Mae Jacob Draper yn unigolyn amryddawn. Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Economeg y llynedd a chynrychioli Cymru a Phrydain Fawr ar y cae hoci, mae bellach yn edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd.

Dewis Abertawe

“Roeddwn i’n teimlo bod Abertawe’n cynnig y gorau o ddau fyd a dyna pam dewisais i astudio yma; y cyfle i ddilyn rhaglen academaidd i safon eithriadol o uchel (enillais i ddosbarth cyntaf mewn Economeg yn y pen draw) a bod yn agos at adnoddau o safon ryngwladol a fyddai’n fantais i fy ngyrfa chwaraeon, a bellach fy ngyrfa broffesiynol.

Rwy’n credu’n gryf bod ymdrech yn dwyn ffrwyth ac mae hyn wedi bod yn hynod fanteisiol i mi, yn enwedig yn Abertawe. Os ydych chi’n fodlon gweithio’n galed a mynd allan a manteisio ar bob profiad sy’n cael ei gynnig gan Brifysgol Abertawe, yn ogystal ag ennill gradd hynod werthfawr, byddwch hefyd yn unigolyn amlochrog â llawer mwy o sgiliau na’r rhai sydd wedi’u nodi ar eich tystysgrif gradd.”

"Fy hoff brofiad oedd cymhwyso am y Gemau Olympaidd o flaen torf enfawr a chynrychioli Prydain Fawr."

Safon Ryngwladol

“Roedd chwaraeon yn hollbwysig i mi yn Abertawe. Fe wnes i ffrindiau am oes gan fanteisio ar gyfleusterau o safon ryngwladol ar yr un pryd, a dyna’r rheswm, yn fy marn i, y llwyddais i droi’n broffesiynol yn syth ar ôl gadael y Brifysgol.

“Mae sawl tro trwsgl wedi bod yn fy ngyrfa hoci, gyda phenderfyniadau i fynychu’r brifysgol yn hytrach na chanolbwyntio ar hoci, anafiadau a pheidio â chael fy newis am y tîm. Ond dwi’n credu bod rhaid i chi gwympo mewn cariad â’r broses – ac mae hynny wedi fy helpu yn y sefyllfa dwi ynddi ar hyn o bryd.

“Fy hoff brofiad oedd cymhwyso am y Gemau Olympaidd o flaen torf enfawr a chynrychioli Prydain Fawr. Roedd y profiad cyfan yn hollol wefreiddiol ac roeddwn i’n llawn cyffro am y Gemau Olympaidd sydd ar ddod.”

Beth sydd nesaf?

“Am y tro, dwi’n mwynhau bod yn athletwr proffesiynol sy’n ddigon ffodus i gael fy nhalu am wneud rhywbeth dwi’n dwlu arno. Dwi’n byw yng nghanol Llundain, felly mae’r cyfle i fanteisio ar bopeth mae’r brifddinas yn ei gynnig yn wych hefyd!

“Dwi’n ddigon ffodus bod gen i ddigon o le yn fy nhŷ am gampfa fach, felly yn ystod y cyfnod cloi, dwi wedi cael pwysau, meinciau a rhesel gyrcydu .... felly dwi’n gallu cadw’n heini a dioddef heb adael fy nghartref!

Beth sydd yn eich ysbrydoli?

“Fy rhieni.  Dwi ddim yn adnabod neb sy’n gweithio’n fwy caled na nhw a hyd at heddiw, does gen i ddim syniad sut gwnaethon nhw ymdopi. Maen nhw’n fy sbarduno ac roedden nhw’n gwneud hynny pan oeddwn i yn y brifysgol yn bendant. Dwi’n ddyledus iddyn nhw am bopeth sydd gen i a phopeth dwi wedi bod yn ddigon ffodus i’w gyflawni.”