Fe astudioch eich gradd Astudiaethau Rheoli yn Jamaica.  Beth ddenodd chi i Abertawe?

Roeddwn am wneud gradd meistr mewn Cyfathrebu a Datblygiad Cymdeithasol.  Yn wahanol i nifer o bobl, rydw i’n dueddol o ddechrau fy chwilio gyda’r rhaglen ei hun yn hytrach nag edrych ar beth mae prifysgol benodol yn ei gynnig. Felly, fe chwiliais ar y we a darganfod Abertawe.  Fe wnes i ychydig o ymchwil i’r brifysgol, yn cynnwys edrych ar y tablau cynghrair a phenderfynu y byddai’n berffaith.  Llwyddais gael yr Ysgoloriaeth Chevening a wnaeth hi’n bosib i mi fynd yno.

"Mae gen i nifer o atgofion melys o’m hamser yn Abertawe, yn y Brifysgol ac yn y..."

Beth yw eich hoff atgofion o’ch amser yn Abertawe?

Mae gen i nifer o atgofion melys o’m hamser yn Abertawe, yn y Brifysgol ac yn y dref – o yfed a mwynhau i brotestio gyda myfyrwyr eraill dros beidio â dileu un o’n cyrsiau.  Rwy’n aml yn hel atgofion am goginio a sgwrsio gyda fy ffrindiau yn ein neuadd breswyl, chwarae Mr Tumnus yn y pantomeim Nadolig blynyddol, mynd i’r traeth i ddathlu noson Guto Ffowc, y bwytai, tafarnau a chlybiau yn y dref ac ar y campws, ac mor gyfeillgar a charedig oedd pawb, yn ogystal â gyrru rownd y ddinas yn hwyr yn y nos. Yn olaf, ac er nad oedd hyn yn y Brifysgol, fe dreuliais gyfnod hyfryd yng Ngorllewin Cymru gyda hen bâr a chael fy nghyflwyno i fwydydd Cymreig a Seisnig bendigedig.

Ar ôl i chi orffen eich MSc mewn Cyfathrebu a Datblygiad Cymdeithasol, beth wnaethoch chi?

Yn syth ar ôl i mi gwblhau’r rhaglen, fe ddychwelais i Jamaica i weithio yn J-FLAG fel Rheolwr Rhaglen ac Eiriolaeth a defnyddio rhywfaint o ganfyddiadau fy ymchwil i hybu gwaith y sefydliad. 

Jaevion Nelson.

Sut daethoch chi i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol J-FLAG yn Jamaica?

Cyn dechrau’r rhaglen yn Abertawe, fe wirfoddolais gyda J-FLAG am bythefnos achos roeddwn eisoes wedi penderfynu beth fyddai pwnc ymchwil fy nhraethawd estynedig.  Roedd yn gyfle i ddysgu am y gymuned o bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LGBT), a chysylltu gyda rhai o’r prif drefnwyr cymunedol ymhell cyn dechrau ar fy nhraethawd.  Yn ffodus, fis neu ddau cyn i’r rhaglen ddod i ben, roedd y swydd ar gael.  Fe gyflwynais gais ac fe lwyddais.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf ers ymuno â J-FLAG?

Mae’n anodd meddwl am un peth ond mae nifer o bethau rwy’n falch ohonynt ac yn eu hystyried fel cyflawniadau mawrion ers ymuno â’r sefydliad.  Roeddwn i wedi gallu ehangu eiriolaeth a rhaglenni’r  sefydliad i ganolbwyntio ar ystod ehangach o faterion sy’n effeithio ar bobl LGBT yn Jamaica, yn cynnwys ar ddatblygiad a’r effaith ar bobl LGBT yn seiliedig ar fy nhraethawd.  Fel rhan o hyn, es i ati i gysyniadu a chydlynu rhaglen lwyddiannus bum mlynedd o hyd o’r enw “Fight the Hate” i adeiladu capasiti a sensiteiddio rhanddeiliaid, gan gynnwys seneddwyr, gwneuthurwyr polisi, pobl LGBT a’r cyhoedd ynghylch hawliau pobl LGBT.  Rydw i hefyd yn falch iawn o fenter y datblygais i ddarparu cyfleoedd i bobl LGBT allu siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion, Aelodau Seneddol ac eraill sy’n creu, penderfynu a dylanwadu ar bolisïau er mwyn iddynt glywed o lygad y ffynnon am y bobl y mae homoffobia a transffobia yn effeithio arnynt a dysgu am yr hyn y gallant wneud i fynd i’r afael â’r heriau parhaus.  Yn olaf,  o fewn tair blynedd o ymuno â’r sefydliad, fe lwyddais i gynyddu ei incwm gan 380% rhwng 2010 a 2013 i ehangu eiriolaeth a rhaglenni ac o ganlyniad, cynyddu‘r cyflenwad staff gan 150% erbyn 2015.

Mae eich gwaith hefyd wedi arwain atoch yn ymgynghori ir Cenhedloedd Unedig a Chyrff Anllywodraethol eraill. Ydy hyn yn rhoi persbectif gwahanol i chi yn eich gwaith fel eiriolwr a newyddiadurwr?

Ydy, rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod fy ngwaith fel eiriolwr, barn newyddiadurol a sylwebydd materion cyhoeddus yn dod o fy holl brofiadau a’m hamser yn ymwneud â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd.  Dwi’n meddwl ei fod yn fy helpu i fod yn ymwybodol o realiti ar lawr gwlad a gallu cysylltu ag ystod eang o bobl o bob mathau o grwpiau gwahanol.

Maer gymuned LGBT wedi symud ymlaen dipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mawr nesaf i’r gymuned?

Rydw i’n meddwl mai’r heriau mawr nesaf i’r gymuned fydd gwneud teuluoedd a chymunedau’n fwy diogel fel bod pobl LGBT, yr ifanc yn arbennig, yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn hytrach na chael eu dieithrio o’u teuluoedd a’u cymunedau.  Mae gweithio ar faterion iechyd meddwl yn y gymuned yn bwysig a mynd i’r afael â’r heriau o gael mynediad i ystod ehangach o wasanaethau iechyd i aelodau mwyaf bregus y gymuned a gwella mynediad i ddiogelwch cymdeithasol a gwasanaethau cefnogi.  Mae rhaglenni penodol i ymdrin â bwlio mewn ysgolion yn hanfodol i leihau’r niwed mae pobl ifanc LGBT yn ei wynebu yn ogystal ag edrych ar brofiadau plentyndod niweidiol a’r math o effaith y caiff hyn ar bobl.

Mae eich gwaith yn eich cadwn brysur, ond beth ydych yn ei wneud yn eich amser hamdden?

Rwy’n hoffi coginio (weithiau), mynd allan gyda ffrindiau i ymlacio mewn bariau, treulio llawer o amser ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol neu wylio ffilmiau a fy hoff gyfresi, mynd allan i gael antur ac yn hollbwysig, fel person o Jamaica, cael parti.