi i fi oedd y gallu i drio newid pethau er gwell i ddysgwyr ar draws y wlad o ba bynnag gefndir i roi yr un siawns ag y ces i.

Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Rwy’n amau fod Abertawe dal heb golli ei chryfder mwyaf – ei bod yn ddinas sy’n teimlo fel tref. Amhosib oedd cerdded lawr y stryd heb glywed ‘Morning!’. Doedd Abertawe na’r Brifysgol yn Gymreig tu hwnt ond eto roedd yna deimlad o gefnogaeth tuag at yr iaith. Roedd y Gym Gym yn reit llwyddianus ar y pryd a bwrlwm o gwmpas ei weithgareddau. Yn wir mae sawl un o fy ffrindiau heddiw yn rhai ges i ambell i beint efo nhw nôl yn Abertawe. Yn y cyfnod yna roedd yna gefnogaeth i’r iaith, efo dau o’r prif arweinwyr yn Gymry Cymraeg. Wrth i’r Brifysgol setlo i arweinyddiaeth newydd mi fydd yn gam pwysig i ail-fynegi eu cefnogaeth i’r iaith.