Cameron Veasey

Arweinydd Cyfathrebu, Cynnyrch, Ffordd o Fyw, Tueddiadau yr Arddegau a'r Genhedlaeth nesaf, Instagram Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica

Gwnaethoch chi gwblhau eich gradd israddedig yn yr Unol Daleithiau. Sut daethoch chi i Abertawe?

Cyn dod i Brifysgol Abertawe i gwblhau fy ngradd meistr, roeddwn i wedi astudio yn Abertawe unwaith o'r blaen fel myfyriwr cyfnewid yn ystod fy ngradd israddedig. Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i am astudio dramor yn y Deyrnas Unedig, ond doeddwn i ddim yn gwybod ym mha ddinas neu ym mha brifysgol.

 

Roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhy ddrud i mi gofrestru mewn prifysgol yn Llundain, felly doeddwn i ddim yn ystyried hynny fel dewis ymarferol. Yn ogystal ag ystyried y gost, roeddwn i am gofrestru mewn prifysgol a oedd yn cynnig rhaglen ag enw da yn y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus.

Roedd fy nghynghorydd academaidd ar y pryd yn digwydd dod o Gymru ac argymhellodd Abertawe i mi. Dywedodd wrthyf y byddai'r ddinas a'r brifysgol yn fforddiadwy a bod rhaglen cysylltiadau cyhoeddus wych gan y brifysgol. Ac yn goron ar y cyfan, dywedodd e wrthyf fod y brifysgol nesaf at y traeth a bod llwybrau heicio fel y Tri Chlogwyn a Gŵyr gerllaw.

 Beth yw eich atgofion gorau am eich amser yn Abertawe?

Mae gen i lawer o atgofion am fy amser yn Abertawe ac maen nhw i gyd am dreulio amser gyda fy ffrindiau - cael barbeciw ar y traeth, taith penwythnos i Amsterdam neu gerdded llwybrau'r Tri Chlogwyn gyda'n gilydd. Gallaf ddweud â'm llaw ar fy nghalon mod i wedi creu cymuned gadarn o ffrindiau yn ystod fy amser yn Abertawe, byddwn i'n ystyried bod llawer ohonon nhw'n aelodau o fy nheulu estynedig heddiw.

Rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â fy nghylch ffrindiau, er ein bod yn byw mewn gwahanol ddinasoedd a gwledydd ac, yn achos rhai ohonyn nhw, ar gyfandiroedd gwahanol. Ond dyw hynny ddim wedi ein rhwystro rhag cadw mewn cysylltiad a chreu atgofion newydd gyda'n gilydd y tu hwnt i Abertawe. Rwyf wedi gallu teithio i ddwy briodas ffrindiau cwrddais i â nhw yn Abertawe - sy'n dangos i mi pa mor gryf yw'r cyfeillgarwch gwnaethon ni ei feithrin yn ystod ein hamser gyda'n gilydd.

Oeddech chi'n aelod o gymdeithasau i fyfyrwyr? Wnaethoch chi fanteisio ar unrhyw gyfleoedd eraill?

Wnes i ddim ymaelodi'n swyddogol ag unrhyw glybiau neu gymdeithasau yn ystod fy amser yn Abertawe. Fodd bynnag, roeddwn i'n fyfyriwr llysgennad gweithgar iawn. Drwy fy rôl fel myfyriwr llysgennad, ces i gyfle i gwrdd â phobl newydd, ennill arian ychwanegol a chael profiad ar gyfer fy CV.

Roeddwn i'n cefnogi'r Brifysgol yn ystod diwrnodau agored ac mewn ymgyrch i ffonio darpar fyfyrwyr. Yn ystod y profiadau hyn, roeddwn i'n tywys myfyrwyr o gwmpas y campws ac yn rhoi cyngor iddyn nhw ar sail fy mhrofiad i yn Abertawe.

Wnaeth eich gradd MA mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol?

Do, byddwn i'n dweud ei bod hi wedi fy helpu i gyflawni fy nodau proffesiynol. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar y rhaglen, es i ddim ymlaen yn syth i raglen astudio ôl-raddedig ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig. Es i i weithio yn y sector masnachol am sawl blwyddyn cyn ennill fy ngradd meistr. Ar ôl gweithio mewn marchnata am nifer o flynyddoedd, cyrhaeddais i bwynt yn fy ngyrfa lle roeddwn i am newid fy amgylchiadau'n llwyr.

Ar fy ngradd israddedig, astudiais i farchnata a hysbysebu ac, mewn gwirionedd, dyna beth roeddwn i'n ei wneud yn fy ngyrfa bryd hynny. Fodd bynnag, roeddwn i'n ymddiddori'n fwy yn y croestoriad rhwng marchnata brand a chyfathrebu, yn hytrach na marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus traddodiadol. Felly, gwnaeth astudio am fy ngradd meistr fy helpu i wneud y newid hwnnw. 

Drwy fy rhaglen MA, roeddwn i'n gallu meithrin llawer o'r sgiliau caled a meddal byddai eu hangen arna i am yrfa mewn cyfathrebu a marchnata brand. Rwy'n teimlo bod y cwrs wedi helpu i'm paratoi ar gyfer fy swydd gyntaf ar reng waelod yr ysgol ym maes cysylltiadau cyhoeddus. Yn eich rolau cyntaf, fyddwch chi ddim yn gweithio ar bethau strategol iawn, a byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o’ch amser yn gwneud pethau fel: drafftio datganiadau i'r wasg, ffonio newyddiadurwyr, defnyddio photoshop i addasu dogfennau, golygu fideos etc. Cawson ni gyrsiau am yr holl egwyddorion hynny ac rwy'n teimlo eu bod wedi fy mharatoi'n drylwyr am fyd gwaith.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i fynd ar drywydd gyrfa yn y cyfryngau cymdeithasol?

Erbyn hyn, rwy'n teimlo bod pawb wedi clywed am y manteision a'r cyflogau gwallgof mae'r sector technegol yn eu cynnig ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny. Ces i fy magu yn oes y cyfryngau cymdeithasol, pan ddaeth Myspace, Twitter, Facebook ac Instagram i'r amlwg. Felly, roedd hi'n gwneud synnwyr mynd ar ôl gyrfa yn y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na mewn cwmni technoleg a oedd yn canolbwyntio ar galedwedd neu SAAS.

Allech chi roi eich awgrymiadau gorau i ni am gael swydd yn y cyfryngau cymdeithasol?

  • Y peth cyntaf dylech chi ei wneud yw nodi'r cwmni hoffech chi weithio iddo ac yna dechrau rhwydweithio â gweithwyr y cwmni hwnnw. Mae data LinkedIn yn dangos bod pobl sy'n cael argymhelliad ddwywaith yn fwy tebygol o sicrhau swydd, felly dyna fyddai fy nghyngor cyntaf - sicrhau argymhelliad gan aelod o'r staff.
  • Yr ail gyngor fyddai ysgrifennwch eich CV mewn ffordd sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Rhaid i'ch CV fanylu ar y camau gweithredu gymeroch chi a'r canlyniadau gwnaethoch chi gyfrannu atynt. Dyma fformiwla syml dwi bob amser yn ei ddilyn: 'Roeddwn i'n gyfrifol am neu'n arwain ar x a'r canlyniad oedd x'. 
  • Y trydydd cyngor fyddai gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg a'r cyfryngau cymdeithasol. Dylech chi wybod beth yw'r materion sydd o bwys i'r diwydiant, sut perfformiodd y cwmni sy'n eich gwahodd i gyfweliad yn ystod ei gylch enillion diwethaf, a sut gallwch chi gyfrannu'n benodol at ei ddiwylliant neu ei nodau am y dyfodol. Fel hyn byddwch chi'n fwy credadwy mewn cyfweliad ac mae'n rhoi cyfle i'r staff presennol weld y gwerth unigryw byddwch yn gallu ei gynnig i'r tîm.
  • Yn olaf, byddwn i'n eich cynghori i roi amser i'ch hun. Rydych chi'n annhebygol o gael swydd yn y sector technoleg yn syth ar ôl gadael y brifysgol. Yn enwedig ddim ym macro-amgylchedd heddiw. Mae'r sector technoleg, yn enwedig platfformau cymdeithasol a pheiriannau chwilio fel Google, yn wynebu dirywiad economaidd digynsail, ac mae llawer o'r cwmnïau mawr yn cael gwared â swyddi.  Fydd hyn ddim yn para am byth, felly byddwn i'n eich cynghori i gael profiad mewn sectorau sy'n tyfu, ac wedyn dilyn yr awgrymiadau roddais i uchod, i gael eich rôl yn y sector technoleg pan fydd y sefyllfa'n gwella.

Dywedwch wrthym am eich rôl bresennol yn Instagram, allwch chi ddisgrifio diwrnod arferol?

Mae pob dydd yn wahanol. Yn aml bydda i'n gweithio ar sawl prosiect gwahanol ar yr un pryd, sy'n golygu gweithio gyda nifer o dimau a rhanddeiliaid gwahanol. Byddwn i'n dweud bod diwrnod arferol yn cynnwys drafftio llawer o e-byst, mynd i sawl cyfarfod mewnol, cwrdd â phartneriaid allanol yn rhithwir neu wyneb yn wyneb, llunio cynllun cyfathrebu a datganiadau i'r wasg, gweithio gyda phobl sy'n creu cynnwys i'r cyfryngau cymdeithasol etc. Weithiau bydda i'n teithio i ddigwyddiadau mewn gwledydd neu ranbarthau penodol. Felly, mae pob dydd yn wirioneddol wahanol, ond gallwch chi warantu y bydda i'n gwneud o leiaf dri o'r pethau gwnes i eu rhestru ar unrhyw ddiwrnod.

Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yn hyn?

Dwi ddim yn siŵr mod i wedi cyrraedd gwir uchafbwynt yn fy ngyrfa eto. Ond un o'r pethau sy’n achosi’r balchder mwyaf i mi o'r flwyddyn galendr ddiwethaf oedd lansio rhaglen i grewyr ar gyfer Meta o'r enw 'Creators of Tomorrow'.

Dechreuodd fel syniad bach yn fy mhen ond yn y diwedd cafodd ei lansio mewn 15 gwlad yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Aethon ni ymlaen i ehangu’r rhaglen i dair tiriogaeth arall: Gogledd America, America Ladin ac Asia a'r Môr Tawel. Datblygodd i fod yn ymgyrch wirioneddol fyd-eang, ac un o'r ymgyrchoedd cyntaf ar raddfa eang ar gyfer Meta.

Dywedwch wrthym am rywbeth hoffech chi ei gyflawni yn y dyfodol.

Un o fy nodau gyrfa yw arwain tîm neu adran fawr. Mae gen i lawer o sgiliau a fyddai'n fy ngwneud yn arweinydd gwych yn fy marn i, ond un o'r cryfderau mwyaf sydd gen i, a fydd yn gwireddu'r nod hwn, yw empathi. Mae'n rhaid i chi feddu ar empathi a thrugaredd i fod yn arweinydd rhagorol yn fy marn i. Mae'n rhaid i chi wneud ymdrech i wrando ar eich tîm fel eich bod wir yn deall eu profiadau a'u safbwyntiau. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniadau strategol a'u rhoi ar waith â thrugaredd.

Os ydych chi'n arweinydd ac yn meddu ar y sgiliau hyn, dwi'n credu y byddwch yn rheolwr da ond ar ben hynny, byddwch yn hyfforddwr da sy'n gallu cynorthwyo eich tîm i ddatblygu. Mae gen i brofiad o fod yn hyfforddwr ac mae hyn wedi fy ngalluogi i feithrin llawer o'r sgiliau hyn. Nawr dwi'n aros am y cyfle i allu eu defnyddio yn yr amgylchedd newydd hwn.