Kate Bullen

Kate Bullen

Seicoleg

Newidiodd Abertawe fy mywyd: Llywydd Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), Kate Bullen

Pan ofynnwyd i Kate Bullen ddisgrifio ei phrofiad ym Mhrifysgol Abertawe mewn un frawddeg, dywedodd:

"Yn syml, newidiodd fy mywyd. Fe'm helpodd i sefydlu gyrfa newydd a'm galluogi i ail-adeiladu fy ymdeimlad o hunan a hunanwerth, pan oedd y ddau wedi'u difrodi oherwydd damwain."

Roedd Kate yn radiograffydd therapiwtig pan oedd yn rhaid iddi newid gyrfaoedd oherwydd damwain ddiwydiannol. Dechreuodd ei gradd Seicoleg israddedig yn Abertawe ym 1993, a dyfarnwyd ei PhD iddi yma yn 2001.

Ers hynny mae gyrfa Kate wedi mynd o nerth i nerth. Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, cyn symud i Brifysgol Aberystwyth i sefydlu Adran Seicoleg. Symudodd wedyn i Brifysgol Brighton yn 2015 lle mae hi'n Athro Seicoleg ac yn Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ar hyn o bryd. 

Mae Kate bellach yn Llywydd Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ar gyfer 2018/19. Mae hi hefyd wedi gweithio i'r Brifysgol Agored yng Nghymru, ennill MEd, ac mae'n adolygydd arbenigol ar gyfer Prostate Cancer UK.

Cyngor Kate i fyfyrwyr newydd

"Ceisiwch ddarllen yn aml a defnyddio eich dyddiadau cau i strwythuro eich dysgu. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau hefyd gan nad oes y fath beth â chwestiwn twp. Os oes rhywbeth yn eich poeni, gallwch fod yn siŵr y bydd hefyd yn poeni rhywun arall. Felly byddwch yn ddewr a holi!"