Yr Athro Fonesig Carol Robinson

MSc Cemeg. Blwyddyn Graddio 1980. Llywydd Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Mae'r Athro Fonesig Carol Robinson yn dal Cadair yr Athro cemeg Dr Lee ym Mhrifysgol Rydychen. Mae hi'n adnabyddus am ddefnyddio sbectrometreg màs i ehangu ei hymchwil i strwythur 3D proteinau a'u cymhlygion.

Mae uchafbwyntiau diweddar ei gwaith yn cynnwys darganfod y gellir rhyddhau cymhlygion protein pilenni o fiselâu yn y cyfnod nwy wrth gadw eu rhyngweithiadau is-uned, priodweddau rhwymo lipid a thopoleg gyffredinol.

Mae ei hymchwil wedi denu gwobrau rhyngwladol gan gynnwys y Fedal Frenhinol gan y Gymdeithas Frenhinol, gwobr Novozymes 2019, Gwobr Anfinsen gan y Gymdeithas Brotein a gwobr Medal Davy a Rosalind Franklin gan y Gymdeithas Frenhinol.

Carol yw Llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac mae hi'n gydymaith tramor i Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA. Mae ganddi naw doethuriaeth er anrhydedd a chafodd DBE yn 2013 am ei chyfraniad i wyddoniaeth a diwydiant.