Pam gwnaethoch benderfynu astudio yn Abertawe?

Rwyf wastad wedi bod yn hoff o Abertawe. Roeddwn wedi treulio llawer o amser yn gweithio yn y theatr yno ac roeddwn yn dwlu ar yr ardal. Hefyd, roedd y cwrs MA yn apelio ataf yn fawr oherwydd y cyfle i astudio amrywiaeth mor eang o ffurfiau. Roeddwn yn gwybod y byddwn yn gallu rhoi tro ar sgriptio a ffuglen, barddoniaeth a dramâu. Yr adeg honno, nid oedd gennyf syniad pa ffurf o ysgrifennu y byddwn yn dewis arbenigo ynddi, felly roedd yn addas i mi oherwydd ei amrywiaeth.

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yn Abertawe?

A bod yn onest, y llyfrgell. Unwaith imi ddod i nabod y ffordd o’i chwmpas, penderfynais bron fyw ynddi. Hefyd, cwrddais â ffrindiau da iawn ar oedran pan oeddwn yn meddwl fy mod i wedi cwrdd â’m holl ffrindiau eisoes. Awduron yw’r math gorau o bobl.

Eloise yn actio gyda Theatr Hijinx, sy'n wych.

Cyn bod yn awdur i blant, roeddech yn gweithio fel actor teithiol ac ymarferydd theatr. Beth a wnaeth ichi newid cyfeiriad?

Llawer o resymau, ond yn bennaf oherwydd fy mod yn teimlo ei bod hi’n bryd imi geisio defnyddio fy ngeiriau fy hun a’m llais fy hun. Treuliais dros ddegawd yn defnyddio geiriau pobl eraill i adrodd straeon ac roedd yn bryd imi adrodd fy rhai fy hun.

Oes gennych arferion ysgrifennu?

Byddwn yn dweud mai oedi yw fy mhrif arfer ysgrifennu! Rwyf yn arbenigo ynddo. Heblaw am hynny, dim byd mewn gwirionedd. Rwyf yn hoffi cael llyfr nodiadau yn agos, er mwyn imi wneud nodiadau bach wrth imi fynd.

Hefyd rwyf yn teimlo ei bod hi bron yn amhosibl ysgrifennu yn y bore. Gwnaeth wneud imi deimlo’n ddiog ar y cychwyn, tan imi sylweddoli nad wyf yn berson boreau. Erbyn amser cinio byddaf yn dechrau teimlo’n greadigol. Rwyf yn meddwl bod rhaid ichi wrando arnoch chi eich hunan a darganfod y llwybr gorau i chi’ch hunan.

Pwy sydd wedi eich ysbrydoli drwy gydol eich gyrfa?

Yn bendant, Stevie Davies. Hi oedd pennaeth ein cwrs (mae’n debyg bod teitl llawer mwy crand gan y rôl) ac roeddwn yn meddwl ei bod yn fendigedig. Rwyf yn dal i gadw mewn cysylltiad â hi o bryd i’w gilydd. Mae’n gymaint o ysbrydoliaeth imi. 

Mae fy ngolygydd yng ngwasg Firefly, Janet Thomas, wedi bod yn wych ac wedi fy nhywys o sbwriel y drafftiau cyntaf hyd at y deunydd wedi’i orffen. Mae ganddi amynedd sant!

Rwyf wedi gwneud cynifer o gysylltiadau ag awduron eraill dros y deng mlynedd diwethaf. Maent bob amser yn gymwynasgar ac yn gefnogol ac yn barod i’ch codi pan fyddwch yn cyrraedd man anodd. Mae hwn yn ddiwydiant anodd ac mae arnoch angen y ffrindiau hynny.

Hefyd, awduron trwy eu llyfrau, wrth gwrs. Miloedd a miloedd o awduron. Gormod i’w henwi!

Yn 2019, fe’ch enwyd yn Children’s Laureate Wales cyntaf. Sut daeth digwyddodd hyn, a sut roeddech yn teimlo pan gyhoeddwyd y byddech yn cael y rôl?

Galwodd Llenyddiaeth Cymru am awduron a chanddynt ddiddordeb yn y rôl. Cyflwynais gais heb ddisgwyl derbyn y swydd o gwbl. Roeddwn yn gwybod bod llenyddiaeth plant yn rhywbeth roeddwn yn teimlo’n frwdfrydig amdani ac roeddwn wedi bod yn gweithio gydag awduron ifanc ers blynyddoedd.

Mae’n flin gennym ond nid oes fersiwn Gymraeg o’r fideo hwn.

Roeddwn yn meddwl y byddwn yn mynegi diddordeb rhag ofn imi gael fy ystyried am y swydd rywle ar y ffordd. Pan wnaethant alw i ddweud wrthyf eu bod wedi fy newis i’n Children’s Laureate Wales cyntaf roeddwn yn methu dweud dim, wedyn roeddwn yn llawn geiriau ac yn clebran, wedyn nid oes gennyf gywilydd ddweud, gwnes i lefain. Mae’n gymaint o anrhydedd ac yn fraint. Dim ond unwaith mewn oes mae’r mathau hyn o bethau yn digwydd dim ac rwyf wrth fy modd fy mod i wedi chael fy newis.

Beth yn union mae diwrnod nodweddiadol yn eich bywyd yn ei gynnwys? 

Nid oes gennyf ddiwrnod nodweddiadol mewn gwirionedd. Mae pob dydd yn wahanol sy’n un o’r pethau rwyf yn dwlu arnynt am fy mywyd. Heddiw mae gennyf alwad fideo gydag ysgol, cyfweliad, cyfarfod, dwy awr o ysgrifennu wedi’u hamserlenni, cardiau post i’w llofnodi ar gyfer siopau llyfrau ac ysgolion, llythyron gan blant i ymateb iddynt, dwy stori i blant i’w darllen ac ymgyrch ar-lein i’w sefydlu ynghylch darllen er pleser. Pwy a ŵyr beth ddaw yfory?!

Ydy’r swydd wedi newid eich agwedd ar ysgrifennu o gwbl?

I ddechrau, roeddwn yn gallu teimlo cyfrifoldeb y swydd yn pwyso’n drwm ar fy ysgrifennu. Mae math gwahanol o ddisgwyliad bellach, mae’n debyg. Ond sylweddolais yn gyflym fod angen imi wahanu’r ddau beth. Pan fydda i’n ysgrifennu –awdur ydw i. Yr un peth ag unrhyw awdur arall. Mae angen imi gau popeth arall allan wrth wneud hynny ac ysgrifennu’r gwir.

Eloise Williams yn siarad gyda phlant ysgol gynradd, yn rhan o'i rôl fel enillydd gwobr plant.

Mae Children’s Laureate Wales yn anrhydedd mawr wrth gwrs, ond rwyf yn dychmygu y gall fod yn anodd ysgrifennu ochr yn ochr ag ymrwymiadau’r swydd ddwy flynedd. Sut rydych yn cyflawni hyn?

Rwyf yn gweithio’n galed iawn ac yn gweithio oriau hir. Mae’n rhaid imi ysgrifennu. Mae’n hanfodol imi felly rwyf yn gwneud lle iddo pan allaf. Rwyf yn dod o deulu dosbarth gweithiol felly mae fy egwyddorion gwaith yn gryf. Ar rai diwrnodau mae cryn dipyn o jyglo wedi bod ond nid wyf yn berson sy’n cynnal parti piti ar gyfer un - rwyf yn bwrw iddi. Mae ysgrifennu’n ysblennydd ac yn fendigedig ac yn wych ond mae’n swydd hefyd ac mae’n rhaid imi gyrraedd y gwaith.

"Rwyf am eirioli drosbobl ifanc, y straeon ganddynt a’r rhai ar eu cyfer."

Beth yw eich cynlluniau a’ch gobeithion ar gyfer y rôl?

Ysbrydoli pobl ifanc o Gymru i ddefnyddio eu lleisiau eu hunain, darllen er pleser ac ysgrifennu yn eu ffordd eu hunain. Rwyf am wneud fy rhan er mwyn sicrhau bod holl blant Cymru’n teimlo eu bod yn rhan o dirwedd llenyddiaeth. Mae straeon ym mhob un ohonom ac mae angen inni annog ystod ehangach o leisiau o Gymru. Rwyf am eirioli drosbobl ifanc, y straeon ganddynt a’r rhai ar eu cyfer.

Oes gennych gyngor ar gyfer darpar awduron ifanc? 

Cadwch ysgrifennu. Gwnewch ef yn eich ffordd eich hun. Gwrandewch ar gyngor ond derbyniwch yr hyn sydd o fudd i chi yn unig . Peidiwch ag ysgrifennu beth rydych yn meddwl bydd pobl yn ei hoffi – ysgrifennwch yr hyn y mae angen ichi ei ddweud. Peidiwch â phoeni am ramadeg a sillafu – dychymyg yw’r cynhwysyn pwysicaf.

Beth sydd nesaf ichi, a beth dylem gadw llygad amdano?

Fel awdur, rwyf yn gweithio ar ychydig o brosiectau ysgrifennu ar hyn o bryd ond heb ganolbwyntio ar un yn benodol. Mae’n adeg hyfryd o chwarae o gwmpas a gwneud llawer o gamgymeriadau. 

Mae gan y rôl Children’s Laureate Wales lawer o brosiectau gwahanol ar y gweill. Cadwch lygad ar wefan Llenyddiaeth Cymru am y rheiny.

Oes unrhyw beth arall hoffech ei ychwanegu?

Mwyaf bydd pobl yn cymryd rhan yn y rôl Children’s Laureate Wales, mwyaf byddwn yn gallu codi ein plant a dangos pa mor fendigedig ydyn nhw. Byddai’n hyfryd pe tasech yn gallu cymryd rhan!