Georgia Davies

Y Gyfraith. Blwyddyn Graddio 2013. Cystadleuydd Olympaidd.

Cyrhaeddodd Georgia’r llwyfan hŷn yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010. Enillodd y fedal efydd yn y ras 50 metr ar y cefn a hefyd gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y ras 100 metr ar y cefn. Yna bu’n cystadlu gyda thîm PF ym Mhencamwpwriaethau’r Byd yn 2011 ac yn 2012 yng Ngemau Olympaidd Llundain.

Yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014, enillodd Georgia’r fedal aur yn y ras 50 metr ar y cefn, gan osod record gemau yn y broses. Enillodd Georgia hefyd fedal arian yn y ras 100 metr ar y cefn.

Aeth Georgia i’w hail Gemau Olympaidd yn 2016 ond collodd yn y rownd gynderfynol, gan ddod yn y 10fed safle.

Aeth i drydydd Gemau’r Gymanwlad yn 2018. Dychwelodd Davies o Awstralia gyda dwy fedal efydd o’r ras 50 metr ar y cefn a’r ras gyfnewid gymysg 4 x 100 metr.

Enillodd fedal aur arall ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2018 yn y ras 50 metr ar y cefn a’r ras gyfnewid gymysg 4 x 100 metr.