Mohammad Zahir Abdul Khalid

BSc Economeg ac Astudiaethau Datblygu
Llefarydd Cynulliad Talaith Perak

Eich gyrfa
Gwleidydd ydw i. Ar hyn o bryd, fi yw Llefarydd Cynulliad Talaith Perak (talaith ym Maleisia). Dyma fy ail dro  yn gwasanaethu fel Llefarydd ers 2020. Roeddwn yn arfer bod yn Aelod Cynulliad o 2008 tan 2018. Roeddwn i hefyd yn Aelod Exco (Gweinidog Talaith) rhwng 2009 a 2018. Roeddwn i'n arfer bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios megis Addysg, Buddsoddi a Diwydiant. Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol, roeddwn yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol gyda Gweinyddiaeth Masnach a Diwydiant Rhyngwladol Maleisia a gweithio ym Mhrifysgol Technoleg PETRONAS.

Treuliais i 3 blynedd hynod gofiadwy'n astudio yn Abertawe ar gyfer fy ngradd israddedig. Gwnes i fwynhau'r profiad o fyw, gwneud ffrindiau, dysgu bod yn annibynnol a chwrdd â chyd-fyfyrwyr o ledled y byd.  Rwy'n dwlu ar yr amgylchedd yn Abertawe.

Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe?

  • mae pobl Abertawe mor gyfeillgar. Bues i'n byw yn y DU am 7 mlynedd, yn astudio Safon Uwch a'm hastudiaethau ôl-raddedig yn rhywle arall, ond doedd dim byd yn cymharu â'r teimlad o "groeso" wrth fyw yn Abertawe
  • bae Abertawe. Mae cael campws sy'n wynebu'r môr yn therapiwtig iawn! Roeddwn i’n mwynhau cerdded ar hyd y traeth ym mhob tymor i ryddhau'r straen a mwynhau awel y môr ffres.
  • Roeddwn i'n hoffi dinas Abertawe nad oedd yn rhy fawr gyda'r holl gyfleusterau angenrheidiol a'r ymdeimlad o ddiogelwch a geir.

Pam dewisoch chi astudio am eich gradd yn Abertawe?
Roedd hi’n anochel. Yn ystod haf 1988, pan oedd canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi, roedd streic post. Felly, roedd hi'n anrhefn llwyr yn y DU oherwydd bod yr holl lythyron cynnig a derbyn ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn styc a heb eu dosbarthu yn ôl y disgwyl.  Felly, dyma bawb yn dechrau defnyddio'r ffonau sefydlog i gysylltu â'r llinellau ffôn prysur. Dim ond Abertawe roeddwn i'n gallu cysylltu â nhw felly "Abertawe ddewisodd fi nid y ffordd arall" ac rwy'n falch!  

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?
Bendant! Anfonais fy merch i astudio gradd Meistr mewn Rheoli Rhyngwladol yn Abertawe ac aeth mab fy nghymydog i astudio am ei radd mewn Peirianneg Awyrofod yn Abertawe. Rwy'n ymddiried yn y Brifysgol ac yn Abertawe i roi addysg gadarn dda iddynt ond hefyd brofiad gwerth chweil.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Gwnaeth yr astudio, yr wybodaeth, y profiad a chyfnewid barn gyda darlithwyr a chyd-fyfyrwyr fowldio fy ffordd o feddwl pan ddechreuais i weithio ac wrth gwrs wrth lunio polisïau ar gyfer fy nhalaith.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?
Byddwch yn amyneddgar, digon o ddyfalbarhad a byddwch yn onest â chi eich hun.