photo of Leroy Brito

BA (Anrh) Cysylltiadau Rhyngwladol
Digrifwr, cyflwynydd, ysgrifennwr

Mae'n rhan o'r cylch comedi ledled y DU. Mae Leroy wedi gwerthu pob tocyn am 4 o'i sioeau unigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ac yn 2021 dychwelodd i'r ganolfan i recordio ei sioe gomedi newydd, Almost Famous. Yn seren comedi sefyllfa ar BBC One, Tourist Trap, mae Leroy wedi cyflwyno 6 Nations Sin Bin, Wales Big Kickoff a Wales Live. Mae galw mawr amdano fel ysgrifennwr, ac mae Leroy wedi recordio tair sioe gomedi ar gyfer y radio, wedi cyd-ysgrifennu comedi sefyllfa ar gyfer BBC Radio Wales ac yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu penodau ar gyfer y teledu a radio ar y sioe cyn-ysgol JoJo a Gran Gran ar Cbeebies.

Dywedwch wrthym am eich cyfnod yn Abertawe?
Cefais amser gwych wrth astudio yn Abertawe, gan feithrin sgiliau, ffrindiau ac atgofion gydol oes.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
I ddechrau, dewisais Abertawe oherwydd enw da'r adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth ond cefais fy rhyfeddu gan y traeth pan gyrhaeddais i. Fel bachgen o Gaerdydd, roedd gennyf lawer o gamdybiaethau am Abertawe a gafodd eu chwalu pan gyrhaeddais i.

A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe   i rywun a oedd yn meddwl mynd i'r Brifysgol?

Mae Prifysgol Abertawe'n lle rhagorol i astudio ac roedd fy mlynyddoedd yno'n hanfodol ar gyfer fy nhwf a chanfod pwy oeddwn i am fod yn y byd hwn.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Er nad wyf yn ddigrifwr nac yn ysgrifennwr gwleidyddol, mae'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu yn ystod fy astudiaethau wedi bod yn amhrisiadwy i mi. Boed yn sgiliau cyflwyno, cael y gallu i feddwl yn feirniadol neu'r sgiliau meddal rydych yn eu datblygu wrth fod mewn amgylchedd dysgu aeddfed. 

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?
Ewch amdani! Byddwch yn barod i fethu a chofleidio'r methiant hwnnw - gan fod gwersi amhrisiadwy bob amser i'w dysgu.