Nicholas Jones

BA Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1990. Llenor. Seren Roc. Ymgyrchydd. Basydd.

Mae Nicky yn ysgrifennu geiriau’r caneuon ac yn chwarae gitâr bas gyda’r band roc, y Manic Street Preachers. Daeth y band ynghyd ym 1986 ac aeth ymlaen i lwyddiant masnachol a beirniadol. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi ennill 11 gwobr NME, wyth gwobr Q, pedair gwobr Brit ac enwebwyd y band am y wobr Mercury Music ym 1995 a 1999.

Pam penderfynoch chi ddod i Brifysgol Abertawe?

Roedd fy rhagolygon graddau’n wael, felly derbyniais i le ym Mholytechnig Portsmouth, ond ces i 2 A ac un B yn fy arholiadau Safon Uwch yn y diwedd, felly es i i Portsmouth am bedair wythnos ond roedd yr hiraeth am Gymru’n rhy gryf. Roedd fy mrawd wedi mynd i Abertawe a dwlu ar y lle, felly llwyddais i gael fy nhrosglwyddo yno.

Beth yw eich hoff atgofion am eich amser yn Abertawe?

Y traeth – y Mwmblws – arcêd ddiddanu Shipley’s – siop sglods Lôn Sgeti – clwb nos Cinderella’s – Marchnad Abertawe – Derrick’s Music – siop gitarau John Ham – Caffi Kardomah – gerddi Clun – llawer o gerdded – ffrindiau da

Enilloch chi radd mewn Gwleidyddiaeth. Ydy hynny wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth?

Mae fy ngradd Gwleidyddiaeth wedi dylanwadu’n fawr ar eiriau fy nghaneuon. Roedd yn ffynhonnell gyfeirio a dadansoddi i mi wrth ysgrifennu.

Mae eich ysgrifennu’n frith o gyfeiriadau llenyddol. Pa ysgrifenwyr sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi a pham?

R.S Thomas - Dylan Thomas - Albert Camus - Susan Sontag - Greil Marcus - Sylvia Plath - P. Larkin – geiriau Chuck D - Bob Dylan – mae’r rhestr yn ddiderfyn.

Tasech chi ddim wedi dod yn seren roc a rôl, beth ydych chi’n meddwl byddech chi wedi’i wneud?

Mae’n ddigon tebyg byddwn i wedi dod yn Was Sifil neu’n ymgynghorydd gwleidyddol. Efallai newyddiadurwr neu efallai glanhawr.

"Mae gan Abertawe lawer o atgofion emosiynol dwys i mi ac mae bob amser yn hyfryd mynd yn ôl."

Roedd gig gyda chi ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref 1990. Sut profiad oedd chwarae gig yn y lle roeddech chi newydd raddio ohono?

Roedd hi’n wych chwarae yn ôl yn Abertawe ond hyd yn oed yn well pan wnaethon ni chwarae Stadiwm Liberty yn 2016. Mae gan Abertawe lawer o atgofion emosiynol dwys i mi ac mae bob amser yn hyfryd mynd yn ôl.