Kate McMurdo

Kate McMurdo

Ymgyrch hawliau anabedd, Gweithgaedd addysg, Goruchwyliaeth.

Ymarfer Cyfreithiol LLM a Drafftio Uwch, Dosbarth 2019.

Dwi wedi dewis llwybr lle dwi’n gobeithio helpu llawer drwy newid pethau ar lefel polisi, yn hytrach na’r ychydig rai sy’n gallu talu am gymorth cyfreithiol.

Roeddwn i’n meddwl bod eich stori’n hynod bwerus. Dywedwch ychydig wrthyf am eich profiad a beth oedd yr agwedd fwyaf anodd ar eich brwydr barhaus am addysg Lewis?

Cyn i Lewis gael ei eni, doedd gen i ddim ymwybyddiaeth na dealltwriaeth o sut mae bywyd i bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd neu’r brwydrau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd. Oherwydd y fiwrocratiaeth mae’n rhaid i chi ddelio â hi’n gyson fel rhiant-ofalwr, doedd dim modd i mi ddychwelyd i’r gwaith yr adeg honno. Roeddwn i’n teimlo’n hollol anweladwy fel rhiant-ofalwr yn y gymdeithas hon ac y byddai’n frwydr arall eto i gael lle iddo mewn sefydliad addysgol priodol a fyddai’n diwallu ei anghenion. Os oeddwn i am newid pethau a herio’r system mewn gwirionedd, sylweddolais i fod angen i mi ddeall y gyfraith a bod yn rhan o’r newid roeddwn i eisiau ei weld. Taswn i’n hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr, roeddwn i’n meddwl efallai y gallwn i eirioli dros deuluoedd sy’n wynebu anghyfiawnder a gwahaniaethu.

Fe wnes i gais ym mis Mawrth i astudio am y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion yn Abertawe, gan ddechrau fy astudiaethau ym mis Medi 2019, a dyna ddechrau newid enfawr i fi fy hun ac i’r teulu. Ar yr un pryd, roeddwn i’n dechrau herio’r awdurdod lleol ynglŷn â nifer o agweddau ar addysg Lewis a’i Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Mwyaf ddysgais i yn y Brifysgol yn y flwyddyn fer a dwys honno am y gyfraith a sut i ymchwilio iddi a defnyddio cynsail, a hefyd am hawliau dynol plant yn y modiwl cyfraith gyhoeddus, mwyaf hyderus roeddwn i wrth ymladd ein cornel. Roedd angen ymdrech anferth i ymchwilio i’n  hachos gyda’r dyddiad cau am gyfle olaf i apelio penderfyniad gan yr awdurdod lleol yn prysur nesáu. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi ymgymryd â gormod ac y byddwn i’n methu fel myfyriwr y gyfraith ac yn fy nyletswydd fel mam i gael y cymorth a’r gefnogaeth iawn i fy mab.

Rydych chi wedi llwyddo i gwblhau eich gradd Meistr ac rydych chi’n gobeithio astudio am PhD, ydy hynny’n gywir? Beth yw eich uchelgais am y dyfodol ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau?

Ym mis Rhagfyr 2019, enillais i radd Meistr a chyflwynais i gais ar unwaith i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am ysgoloriaeth i ymgymryd â PhD. Enillais i’r ysgoloriaeth ychydig o wythnosau’n ôl a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r cam nesaf hwn yn fy ngyrfa academaidd. Fy uchelgais yw peri newidiadau polisi ac adolygiad o’r ddeddfwriaeth a fydd yn hyrwyddo ymagweddau ar sail hawliau at gefnogi unigolion ac anableddau dysgu a phobl awtistig a’u teuluoedd. Dwi’n gobeithio defnyddio dull hollol gynhwysol yn fy ymchwil gan roi llais i’r rhai a amddifadwyd o’u llais gan anabledd ac, i raddau mwy helaeth, gan  y rhwystrau a grëwyd gan gymdeithas.

Ar ôl wynebu cynifer o rwystrau eich hun, beth ydych chi’n meddwl am y newyddion diweddar nad yw profion coronafeirws wedi cael eu cynnig i bobl ag anableddau dysgu er gwaethaf cynnydd o 175% yn eu marwolaethau? Fyddech chi’n dweud bod problem enfawr o ran y ffordd mae pobl ag anableddau’n cael eu trin yn y DU, am nad ydynt yn cael eu hystyried, yn ôl pob golwg, yn yr argyfwng byd-eang hwn?

Dwi ddim yn synnu o gwbl bod pobl ag anableddau dysgu unwaith eto wedi cael eu hymyleiddio a’u hanghofio yn yr argyfwng hwn. Dyw eu bywydau ddim yn bwysig i’r rhai mewn pŵer yn yr un ffordd â phobl heb anableddau, ac unwaith eto, maen nhw’n cael eu trin fel dinasyddion eilradd ac ôl-ystyriaeth. Mae teuluoedd plant anabl wedi cael eu gadael heb unrhyw ffordd o gael gofal a chymorth cymdeithasol ymarferol, yn ogystal â’r ffaith nad oes modd iddyn nhw anfon eu plant i’r ysgol. Mae hynny ar ben y ffaith bod awdurdodau addysg lleol yn eu hamddifadu o’u hawliau drwy gefnu ar eu goblygiadau i blant ag anghenion ychwanegol sy’n dioddef yn sylweddol oherwydd yr hyn sydd i fod yn ddeddfwriaeth dros dro ar gyfer Covid. Unwaith eto mae’r plant hyn a’u teuluoedd wedi cael eu hanghofio.

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun a oedd yn yr un sefyllfa â chi, cyn i Lewis ddechrau yng Nghanolfan Addysg Gwenllian?

Fy nghyngor i unrhyw riant sy’n wynebu brwydr dros ddarpariaeth addysgol fyddai, yn y lle cyntaf, i anadlu’n ddwfn a sylweddoli nad oes ateb cyflym. Roeddwn i’n ffodus bod gen i system gefnogaeth anhygoel yn fy ngŵr ond dwi’n gwybod nad yw pawb mor lwcus – ceisiwch ddod o hyd i rywun gallwch chi siarad ag ef a dibynnu arno i’ch helpu drwy’r amserau anodd o’ch blaen os yw hynny’n bosib.

Fy nghyngor cyffredinol fyddai, cadwch gofnodion o bopeth. Unrhyw ohebiaeth â’r gwasanaethau iechyd, addysg a chymdeithasol, rhowch hi mewn ffeil a chyfeiriwch ati yn ôl yr angen. Dysgwch gymaint â phosib am eich plentyn a’i ddiagnosis – mae’n debyg mai chi yw’r arbenigwr yn ei anghenion eisoes, felly defnyddiwch yr wybodaeth hon i roi mantais i chi. Ar ddiwedd y dydd, tystiolaeth yw’r peth allweddol – nid sut rydyn ni’n teimlo am ein plentyn ond i ba raddau gallwn i gyflwyno tystiolaeth am ei anghenion, tystiolaeth nad oes modd diwallu’r anghenion hynny yn y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig gan yr awdurdod lleol ond bod modd eu diwallu yn y lleoliad rydych chi wedi ymchwilio iddo fel yr un mwyaf addas i’ch plentyn.

Fyddech chi’n dweud bod eich gradd yn y gyfraith, ynghyd â’ch profiad fel mam, wedi eich galluogi i wneud gwahaniaeth er lles eraill a’u harbed rhag ymladd y brwydrau rydych chi wedi’u hwynebu?

Dwi’n meddwl bod fy mhrofiad emosiynol a chorfforol o fod yn rhiant-ofalwr, ynghyd â’r cymwysterau academaidd dwi wedi’u hennill yn y blynyddoedd diweddar, yn fy ngwneud yn asiant pwerus dros newid. Mae gen i gymhelliant cynhenid sy’n golygu bod fy ymdrechion o’r galon. Ar yr un pryd, mae gen i sylfaen gwybodaeth a gallu yn y gyfraith am yr hyn mae angen ei wneud i lunio dadl gymhellol a darbwyllol dros newid.

Dwi wedi dewis llwybr lle dwi’n gobeithio helpu llawer drwy newid pethau ar lefel polisi, yn hytrach na’r ychydig rai sy’n gallu talu am gymorth cyfreithiol. Yr elfen bwysicach i hyn i gyd yn fy marn i yw y bydd rhieni-ofalwyr yn ymddiried ynof ac yn siarad â mi oherwydd ein profiadau cyffredin; a bydd cydweithredu â theuluoedd yn rhan hollbwysig o’m cynlluniau wrth i mi gynnal ymchwil gyda theuluoedd ac unigolion ag anableddau dysgu ar gyfer fy PhD.

Llwyddoch chi i gwblhau naw arholiad mewn 10 niwrnod yn unig yn ystod eich astudiaethau, sy’n arwydd amlwg o’ch  gwaith caled di-baid a’ch dyfalbarhad, a dwi’n siŵr mai dim ond hanner y stori yw hynny. Fyddech chi’n dweud bod profiadau fel y rhai rydych chi wedi’u hwynebu yn eich gwneud yn fwy parod i weithio’n galed ym mhob agwedd ar weddill eich bywyd?

Sefyll y naw arholiad hynny mewn cyfnod mor fyr oedd y peth mwyaf anodd dwi wedi’i wneud erioed. Yn syth ar ôl gorffen yr arholiadau ym mis Awst, roedd rhaid i mi ysgrifennu traethawd estynedig 20,000 o eiriau i’w gyflwyno ym mis Medi ac roeddwn i wedi blino’n lân yn y diwedd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Dwi’n gwybod na allwn i byth fod wedi gwneud hyn heb y nerth a’r dyfalbarhad dwi wedi’u datblygu dros naw mlynedd fel rhiant-ofalwr. Mae bod yn fam i blentyn anabl a gweld pa mor galed mae’n rhaid iddo weithio i lwyddo yn hyd yn oed y tasgau mwyaf sylfaenol yn rhoi persbectif am yr hyn sy’n bwysig. Ces i gymaint o gymorth gan y brifysgol a’r staff achos roedden nhw’n gallu gweld pa mor galed roeddwn i’n gweithio a pha mor anodd oedd pethau gartref. Byddwn i wrth fy modd be bai rhywun sy’n darllen hwn yn magu hyder ynddo ei hun a gweithio’n galed i gyflawni’r canlyniadau mae’n eu haeddu – fydd hi ddim yn hawdd, bydd llwyth o rwystrau ar y ffordd, ond byddwch chi’n cyflawni’r nod yn y diwedd.

 Oes gennych chi atgofion arbennig am eich amser yn Abertawe a fydd yn aros yn eich cof?

 Mae llwyth ohonyn nhw. Ond y rhan fwyaf anhygoel o’r profiad cyfan, dwi’n meddwl, oedd y ffrindiau cwrddais i â nhw sydd bellach yn ffrindiau oes. Roedd y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion a’r Cwrs Meistr/Ymarfer y Gyfraith yn gyfnodau dwys yn ein bywydau na allwch eu deall os nad ydych chi wedi rhannu’r profiad. Rydyn ni’n jocan yn aml mai’r cwrs GDL oedd y cyfnod gorau a’r cyfnod gwaethaf yn ein bywydau!

Roedden ni’n teimlo ein bod yn byw 1000 milltir yr awr ond roedden ni ar y felin draed gyda’n gilydd – roedd yn ffordd wych o gryfhau perthnasoedd. Roedden ni’n helpu ein gilydd drwy’r cwrs ac yn gwrando ar broblemau ein gilydd, gan ddelio â nhw wrth iddyn nhw godi. Roedden ni’n chwerthin ac yn crio ac yn yfed galwyni o goffi, ychydig yn ormod o jin mae’n debyg, ond llwyddon ni i gyrraedd pen y daith gyda’n gilydd a dwi wir yn credu na fyddwn i wedi gallu gwneud hyn heb nerth y cyfeillgarwch hwnnw.