"Mae Abertawe wedi bod gymaint yn fwy na sefydliad academaidd yn unig i mi; mae wedi rhoi cartref, cymuned a theulu i mi. Dwi wrth fy modd yn cael aros yn y Brifysgol a dwi’n llawn gobaith am y dyfodol. Mae Prifysgol Abertawe wedi fy helpu i wireddu breuddwydion doeddwn i byth yn meddwl eu bod yn bosib."

Bronwen Winters

Pan oedd Bronwen Winters, sy’n fyfyriwr Astudiaethau Americanaidd, yn mynd drwy gyfnod anodd, doedd dim rhaid iddi roi’r gorau i’w hastudiaethau diolch i Gronfa Caledi’r Brifysgol. Roedd Bronwen wedi goresgyn llawer o rwystrau i gyrraedd y Brifysgol. Ar ôl bod mewn gofal am y rhan fwyaf o’i bywyd a symud cartrefi dros 30 o weithiau, roedd hi’n wynebu trawma arall pan wrthododd ei banc gynnig gorddrafft iddi.

Diolch i gefnogaeth y tîm Bywyd Campws a’r Cronfeydd Caledi, llwyddodd Bronwen i sicrhau lle mewn llety diogel ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Meddai Bronwen:

“Gwnaeth yr arian a’r gefnogaeth fy ngalluogi i wneud llawer mwy yn fy mywyd nag roeddwn i’n disgwyl.”

Yn ogystal â gwrthod gadael i’r anawsterau ei llethu, daeth Bronwen yn llysgennad ar gyfer ymgyrch Ymestyn yn Ehangach – sefydliad sy’n helpu pobl ifanc o gefndiroedd llai traddodiadol i oresgyn rhwystrau. A hithau’n ymgyrchydd brwd, mae Bronwen hefyd wedi cymryd rhan yn ymgyrchoedd ffonio blynyddol y Brifysgol i godi arian ar gyfer myfyrwyr sy’n wynebu’r un heriau â hi. Ychwanegodd:

“Gwnaeth y gronfa achub fy nyfodol – taswn i wedi cael fy ngorfod i adael y Brifysgol, fyddai ddim wedi bod unrhyw ffordd yn ôl. Mae hyn yn gyfle i mi roi’n ôl mewn ffordd ystyrlon.”

Gwnaeth Bronwen yn rhagorol yn ei gradd Astudiaethau Americanaidd ac mae’n edrych ymlaen at ddechrau ei gradd Meistr mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym mis Medi. Yn anffodus, mae llawer o fyfyrwyr â straeon tebyg i un Bronwen, ac mae 700 o fyfyrwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn cyflwyno cais i’r Gronfa Caledi. Gallant helpu i ddarparu cymorth ar gyfer pethau fel bwyd, biliau, llyfrau, offer, llety a gofal plant. Gwerthfawrogir pob cyfraniad a bydd yn darparu cymorth ariannol hanfodol i bobl fel Bronwen.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch Cronfa Galedi Myfyrwyr ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.