Olesya Romashko

MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol. Dosbarth 2020. 
Pennaeth yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Chyfathrebu, Cynhyrchydd Newyddion a Newyddiadurwr Radio

 

Beth wnaeth eich ysbrydoli i fynd ar drywydd gyrfa mewn Newyddiaduraeth?
Dyna un o'r cwestiynau mwyaf anodd a diddorol, dwi'n meddwl, gan fy mod i bob amser yn gofyn yr un peth i fi fy hun. Roeddwn i am fod yn athrawes, ond roeddwn i wrth fy modd yn ysgrifennu. Byddwn i'n ysgrifennu straeon a cherddi gwahanol, ac roedd gen i bob amser ddiddordeb mewn straeon pobl.

Dwi'n dadansoddi materion amrywiol mewn bywyd pob dydd, gan geisio esbonio i eraill sut gallwn ni ddod o hyd i atebion i broblemau. Ac efallai fod hynny'n swnio'n wallgof, ond dwi'n siŵr bod newyddiaduraeth yn gallu newid y byd. Rydyn ni fel ymladdwyr y goleuni sy'n dangos y ffordd, yn esbonio prosesau ac yn creu bydoedd newydd. Maen nhw'n ein galw ni'r pedwerydd pŵer, ond dwi'n meddwl ein bod yn fwy na hynny. Felly, fel rhywun sydd ddim am fyw mewn byd hyll, penderfynais i fod yn newyddiadurwr. Ond un go iawn, nid un ffug. Heddiw mae newyddiaduraeth glasurol yn mynd drwy newidiadau mawr, ac os ydyn ni'n newid ein safonau moesegol i gyd-fynd â'r byd modern, byddwn ni'n cael ein beirniadu. Mae angen i ni gofio bod didueddrwydd mewn newyddiaduraeth yn hynod bwysig. Allwn ni ddim bod yn wrthrychol os ydyn ni'n gadael i'n barn, ein teimladau a'n dymuniadau ni ddylanwadu ar y stori.

Rydych chi'n Ysgolhaig Chevening. Pam dewisoch chi Brifysgol Abertawe fel eich dewis cyntaf?

Cyn dewis prifysgol, rydych chi'n ystyried rhaglenni, darlithwyr, yr amgylchedd a’r lle. Pan ddarllenais i am Brifysgol Abertawe, roedd hi'n cyd-fynd yn berffaith â fy meini prawf. Roeddwn i'n hoffi popeth, o'r lleoliad i'r rhaglen a'r athrawon. Fy arwyr oedd Dr Yan Wu a Dr Siân Rees. Mae ein Prifysgol Abertawe wedi creu amgylchedd amrywiol lle rydych chi'n bwysig. Mae'n eich cefnogi yn ystod eich astudiaethau, ac mae'r berthynas agos yn parhau ar ôl i chi raddio. Dwi ddim erioed wedi amau mai Abertawe oedd y dewis gorau. A tasech chi'n gofyn i mi a fyddwn i'n newid fy mhenderfyniad? Fy ateb fyddai BYTH. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig rhaglen ddiddorol ac addysgol. Mae'n cynrychioli agweddau amrywiol ar newyddiaduraeth ryngwladol ac mae'n rhoi gwybodaeth newydd sbon i chi yn y maes hwn, hyd yn oed os oes gennych chi gefndir gwych fel fi.

Allwch chi rannu rhai o'ch atgofion gorau o'ch amser ym Mhrifysgol Abertawe?

Gallaf, yn bendant. Yn ystod y diwrnod cofrestru, roeddwn i fel plentyn nad oedd yn deall dim mewn system astudio newydd. Esboniodd ein darlithydd bopeth i ni, ond doedd hynny ddim yn ddigon. Es i am dro a meddwl sut gallwn i ymdopi â hyn i gyd?! Ond pan ddechreuais i fy nosbarth Cyfryngau Byd-eang am y tro cyntaf, roeddwn i'n deall fy mod i wedi ennill tocyn lwcus, oherwydd o fy mlaen i, gwelais i wyrth. Ac enw'r wyrth hon oedd Dr Yan Wu. Roeddwn i wedi breuddwydio am astudio gyda hi, ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai'r breuddwyd yn cael ei wireddu. Allwch chi ddychmygu fy nheimladau pan welais i hi a phan ddwedodd hi mai hi oedd ein darlithydd? Canodd fy enaid ganeuon, a hwn oedd un o fy atgofion gorau. Ond megis dechrau oedd fy nhaith i wlad y breuddwydion. Y cam nesaf oedd y dosbarth Cysylltiadau Cyhoeddus a'r fythgofiadwy a’r optimistaidd, Dr Siân Rees. Cawson ni gymaint o wybodaeth ddefnyddiol gan y ddwy ohonyn nhw a dwi'n ei defnyddio bob dydd i greu rhaglenni radio newydd, i lunio ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus ac yn fy ngwaith yn yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol.Ond fyddai fy stori ddim yn gyflawn pe bawn i'n siarad am fy astudiaethau yn unig. Yn Abertawe dysgais i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Ac mae fy mywyd wedi'i gysylltu â chwaer fy enaid, Yulia. Cwrddon ni yn ystod ein hastudiaethau, buon ni'n rhannu ein cartref, a chawson ni lawer o anturiaethau. Llwyddon ni i oresgyn pob rhwystr gyda'n gilydd, buon ni'n cefnogi eraill yn ystod cyfnod Covid ac mae ein cyfeillgarwch hyfryd yn parhau o hyd. Hoffwn i ddiolch i Brifysgol Abertawe, a roddodd y fath ffrind i mi.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  1. Pobl ac amrywiaeth.
  2. Agwedd at natur.
  3. Ysbryd gwyrth.

Allwch chi rannu rhai o'ch awgrymiadau gorau am ddechrau llwyddiannus i yrfa mewn newyddiaduraeth?

Mae angen i chi ddeall pam rydych chi am fod yn newyddiadurwr. Os hoffech chi fod yn newyddiadurwr go iawn, y peth gorau yw dysgu gwrando. Nid eich personoliaeth chi sy'n bwysig mewn newyddiaduraeth, pobl eraill sy'n bwysig. Byddwch chi'n gwrando ar filiynau o straeon, a gallan nhw fod yn ddiddorol neu'n ddi-nod, gallwch chi eu hoffi neu beidio. Ond byddwch chi'n eu hadrodd heb eu golygu. Oherwydd bydd unrhyw newidiadau'n newid y pwyslais.  Ac mae angen i chi ddeall pryd dylech chi orffen. Mae'n golygu ymddwyn fel meddyg. Y rheol gyntaf i mi yw peidio â niweidio pobl. Gall rhai straeon cyffrous ddifetha bywydau pobl dda, ac mae'n rhaid i chi fod yn empathig.

Sut mae eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwella'r sgiliau a'r wybodaeth a oedd gennych chi eisoes?

Pan ddechreuais i ym Mhrifysgol Abertawe, roedd gen i gefndir gwych fel newyddiadurwr. Fodd bynnag, rhoddodd y rhaglen Newyddiaduraeth Ryngwladol wybodaeth newydd i mi ynghyd â dealltwriaeth o ymagweddau newydd. Hoffwn i dynnu sylw at ddarlithoedd Dr Rhys Jones. Dydyn ni ddim yn astudio busnes ym Mhrifysgol Genedlaethol Uzbekistan. Felly, roedd yr hyn gwnaeth ei addysgu i ni yn ystod ein dosbarthiadau yn newydd i mi. Ac mae'r wybodaeth newydd hon yn gallu fy helpu i sicrhau'r brif rôl yn y Siambr ar gyfer Diogelu Hawlfraint yn Uzbekistan. Ar ben hynny, rhoddodd Dr Siân Rees ddealltwriaeth gadarn o reoli brand i mi a dwi'n defnyddio'r wybodaeth hon bellach bob dydd yn fy swydd bresennol.

Sut llwyddoch chi i gyfuno eich gwaith fel newyddiadurwr radio â'ch rôl bresennol yn Siambr Hawlfraint Uzbekistan?

Chi'n gwybod, mae rhai pobl yn y Gorllewin yn synnu, ond yn fy ngwlad i, mae cyfuno sawl swydd yn rhywbeth cyffredin. Dwi'n gweithio i'r radio gan baratoi fy rhaglenni awdur yn ystod fy amser rhydd. Dwi'n dda am reoli amser, felly dwi'n cynllunio popeth ymlaen llaw ac yn glynu wrth yr amserlen. Wrth gwrs, dyw popeth ddim yn mynd yn ôl y cynllun bob amser. Ond dwi ddim yn un sy'n ildio i bwysau, felly dim ond 10 munud sydd ei angen arnaf i ad-drefnu pethau. Dwi'n gweithio gyda phobl wahanol sy'n byw mewn parthau amser gwahanol, felly mae'n rhaid i mi fod yn barod i bethau fynd o chwith, er gwaethaf fy nghynllun gwreiddiol.

Beth oedd rhai o uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Yn gyntaf, dwi'n gweithio fel swyddog Cysylltiadau Rhyngwladol a Chyfathrebu a'r peth mwyaf gwefreiddiol am fy swydd yw adeiladu pontydd rhwng ein sefydliad a chwaer-sefydliadau ledled y byd. Mae'n hawdd pan fo hanes ac enw da ac ati gan eich sefydliad, ond mae'n anodd i sefydliad newydd nad oes neb yn gwybod amdano. Felly, dwi'n gweithio ar ein brandio ochr yn ochr â'n presenoldeb rhyngwladol. Daethon ni'n aelod o'r CISAC (ein sefydliad ymbarél), cwblhawyd dros 15 cytundeb dwyochrog o dan fy arweinyddiaeth i, ac mae'n naid enfawr i Uzbekistan lle nad yw'r system hawlfraint yn gweithio'n iawn. Hefyd, mae ein tîm yn gweithio'n agos gyda swyddogion i ail-lunio deddfwriaeth hawlfraint ac i foderneiddio cyfraith hawlfraint yn Uzbekistan. Dwi'n archwilio systemau hawlfraint amrywiol yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad o Wladwriaethau Annibynnol, ac ymagweddau'r Unol Daleithiau yn y maes hwn ac yn paratoi dadansoddiad cymharol i ddangos arferion gorau.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr presennol sy'n astudio'r Cyfryngau neu raddedigion diweddar sydd am feithrin gyrfa lwyddiannus mewn newyddiaduraeth?

Mae newyddiaduraeth yn un o'r proffesiynau mwyaf gwych a newidiol. Os hoffech chi fod yn newyddiadurwr lefel uchel, mae angen i chi ddarllen llawer, astudio'n fanwl y pwnc rydych chi'n gohebu amdano, ac arsylwi'n helaeth. Dylech chi astudio sut i fod yn ddiduedd a llunio'ch adroddiad am y sefyllfa i gynnwys pob agwedd arni. Cofiwch gynnwys pob agwedd wrth i chi gyflwyno eich stori hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno â rhai ohonyn nhw. Allwch chi ddim cyflwyno darlun llawn os nad ydych chi'n cyfweld â phob ochr.

Allwch chi ddisgrifio diwrnod arferol ym mywyd Newyddiadurwr Radio?

Pan oeddwn i'n cyflwyno sioe'r bore, byddwn i'n deffro rhwng 4.30am a 5am fel gallai fy llais ddeffro hefyd. Ar ôl y sioe, byddwn i'n gweithio ar fy nghynllun a chael llawer o gyfarfodydd gyda phobl wahanol fel swyddogion Uzbekistan a staff diplomyddol i drefnu rhaglenni newydd gyda gwesteion gwadd.

Dywedwch wrthym am rywbeth hoffech chi ei gyflawni yn y dyfodol.

Dwi'n meddwl bod pawb eisiau cyflawni rhywbeth neilltuol. Dydw i ddim yn wahanol. Fy nghynllun cyntaf yw ad-drefnu'r system hawlfraint yn Uzbekistan er mwyn diogelu hawliau awduron a gweithio ar system ddeddfwriaethol newydd yn y maes hwn. Hefyd, dwi am roi cynnig ar weithio dramor. Hoffwn i weithio yn y diwydiant creadigol a chreu rhaglenni newydd diddorol a fydd yn ennyn diddordeb y gynulleidfa. Fodd bynnag, addysgu pobl eraill yw fy ngwir alwedigaeth. Mae gen i gefndir gwych a dwi am rannu fy ngwybodaeth sy'n cynnwys damcaniaeth ochr yn ochr â sylfaen ymarferol.

Fyddwch chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol?

Mwy na 100% BYDDAF! Mae'n un o'r lleoedd gorau yn y DU i ennill eich gradd. Ar ben hynny, byddwch chi'n cael llawer o gyfleoedd ymarferol yn ystod eich astudiaethau ac ar ôl graddio. Bydd y lle hwn yn ail gartref i chi a byddwch chi eisiau dychwelyd yno i ddiolch i'r bobl a'ch addysgodd.