image of Luke Young

Gwleidyddiaeth, BA (Anrh), 2009

Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Llafur Cymru

Pam y des di i Brifysgol Abertawe?

Des i Ddiwrnod Agored - roedd yr haul yn tywynnu, y traeth dros y ffordd yn wych ac roeddwn yn gwybod mai dyma'r lle i mi. Roedd enw da iawn gan yr Adran Wleidyddiaeth hefyd.

Beth oedd y pethau gorau am dy gwrs?

Cwrdd â phobl â barn, cefndiroedd a gwerthoedd gwahanol i mi.

Helpodd fi i ehangu fy ngorwelion a magu dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn sy'n dylanwadu ar ein systemau cred. Mwynheais hefyd y cyfle i ddysgu am wleidyddiaeth ryngwladol a'r sefydliadau a grëwyd i reoli tensiynau a gwrthdaro. 

Yn ystod fy nhrydedd flwyddyn, roeddwn yn gallu cael lleoliad gwaith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o'm prosiect ymchwil i ddatblygiad economaidd yng nghymoedd de Cymru.

Beth yw dy hoff atgofion o dy amser yn Abertawe?

Y flwyddyn gyntaf yn byw yn Neuadd Preseli gyda phobl sydd wedi dod yn ffrindiau gydol oes. Pryd bynnag y byddwn yn cwrdd, mae fel bod yn ôl yn y brifysgol.

Roedd ennill yr etholiad i fod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn uchafbwynt ac roeddwn yn gallu dathlu gyda fy ffrindiau a dawnsio fel ffyliaid ar y llwyfan yn Divas.

Bod yn Smyrff Torri Record y Byd - cawsom nosweithiau allan mawr ac atgofion i gyd-fynd â nhw. 

Beth wnest ti ar ôl graddio? Sut wnest ti gyrraedd dy rôl bresennol?

Ar ôl graddio, treuliais i ddau dymor yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr (2009-2011) - rôl a ddysgodd gymaint i mi. Cefais sylfaen gadarn ar gyfer gwaith tîm, dylanwadu a gwleidyddiaeth ac rwy'n ei defnyddio hyd heddiw. Yn 2011, cefais fy ethol yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru.

Ar ôl fy nyddiau yn y brifysgol, ymunais â’r elusen ymgyrchu LGBT+ Stonewall Cymru, lle gweithiais gydag athrawon, disgyblion ac ysgolion i fynd i'r afael â bwlio homoffobig a mathau eraill o fwlio.  Datblygais hefyd y Tîm Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil, gan arwain gweithredoedd proffil uchel o ran pleidleisiau ar gyfer Priodas Gyfartal ac ymgyrchoedd gwrthwahaniaethu.

Yn 2016, es i weithio i'r Senedd ar gyfer Aelod newydd ei ethol gan gefnogi ei agenda polisi ar yr economi ac isadeiledd, sgiliau, cydraddoldeb, addysg uwch a phellach, cwmnïau cydweithredol, datganoli a Brexit.

Yn 2018, ymunais ag Uwch-dîm Rheoli Llafur Cymru, lle arweiniais y tîm cyfathrebu a swyddfa'r wasg. Yn fwy diweddar, roeddwn yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yr ymgyrch lwyddiannus i ail-ethol Llywodraeth Llafur Cymru, gan ddychwelyd Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru.

Oeddet ti'n aelod o gymdeithasau i fyfyrwyr?Wnest ti fanteisio ar unrhyw gyfleoedd eraill?

Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Myfyrwyr.
Cadeirydd Myfyrwyr Llafur Abertawe.
Aelod o Raise and Give.
Aelod achlysurol o'r gymdeithas LGBT+.

Ble rwyt ti'n gweithio nawr?  I ba raddau y mae dy brofiad yn Abertawe wedi dy helpu i ddatblygu/gyflawni dy ddyheadau o ran gyrfa?

Pennaeth Cyfathrebu Llafur Cymru

Dysgodd fy mhrofiad yn Abertawe gymaint i mi am waith tîm, dylanwadu ac ymgyrchu. Fel swyddog myfyriwr, treuliais lawer o amser yn lobïo'r brifysgol am bethau yr oedd eu hangen ar fyfyrwyr.  Dysgais sut i fod yn bragmatig a hefyd i ddeall y pwysau ar bobl eraill wrth geisio negodi. Mae'r sgiliau hynny'n hanfodol mewn gwleidyddiaeth os ydych am gyflawni pethau i helpu pobl.

Beth yw dy ddiwrnod gwaith arferol neu beth yw'r pethau mwyaf cyffrous am dy waith?

Mae llawer o gyfarfodydd, ond y tu hwnt i hynny rydych yn cael cefnogi'r neges o adeiladu Cymru wyrddach, decach a chryfach. Fy ngwaith i yw helpu'r cyhoedd i weld sut mae'r blaid yn gweithio'n galed i wneud y pethau y gwnaethom addo eu gwneud yn ystod yr etholiad - boed hynny'n 100,000 o brentisiaethau newydd, adeiladu mwy o gartrefi, creu swyddi gwyrdd newydd neu greu cwricwlwm newydd sy'n galluogi pobl ifanc yng Nghymru i dyfu i fod yn hapusach, yn iachach a heb derfynau i'w huchelgeisiau.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried astudio yn Abertawe?

Baratoi'n feddyliol am wisgo siorts a fflip fflops ganol gaeaf.

Defnyddiwch y cyfle i fynd y tu hwnt i'ch parth cysur ac ymuno â chymdeithas myfyrwyr neu dîm chwaraeon.  Ymunwch ag ychydig ohonynt i weld beth sy'n mynd â'ch bryd. Mae gwaith academaidd yn bwysig ond un rhan yn unig yw hyn - defnyddiwch eich amser yn Abertawe i ehangu eich gorwelion a bwydo'r enaid. Ni fyddwch yn edifarhau!