Hannah Lamden

BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2008. Cyfarwyddwr y Cyfryngau Little Mix, Simon Cowell.

Pan ddaeth Hannah Lamden, sy'n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe i ddigwyddiad yn Abertawe ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, nid oeddem yn gallu gwrthod y cyfle i’w holi am ei swydd yn Gynorthwy-ydd Personol i Simon Cowell, Cyn-gyfarwyddwr y Cyfryngau yn Syco Music a sylfaenwr Finery Media (y cwmni sy'n rheoli sêr y rhaglen deledu boblogaidd, Love Island).

Ers dechrau ei gradd mewn Astudiaethau Americanaidd, roedd Hannah eisiau dod o hyd i swydd ran-amser, felly dechreuodd weithio ym mar yr Undeb. Yno darganfu bod adran adloniant gyfan a oedd yn trefnu digwyddiadau a phartïon.

"Des i adnabod Russell a Ben yn Undeb y Myfyrwyr, ac yn y pen draw gwnaethant gynnig swydd imi. Roeddwn i'n hyrwyddo digwyddiadau iddynt a dechreuais ymwneud yn fwy â'r tîm yno'n raddol. Yn y diwedd dechreuais drefnu digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr a chysylltu â llawer o'r hyrwyddwyr ac asiantiaid yn Llundain, roeddwn i'n trefnu DJ's, cantorion, digrifwyr, ac roeddwn i'n trafod ac yn cytuno ar eu ffioedd. Gwelais fod rhwydweithio'n rhan eithaf naturiol o'm mhersonoliaeth, a byddent yn cynnig fy nghyflwyno i gysylltiadau neu'n cynnig interniaethau a phrofiad gwaith imi. Felly o weithio yn y tîm Adloniant, roeddwn i'n gallu manteisio i'r eithaf ar brofiad gwaith neu interniaethau yn ystod gwyliau'r Brifysgol dros y Pasg neu'r haf, a gwnes y gorau o'r cysylltiadau a'u troi'n gyfleoedd."

“Byddwn i'n priodoli'r llwyddiant rwy'n ei gael yn awr i'r profiad a'r cyfleoedd a gefais gydag Undeb y Myfyrwyr.”

"Ers graddio, parhaodd Hannah i weithio gyda'r tîm Adloniant am 12 mis pellach. "Y peth gwych am Undeb y Myfyrwyr yw ei fod yn rhoi cipolwg go iawn i chi ar sut beth yw bywyd gwaith. Mae'n debyg i ficrocosm o ddiwylliant gwaith lle mae'n rhaid ichi fod yn gyfrifol, mae'n rhaid ichi gwblhau eich oriau a bod yn graff am wleidyddiaeth y swyddfa mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar cyn ichi symud i'r byd ehangach. Mae'n ffordd dda o weld sut beth y gallai'r byd gwaith fod. Nid oes llawer o bobl yn gwybod ei fod yn bodoli fel lle i weithio hyd yn oed, ond gallwch feithrin cymaint o brofiad yno. Rydych hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda phobl o bob lefel wahanol ar draws y Brifysgol."

"Mae angen i chi gael agwedd gadarnhaol, bywiog a 'gallu gwneud' i lwyddo mewn amgylchedd o'r fath."

Pan ofynnwyd iddi am ei gwaith gyda Simon Cowell, ymateb Hannah oedd; "Ar ôl blwyddyn ychwanegol o weithio gyda'r tîm Adloniant, es i nôl i Lundain a chael interniaeth gyda'r label recordio XL Recordings - maen nhw'n gweithio gydag artistiaid fel Adele, Radiohead a'r White Stripes. Bues i hefyd yn gweithio gyda Wise Buddah sy'n cynrychioli llawer o artistiaid megis Greg James, Scott Mills a Katherine Jenkins. Roedd yr interniaethau'n cynnwys bod yn gynorthwyydd yn y tîm ehangach; ymdrin â logisteg, trefnu teithiau, ysgrifennu amserlenni ac yn y bôn, gwneud unrhyw beth yr oedd angen ei wneud. Mae angen i chi gael agwedd gadarnhaol, bywiog a 'gallu gwneud' i lwyddo mewn amgylchedd o'r fath.  Roeddwn i'n cydbwyso gwneud interniaeth â swyddi rhan-amser ac yn ceisio gwneud i'r cyfan weithio. Yna cyflwynais CV i Sony Music. Roedd fy CV yn eithaf cadarn o'r holl waith roeddwn wedi'i wneud yn Abertawe, felly cefais gynnig cyfweliad er nad oeddwn i'n gwybod beth oedd y swydd. Yna cefais ail gyfweliad a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y swydd o hyd. Yna cefais drydydd cyfweliad cyn cael cynnig y swydd. Dim ond ar ôl hynny y gwnes i ddarganfod mai'r rôl oedd dod yn un o gynorthwywyr personol Simon Cowell (roedd ganddo 3 ar yr adeg honno). Felly ymunais fel aelod ieuangaf y tîm a dechrau arni'n syth, roeddwn i'n gweithio'n galed iawn ac roedd fel corwynt ond gwnes i fwynhau'n fawr."

"Mae'r diwydiant yn ffyrnig, yn gofyn llawer ac mae angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn cyflawni'r hyn a ddisgwylir yn y swydd."

"Roedd yn debyg iawn i'r hyn y byddech yn ei ddychmygu. Roedd yn debyg i weithio yn y ffilm “The Devil Wears Prada," heblaw bod Simon Cowell llawer yn fwy dymunol a braf i weithio gydag ef. Mae'r diwydiant yn ffyrnig, yn gofyn llawer ac mae angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn cyflawni'r hyn a ddisgwylir yn y swydd. Roedd yn hudolus iawn, gyda llawer o bartïon a theithio'n rhyngwladol. Bues i hefyd yn byw yn LA am chwe mis. Rwy'n hynod ddiolchgar am y pethau y cefais gyfle i'w gweld – sut mae pobl gyfoethog ac enwog y byd yn byw eu bywydau."

"Ar ôl bod yn gynorthwy-ydd i Simon am ddwy flynedd, cafodd Hannah y cyfle i weld ochrau gwahanol iawn o'r busnes.  Yr ochr cysylltiadau cyhoeddus a ddenodd ei sylw, a phenderfynodd symud i'r cyfeiriad hwnnw. "Roedd Simon yn ddigon annwyl i adael imi symud draw i'r tîm cysylltiadau cyhoeddus lle des i'n gynorthwy-ydd cysylltiadau cyhoeddus i'w gwmni, SYCO. Ar ôl 7 mlynedd yn y cwmni, dringais yn araf yn y cwmni i fod yn Gyfarwyddwr y Cyfryngau. Roeddwn i'n troi'n 30 ac yn teimlo fy mod i wedi cyflawni popeth y gallwn i yn y swydd. Roedd pennu nodau'n rhywbeth roeddwn i bob amser wedi'i wneud. Pan rydych chi'n cyrraedd y nod hwnnw, mae angen i chi gymryd amser i edrych ymhellach, dod o hyd i rywbeth sy'n eich cyffroi chi a dechrau eto, felly penderfynais gymryd y cam a sefydlu fy musnes cyfryngau fy hun."

"Mae gan bawb atgofion gwych o'n cyfnod yn Abertawe."

"Mae dychwelyd i Abertawe yn teimlo fel dychwelyd adref. Cymuned fach i fyfyrwyr ydyw. Mae gennyf atgofion melys iawn o bob un ohonom yn byw gyda'n gilydd. Dyma adeg mewn bywyd nad ydych yn sylweddoli pa mor arbennig ydyw nes eich bod chi'n gadael. Roedd gennym bolisi drws agored ymhlith ein ffrindiau, ac roeddem ni bob amser yn nhai ein gilydd. Roedd mynd allan bob nos yn wych - yr elfen gymdeithasol yw'r hyn rwy'n gweld ei heisiau fwyaf. Roedd yn wych, roedd grŵp mor hyfryd o ffrindiau ac rwyf mewn cysylltiad â nhw o hyd. Mae gan bawb atgofion gwych o'n cyfnod yn Abertawe."

Cyngor i entrepreneuriaid ymhlith myfyrwyr:

"Ni fu erioed amser gwell i ddechrau busnes. Mae cymaint o adnoddau digidol i ni eu defnyddio, nid oes rheswm i beidio â rhoi cynnig arno. Pennwch nodau synhwyrol yw'r cyngor fydden i'n ei roi. Rhowch amser ichi ddysgu yn y swydd ac addasu wrth i chi fynd ati. Byddwch yn agored i ofyn am gymorth. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae pobl wedi bod mor barod i roi cyflwyniad i mi neu wneud cysylltiad, neu fy rhoi i ar ben y ffordd. Peidiwch ag ynysu eich hun. Mae pobl am eich gweld chi'n llwyddo, felly byddwch yn agored i gyfleoedd. Gyda'r dechnoleg sy'n bodoli ar hyn o bryd, nid oes rheswm pam na allwch fod yn bennaeth ar bob adran - dyma lle rwyf arni ar hyn o bryd."

"Gwnes i ddarganfod y cyfleoedd yn Abertawe ar ddamwain drwy fod yn gymdeithasol a gofyn cwestiynau. Gallwch fynd i ddarlithoedd bob dydd, mynd i'r llyfrgell a bod gyda'ch ffrindiau, ond mae'r Brifysgol yn fusnes anferth sydd â llawer o weithwyr, gallwch ddysgu cymaint drwy siarad â phobl. Mae'n ymwneud â rhwydweithio a gofyn cwestiynau. Byddwch yn rhagweithiol, ni fydd pobl yn rhoi'r cyfleoedd i chi ar blât, mae angen ichi fynd a chwilio amdanynt, bod yn chwilfrydig, creu eich cyfleoedd eich hun."

"Ceisiwch estyn allan i gysylltiadau perthnasol. Edrychwch am bobl yn y diwydiant neu swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae gan bobl wersi a phrofiadau y gallant eu trosglwyddo i chi. Mae LinkedIn yn adnodd gwych ac mae fy nghysylltiadau wedi bod mor ddefnyddiol i mi dros y blynyddoedd. Mae'r ffaith bod gan 120,000 o bobl Prifysgol Abertawe yn gyffredin a'i gilydd yn gwneud y cysylltiadau'n eithaf hawdd."