Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i’r actores a chyn-fyfyrwraig raddedig o Brifysgol Abertawe, Annabelle Apsion.

Cyflwynwyd y wobr i Ms Apsion ar Ragfyr 18, 2019, yn seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Cafodd Ms Apsion ei geni yn Llundain, ei haddysgu yn Guilford ac Oakham, a mynd i goleg chweched dosbarth yn Godalming, Surrey.  Ceisiodd ddod o hyd i le gogleddol a diwydiannol mewn cyferbyniad â'r ardal geidwadol yn Surrey lle’r oedd yn byw, ond fe ddaeth i Brifysgol Abertawe, a thyfodd i'w charu, gan ddisgrifio Abertawe fel 'lle i iacháu go iawn'.

Ar ôl gollwng Rwsieg, gadawodd am gyfnod i astudio coreograffi yn Middlesex ond dychwelodd yn fuan i Abertawe, gan raddio mewn Saesneg a Drama.  Yn ystod ei hamser yma, cyfarfu â ffrind gydol oes, Catherine Carnie, a gyfarwyddodd berfformiadau cynnar Annabelle ac aeth gyda hi, ar ôl graddio, i gyfarwyddo’i pherfformiadau llwyfan yng Nghaeredin.

Cychwynnodd ei gyrfa gyda’r rolau teitl mewn cynyrchiadau ar gyfer Shared Theatre Group, megis y Bacchae, the Heartbreak House, ac Anna Karenina.   Perfformiodd yn nrama Richard III yn yr RSC yn Stratford upon Avon a gyfarwyddwyd gan Sam Mendes, a Chekhov the Seagull yn yr Old Vic, Bryste.

Yn 1996, serennodd yn Hillsborough, y ddrama bwerus am drychineb Hillsborough pan gollodd 96 o gefnogwyr pêl-droed eu bywydau.

Annabelle Apsion ar y diwrnod cafodd radd Anrhydeddus.

"Rwy'n ddiolchgar am byth am y cyfle hwnnw ac felly rwy'n falch o fod yn ôl a gweld Abertawe fel y mae heddiw."

Ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd Ms Apsion: "Rwy'n edrych ymlaen at ymweld yn fawr a gweld sut mae Abertawe'r dref ac Abertawe’r Brifysgol wedi datblygu ers i mi fod yno ddiwethaf ryw 35 mlynedd yn ôl! Roeddwn i bob amser yn meddwl y byddwn i'n byw yn Abertawe.  Yr unig reswm symudais i Lundain oedd er mwyn ceisio dod yn actores - cam angenrheidiol ar y pryd yn fy marn i.

Cysylltodd Abertawe fi â harddwch amrwd natur, yn ogystal ag addysg uwch, a chymdeithas gyfeillgar o bobl.  Roedd yn fan lle aeddfedais a thyfu i fyny ychydig. Rwy'n ddiolchgar am byth am y cyfle hwnnw ac felly rwy'n falch o fod yn ôl a gweld Abertawe fel y mae heddiw. "