photo of Loius

Sylfaenydd a Prif Swyddog Gweithredol, Busnes Newydd TeenShare

Gyrfa
Rheolwr banc EFG a Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol busnes newydd o'r enw “Teenshare”, sy’n farchnad mentora ar-lein ar ffurf deallusrwydd artiffisial a realiti rhithwir o Hong Kong. Lansiais i’r busnes newydd TeenShare gyda'r nod o ddatrys problem diweithdra ymhlith pobl ifanc ar ôl iddynt raddio.

Syniad fy musnes newydd yw cysylltu pobl ifanc nad oes ganddyn nhw’r wybodaeth, y sgiliau neu’r cyfarwyddyd perthnasol, a rhwydweithio ag arbenigwyr o ddiwydiannau gwahanol, a all addysgu’r sgiliau cywir iddyn nhw o ran gyrfaoedd a’u helpu i ddatblygu eu gyrfa, newid cyfeiriad neu lansio eu busnes.

Drwy ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr o fyd diwydiant, mae pobl ifanc yn derbyn profiad dysgu personol y gallan nhw ei roi ar waith yn eu gyrfaoedd yn y byd go iawn. Er mwyn meithrin eu sgiliau, rwyf i a'm tîm yn cynnig cyrsiau ar-lein sy'n trafod pynciau gwahanol a all wella eu sgiliau meddal, eu sgiliau digidol a’u sgiliau cyfoes eraill. Bydd cyfathrebu a rhwydweithio drwy'r platfform â phobl ifanc sy'n rhannu'r un nodau gyrfaol a chefndir ac sydd yn yr un diwydiant yn eu galluogi i ail-lunio eu rhwydwaith a bod yn ymwybodol o'r holl newidiadau a chyfleoedd am swyddi yn y diwydiant.

Er gwaethaf poblogrwydd addysg ar-lein, rwy'n ystyried bod cynnig hyfforddiant a mentora all-lein ynghylch gyrfaoedd i bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a'r brifysgol yn dal i fod yn bwysig ac yn werthfawr gan y gall pobl ifanc gynllunio eu gyrfaoedd ymlaen llaw, a gallwn ni eu grymuso a'u llywio i'r llwybr gyrfaol o'u dewis.

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Fy amser yn Abertawe oedd amser mwyaf anhygoel fy mywyd. Gwnes i gwrdd â ffrindiau gydol oes ac rwy'n ymweld â nhw ac yn dal i fynd ati i gadw mewn cysylltiad â nhw ar ôl ein cyfarfodydd cyntaf. Mae Prifysgol Abertawe wedi darparu amgylchedd addas i’m helpu i lwyddo ac mae wedi rhoi'r hyder a'r sgiliau sydd wedi fy ngalluogi i ffynnu ar ôl graddio. Dyna fy hoff le o hyd.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

1. Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe (ICWS), ar ddechrau fy mywyd yn y brifysgol, lle gwnes i wella fy sgiliau iaith Saesneg a meithrin fy nealltwriaeth sylfaenol o fyd busnes drwy ddysgu'r diwylliant a rhannu'r profiad â myfyrwyr rhyngwladol gwahanol.

2. Llys Glas, lle gwnes i gwrdd â Raymond, fy ffrind gorau, a ddysgodd bopeth am sgiliau personol i mi, hyd yn oed sut i yrru drwy ymarfer sgiliau parcio, a meddylfryd entrepreneuraidd.

3. Canol y ddinas lle roeddwn i'n mwynhau mynd i glybiau nos, bwytai, parlwr hufen iâ Joe's, a'r sinema.

 Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais i Abertawe oherwydd fy mod i am archwilio a datblygu fy hun y tu hwnt i Hong Kong mewn lle sy'n gysylltiedig â'r byd cyfan. Felly, gwnes i chwilio am wybodaeth a chyfleoedd gwahanol i astudio dramor ac, yn ddiweddarach, argymhellodd fy athro ysgol uwchradd y dylwn i ystyried Prifysgol Abertawe. Ar ôl rhywfaint o ymchwil, sylwais i fod hwn yn lle anhygoel at ddibenion astudio, gan y gallwn i astudio mewn amgylchedd llawn golygfeydd hardd.

 A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun a oedd yn meddwl am fynd i'r brifysgol?

Rwy'n fancer preifat ac yn entrepreneur; gallai rhywun ystyried fy mod i'n llwyddiannus ac rwyf wedi lansio busnes newydd ac wedi gweithio mewn maes bancio preifat cystadleuol iawn. Cyflawnais i'r pethau hyn drwy ymgymryd â thaith ystyrlon a heriol pan oeddwn i'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Gallai astudio dramor yn 18 oed fod yn heriol, ond gwnaeth y profiadau a'r heriau hyn a gefais i ym Mhrifysgol Abertawe fy nghryfhau yn ogystal â'm llywio i fod y person rydw i heddiw. Felly, byddwn i 100% yn cymeradwyo Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl am fynd dramor i astudio.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Bues i'n gweithio mewn gweithrediadau bancio, bancio corfforaethol a bancio preifat yn Hong Kong. Serch hynny, y fantais allweddol oedd gennyf yn erbyn gweithwyr proffesiynol ifanc eraill oedd fy ngallu i ddatrys problemau neu ymchwilio i broblemau drwy feddwl mewn modd gwahanol a chreu arbrofion maes. O ganlyniad i'm gradd, mae gennyf ddealltwriaeth gadarn o ddamcaniaethau cyllid a chyfrifyddu i ddeall byd busnes. Roeddwn i'n gallu dadansoddi'r adroddiad blynyddol a modelau ariannol o ganlyniad i'm gwybodaeth. Cyfrannodd yr holl ffactorau hyn at fy nyrchafu i swydd fel rheolwr ac at fuddugoliaethau mewn rhai cystadlaethau i fusnesau newydd. Enillais i batent gan Nokia ac mae sianel newyddion leol wedi cyfweld â mi. Mae'r wybodaeth a'r profiad a feithrinais i yn y brifysgol wedi fy nhrawsnewid yn berson rhagweithiol sydd wedi meiddio anelu'n uchel.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

Does dim byd hawdd yn y byd hwn ond gall gweithio'n galed, meiddio anelu'n uchel a mabwysiadu meddylfryd cadarnhaol eich helpu i wireddu eich breuddwyd. Os hoffech chi ddilyn fy ngyrfa i, cynlluniwch ymlaen llaw a gweithiwch yn galed nes i chi lwyddo.