Alun Baker

alun baker

Ar Weinydd Busnes Ac Entrepenueur

Mae gan Alun Baker dros 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu a thrawsnewid cwmnïau technoleg megis Oracle, Merrill, ac Accenture. Sefydlodd hefyd y rhwydwaith cymdeithasol Gyrfaoedd a Mentora cyntaf, When You Grow Up neu WYGU. Fel Prif Swyddog Gweithredol y cwmni seiberddiogelwch, Clario, mae Baker yn canolbwyntio ar chwyldroi ac arloesi diwydiant cyfan sydd wedi’i nodweddi ar hyn o bryd gan negeseuon ar sail technoleg gymhleth sy’n ysgogi ofn a dryswch yn y farchnad defnyddwyr. Wrth i’n bywydau digidol ddatblygu, mae’n credu bod angen amddiffynnydd ar ddefnyddwyr mewn diwydiant seiberddiogelwch sy’n rhy gymhleth. Mae’n cefnogi tîm rygbi Cymru’n frwdfrydig ac mae’n cadw’n heini drwy fynd i’r gampfa ac mae’n edrych ymlaen at sgïo bob gaeaf.

Dywedwch wrthym am eich amser yn y Brifysgol?

Mae’n swnio’n ystrydebol i ddweud hyn, ond roedd bod yn Abertawe’n un o’r amserau gorau yn fy mywyd. Fi oedd yr un cyntaf yn fy nheulu i fynd i brifysgol felly, pan gyrhaeddais i Abertawe, roeddwn i’n camu  i fyd anghyfarwydd ac roeddwn i’n teimlo’n ofnus ac yn gyffrous ar yr un pryd. Ond oherwydd yr ymdeimlad unigryw o gymuned ac annibyniaeth yn y Brifysgol, roedd fy mhrofiad yn werthfawr. 

Beth yw eich atgof diffiniol o astudio yma?

Fyddwn i ddim yn dweud bod un foment benodol a ddiffiniodd fy astudiaethau yn Abertawe. Roedd y newid o’r ysgol i’r brifysgol yn sioc i ddechrau, ond roedd sylweddoli fy mod yn cael fy nysgu gan ddarlithwyr a oedd yn arweinwyr yn eu meysydd hwy’n un foment a wnaeth i mi werthfawrogi fy mhenderfyniad i fynd i Abertawe. Rwy’n cofio mynd i fy narlith gyntaf yn Economeg, yr Athro Ted Nevin oedd y darlithydd ar y pryd, a derbyn y rhestr ddarllen; roedd enw’r Athro Nevin yn un o’r enwau cyntaf ar y rhestr a sylweddolais i fy mod i’n gwrando ar arweinydd mewn maes yr oeddwn ni’n frwdfrydig amdano.

Dywedwch wrthym am eich profiadau ers gadael y Brifysgol?

Pan adawais i’r Brifysgol, doeddwn i ddim yn siŵr am fy llwybr gyrfa i ddechrau. Ymunais i â chynllun graddedigion yn Marconi ac, er fy mod i wedi ennill sgiliau sydd wedi fy nhywys drwy gydol fy ngyrfa, doedd hyn ddim yn hynod wobrwyol i mi. Fodd bynnag, gwnaeth y cynllun hwn agor fy llygaid i’r byd technoleg a’r posibiliadau di-ri yr oedd yn eu haddo yn y 90au cynnar a’r 2000au. Gwelais i’r cyfle ac es i amdano; dechreuais i werthu caledwedd a meddalwedd, gan ddringo drwy’r rhengoedd yn gyflym.

Mae gweithio yn Oracle, Tibco, Accenture, a nawr Clario, wedi fy nghyflwyno i dimau a dulliau gweithio gwahanol a rhywbeth rwyf wedi dysgu a sylweddoli am fy hun yw’r ffaith fy mod i’n frwdfrydig am fentora a datblygu doniau. Mae ein cwmni, Clario, bellach yn cyflogi nifer fawr o raddedigion ifanc ac mae’r ymdeimlad o drosglwyddo gwybodaeth yn rhywbeth sy’n cynnal fy nghymhelliad a’m brwdfrydedd am arwain cwmni. 

Rhannwch eich doethineb â ni. Pa gyngor sydd gennych i’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr ifanc sydd wedi graddio’n ddiweddar?

Fy nghyngor i unrhyw un sydd yn y Brifysgol ar hyn o bryd neu sydd wedi graddio’n ddiweddar o Abertawe, yw ceisio deall y byd gwaith hyd eithaf eich gallu cyn i chi ymuno ag ef.

Ehangwch eich profiad, boed drwy weithio bob dydd Sadwrn neu drwy wneud interniaeth yn ystod yr haf. Mae profiad yn dweud cyfrolau; mae’n dangos i gyflogwyr yn y dyfodol eich awydd i weithio ac yn cadarnhau eich ethig gwaith. Ar ben hynny, bydd ehangu eich gorwelion ac ennill profiad mewn amgylchedd gwaith o fudd mawr i chi ar gyfer eich ymdrechion yn y dyfodol.

Unrhyw beth arall?

Mae gan bob prifysgol ei diwylliant ei hun, ond mae gan Abertawe ymdeimlad cryf o gymuned ac mae’n cynnig profiad unigryw a phwrpas. Mae Abertawe, fel y rhan fwyaf o brifysgolion, yn bair o gefndiroedd a diwylliannau; gwnewch yn fawr o’r cyfle hwn i ddod i adnabod pobl a deall y gwahaniaethau a’r tebygrwydd arbennig rydym i gyd yn eu rhannu, sy’n cynnwys awydd am ddysgu ynghyd ag awydd am y cwrw lleol! Mae’r gallu i rwydweithio ac ehangu eich dealltwriaeth o bobl a sgiliau cyfathrebu ymysg y pethau mwyaf gwerthfawr y byddwch yn eu hennill o ganlyniad i’ch profiad yn y Brifysgol, a gallant fod y rhai mwyaf gwerthfawr yn eich gyrfa yn y dyfodol.