Andy Hopper yw Athro Technoleg Gyfrifiadurol Prifysgol Caergrawnt ac mae’n un o sefydlwyr Acorn Computers. Cawson ni sgwrs gydag ef i’w holi am ei amser yn Abertawe a’i yrfa hyd yn hyn.

Dwi’n meddwl y byddai’n deg dweud bod cyfrifiaduron wedi cael dylanwad mawr ar eich bywyd. Allwch chi siarad ychydig am hynny?

Roedd Abertawe’n cynnig cwrs a oedd yn hynod dda i mi a’r myfyrwyr eraill achos, ar y pryd, roedd yn rhagweld pa mor bwysig fyddai cyfrifiaduron yn y byd yn y dyfodol. Enw’r cwrs oedd Technoleg Gyfrifiadurol. Digwyddais i ei astudio am resymau bydda i’n eu hesbonio, ond gwnaeth y cwrs hwnnw lywio fy ngyrfa gyfan. Beth oedd yn arbennig am y cwrs (cafodd ei gynnig am y tro cyntaf ym 1970 a dechreuais i ei astudio ym 1971) oedd ei fod yn cyfuno cyfrifiadureg ag electronig ac roedd yn cynnwys cyfrifeg ac economeg hefyd. Cyfrifiadureg oedd y brif elfen ac roedd cyfrifeg ac economeg yn elfennau ategol.

Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae pawb yn siarad yn ddi-baid am Arloesi a Menter, ond roedd y cwrs hwnnw’n rhagweld y dyfodol. Meddyliwch amdani, roeddech chi’n dysgu rhywbeth am feddalwedd gyfrifiadurol, roeddech chi’n dysgu rhywbeth am electroneg, roedd y microbrosesydd newydd ddod i’r amlwg, felly yn hytrach na bod yn rhywbeth allan o gyrraedd, roedd cyfrifiaduron yn rhywbeth roeddech chi’n gallu cael gafael arnyn nhw. Roedd meddalwedd, electroneg a chyfrifiadura ymarferol. Roedd Economeg yn ymdrin ag ochr ehangach pethau ac roedd cyfrifeg yn eich helpu i ddeall mantolen. Felly, meddyliwch am hynny. Dyma sut mae’r byd yn gweithio. Mae’r gîcs fel fi wedi ennill. TG yw diwydiant mwyaf y byd, ni sy’n rhedeg cwmnïau mwyaf y byd, y cwmnïau mwyaf gwerthfawr, y diwydiannau mwyaf a phopeth arall. Ym 1971, dechreuais gwrs a oedd â hyn i gyd wrth ei wraidd. Mae hynny’n rhywbeth anhygoel. Cafodd hynny ddylanwad mawr ar fy ngyrfa wedyn achos rhoddodd i mi’r sgiliau technegol ar yr un llaw a gwnaeth fy helpu i ddod yn gyfarwydd â’r ochr ariannol hefyd.

O safbwynt personol, dwi’n Athro Technoleg Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn yr Adran Cyfrifiadureg a Thechnoleg (newidiais i’r enw pan oeddwn i’n Bennaeth yr Adran). Dyna’r un enw â’r cwrs wnes i yn Abertawe, Technoleg Gyfrifiadurol. Mae’r enw’n deillio o ddyddiau cynnar cyfrifiadura yn y 40au a’r 50au. Doeddwn i ddim yn gwybod hyn ym 1971, ond wrth feddwl am y clwstwr yma, teitl fy swydd ac enw’r adran ym Mhrifysgol Caergrawnt, maen nhw’n gysylltiedig â’r amser dreuliais i ym Mhrifysgol Abertawe.

“Yn ystod y cyfnod pan oeddwn i yn Abertawe, roedd llawer o ryddid mewn addysg ac roedd Abertawe’n eithaf arloesol, mewn ffordd dda. A dau berson yn benodol sy’n gyfrifol am hynny. Athro Peirianneg Drydanol o’r enw William Gosling – ei syniad ef oedd cynnig y cwrs - a dyn a gafodd ei recriwtio ganddo o Brifysgol Manceinion - David Aspinall a ddaeth yn Athro a chafodd ei recriwtio i arwain y cwrs yn Abertawe. Roedd gan Gosling lawer o gysylltiadau â diwydiant ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol cwmni o’r enw Plessey

A oedd yn ymwneud ag electroneg, amddiffyn a thelegyfathrebu. Roedd yn gyfarwydd iawn, drwy ei waith, ag ochr ddiwydiannol pethau ac, wrth gwrs, i mi roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr oherwydd dyna rywbeth dwi wedi’i wneud yn fy ngyrfa oddi ar hynny. Mae fy ngyrfa wedi bod ag ochr academaidd a diwydiannol ar yr un pryd.”

Sut daethoch chi i Abertawe?

Tri rheswm. Pwyliad ydw i o ran genedigaeth a ches i fy magu’n siarad Pwyleg. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn y DU, yn fy arddegau byddem yn treulio rhai o’n gwyliau haf ar fferm yn Llanybydder yng ngorllewin Cymru. Roedd rhai ffermwyr Pwylaidd wedi ymgartrefu yno ar ôl y rhyfel a threuliais i ambell haf yno, felly gwnaeth hynny greu cysylltiad â Chymru i mi. Yn ail, doeddwn i ddim wedi gwneud yn dda iawn yn yr ysgol (mae’r DU yn wahanol iawn i Wlad Pwyl), felly awgrymodd ffrind i’r teulu efallai y byddai’r busnes cyfrifiadura yma’n ddiddorol, ac yn drydydd, roeddwn i wedi gwneud cais am leoedd ym Manceinion ac Abertawe, ond doedd fy ngraddau ddim yn ddigon da i fynd i Fanceinion. Dwi ddim yn meddwl y ces i’r graddau ar gyfer Abertawe chwaith, ond gwnaeth Aspinall fy nerbyn serch hynny.

"Gwnaeth y brifysgol fy nghefnogi’n dda yn yr ystyr ehangach – yn y pwnc technegol ac yn fy mywyd cymdeithasol hefyd."

Beth yw eich hoff atgofion o Abertawe?

“Ces i amser gwych. Gwnaeth y brifysgol fy nghefnogi’n dda yn yr ystyr ehangach – yn y pwnc technegol ac yn fy mywyd cymdeithasol hefyd. Roedd y lleoliad yn hyfryd hefyd. Roeddwn i’n lwcus i fod yn berchen ar hen racsyn o gar. Drwy lanhau ffenestri, llwyddais i gynilo ychydig o arian i brynu Triumph Herald a oedd wedi gweld dyddiau gwell felly roedd gen i gerbyd, a oedd yn anarferol i fyfyriwr ar y pryd. Manteisiais i i’r eithaf arno, i fynd ar deithiau i benrhyn Gŵyr a lleoedd eraill. O safbwynt deallusol, gwnes i’n eithaf da ym mhopeth ar ôl dod i Abertawe heb wneud yn dda iawn yn yr ysgol. Roedd y bywyd cymdeithasol yn dda iawn a ches i gyfle i roi cynnig ar syrffio drwy glybiau chwaraeon y Brifysgol ac roedd byrddau syrffio gennym.  Car codi to oedd y Triumph Herald, felly byddwn i’n clymu’r bwrdd syrffio ar draws y to a bant â ni. Roeddwn i’n sgïwr gweddol hefyd a ches i gyfle i fynd ar deithiau sgïo gyda phrifysgolion eraill i’r Alban ac yn y blaen.

Ar ôl graddio, aethoch chi i Brifysgol Caergrawnt. Sut digwyddodd hynny?

Wel, dyma enghraifft arall o sut mae’r darnau yn cwympo i’w lle mewn bywyd. Roeddwn i’n hoffi sgïo ac roedd gen i ddiddordeb mewn astudio pellach a’r byd academaidd, er nad ydw i’n academydd safonol o bell ffordd. Roeddwn i eisiau gwneud PhD ac roeddwn i eisiau mynd i sgïo. Anfonais i gais i EPFL yn Lausanne ac un i Brifysgol Grenoble ond ches i ddim ateb nac unrhyw fath arall o gyfathrebu oddi wrthyn nhw felly wnaeth hynny ddim gweithio.

Roedd yr Athro Aspinall yn ’nabod cwpwl o fechgyn yng Nghaergrawnt a dywedodd ef pam na wnewch chi gais fanna. Felly, bant â fi yn fy hen Triumph Herald. Roedd hi’n ganol mis Gorffennaf a dyma fi’n cerdded i mewn a ches i gyfweliad. Dwi’n meddwl i mi wneud yn weddol dda, a dwi’n ei gofio o hyd, dywedon nhw “beth hoffech chi ei wneud?” ac atebais i “Dwi ddim yn siŵr, dwi’n hoffi adeiladu pethau a dwi’n hoffi electroneg”. Gofynnon nhw i mi beth oedd fy mhrosiect a dwedais i ei fod yn ymwneud â microbrosesyddion a’r diwrnod nesaf, ces i alwad ffôn a gwnaethon nhw gynnig lle i mi.

Clywais i wedi hynny fod rhywun arall wedi canslo ar y funud olaf a fi oedd y person nesaf ar gael, felly roedden nhw’n gallu bodloni telerau’r grant a chael yr arian ymchwil. Mis Gorffennaf oedd y dyddiad cau ar gyfer yr arian ymchwil. Roedd yn grant SRC, rhagflaenydd yr EPSRC, felly roedd rhaid i mi yrru’n ôl ac ymlaen rhwng Abertawe a Chaergrawnt i gyflwyno’r holl waith papur yn bersonol, er mwyn cael lle ar y cynllun grant a dyna sut digwyddais i wneud PhD yng Nghaergrawnt ar ôl Abertawe.

Fel rhywun sydd wedi sefydlu sawl menter, o ble daeth y syniadau am eich busnesau? Oedden nhw bob amser yn eich pen neu gawson nhw eu hysbrydoli gan eich gwaith academaidd?

Ddaeth fy syniadau busnes ddim o‘r gwaith academaidd yn bendant. “Dwi ddim yn meddwl bod y byd academaidd ac ymchwil academaidd o angenrheidrwydd yn arwain at fusnes ar eu pennau eu hunain.  Mae hynny’n gamsyniad cyffredin yn y system.  Dwi ddim erioed wedi defnyddio rhywbeth o brifysgol yn unrhyw un o’m busnesau, doedd dim angen. Nid dyna’r ffordd mae’n gweithio’n ymarferol. Dim ond rhywbeth mae’r llywodraeth yn ei ddefnyddio i roi prifysgolion dan y lach yw hynny a gobeithio y bydd yn newid.

Mae’n rhaid i chi fod yn yr amgylchedd iawn ac roedd gan Gaergrawnt ddiwylliant ac amgylchedd o adeiladu pethau sy’n ymarferol, yn ogystal â phethau eraill. Roedd yn rhan o’r DNA yno. Roedd fy ngradd PhD yn ymarferol iawn. Roeddwn i’n rhan o brosiect mwy a oedd yn ymwneud â rhwydwaith cyflymder uchel (roedd hyn cyn yr ether-rwyd). Roedd ether-rwyd yn dechrau dod i’r amlwg ac roedd gennym brosiect cystadleuol o’r enw Cambridge Ring a chyfrannais i ato. Dechreuodd nifer o gwmnïau fasnacheiddio hynny ac roedd gen i rôl fach yn y broses, felly dydw i ddim yn hollol gywir wrth ddweud nad oedd dim byd yn dod o waith Prifysgol ond roedd yn agored i bawb, doedd dim sôn am drwyddedau na dim byd felly. Ond serch hynny, roedd yn amlwg i mi, yn y dyddiau cynnar hynny, fod cymwysiadau ymarferol gan y gwaith roeddwn i’n ei wneud – cynhyrchu a dylunio sglodion ar gyfer rhwydweithiau lleol. Mae gan yr adran (a dwi’n falch o ddweud y bues i’n Bennaeth yr Adran honno am 14 o flynyddoedd, tan ddwy flynedd yn ôl) ddiwylliant cryf o gefnogi cydweithrediad â diwydiant.

Yn y dyddiau hynny – ac i ryw raddau, mae hynny’n wir o hyd – roedd yr ochr ddiwydiannol yn cael ei hannog. Doedd dim angen cyfiawnhau hynny a doedd dim cyfyngiadau o gwbl. Drwy gael profiad diwydiannol, a chael eich annog i wneud hynny, a chael Pennaeth Adra sy’n deall eich bod yn rhan o bortffolio, rydych chi’n cyflawni mewn ystyr ehangach na nifer y papurau rydych chi wedi’u cyhoeddi. Dyw’r trosglwyddo llinellol o brifysgolion ddim yn gweithio yn fy mhrofiad i, nid dyna waith prifysgolion, nid dyna eu blaenoriaeth nhw, ydyn, maen nhw’n gwneud hynny ar yr ymylon, ond maen nhw’n hyfforddi pobl, mae nhw’n rhoi cyd-destun i chi o’r llinell ymchwil academaidd ehangach. Aeth fy mhlant i’r brifysgol a dwi wrth fy modd bod pobl wedi eu haddysgu’n dda.  Mae hynny’n dda, mae’n bwysig! Mae pethau pwysicach na rhagoriaeth ymchwil a dwi ar y brig yn fy adran a dyma fy sgôr REF ac yn y blaen.  Felly, yn y dyddiau hynny, roedd symud rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn llawer haws na heddiw. Roeddwn i’n gallu gwneud pethau’n ddiwydiannol a fanteisiodd ar y rhyddid hwnnw, nid mewn ffordd linellol, ond roedd yn gysylltiedig â’r brifysgol am resymau ehangach a oedd yn ymwneud â chefndir, recriwtio, prototeipiau rhywbeth newydd neu arddangosiadau a fyddai’n tanio syniadau neu beth bynnag.

“Felly, dechreuodd yr holl gwmnïau’n annibynnol a deilliodd y syniadau amdanynt o gefndir gwaith arall, yn hytrach nag o’r Brifysgol. Datblygiad pwysig sy’n uniongyrchol berthnasol i hyn yw’r cwmni ARM. Felly, stori ARM, ARM cynnar iawn, nid yr ARM diweddarach – pam mae ARM yn bodoli? Pam mae yn y wlad hon? O ble daeth ef? Helpais i i greu’r dechnoleg a chredaf fod y fersiwn hon o ddigwyddiadau’n gywir. Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn Acorn ar y pryd ac roeddwn i yn y brifysgol ar yr un pryd. Roedd hyn ar ddechrau’r 1980au ac roedden ni wedi gwneud yn eithaf da gyda’r BBC Micro a oedd yn cynnwys sglodion a ddaeth o fy nghefndir yn y brifysgol, ond yr wybodaeth sy’n bwysig, nid y sglodion. Felly, ARM yw Acorn RISC Machines a RISC oedd cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer y cyfrifiadur. Nid ni ddyfeisiodd hynny, cafodd ei ddatblygu ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.  Mae’n dechnoleg a gafodd ei throsglwyddo o’r UD a daeth hynny drwy’r ochr academaidd, nid drwy’r ochr ddiwydiannol. Fi sylwodd ar hynny, yn gwisgo fy het academaidd a thrwy ’nabod pobl yn y byd academaidd a oedd yn dweud “hei edrychwch ar hyn, mae’n ddiddorol, dewch i siarad amdano!” Dyna sut mae’r byd academaidd yn gweithio. Dyna sut daeth i’m sylw i a meddyliais i “ie, mae hynny’n rhywbeth diddorol ac yn ymarferol hefyd.” Ar y pryd, roedd gen i rai cyn-fyfyrwyr PhD, rhai yn yr UD. Dywedais i wrthyn nhw am fynd i Berkeley i gael cipolwg a dod yn ôl a rhoi eu barn amdano i mi. Daethon nhw yn ôl a dweud bod rhywbeth o werth yno, mae’n ddiddorol, gallwch adeiladu arno, microbrosesydd yw ef, mae ganddo hyn a hyn o baramedrau ac yn y blaen. Felly, maen nhw’n ôl ac maen nhw’n ymuno â’r cwmni yn syth. Does dim rhaid dilyn y llwybr academaidd lle mae’n rhaid i chi ysgrifennu papur a gweithio dan bwysau achos bod y REF yn nesáu. Anghofiwch am hynny. Maen nhw’n ôl  mewn cwmni sy’n ddigon mawr i ddatblygu’r syniad. Mae’r cwmni, Acorn, wedi cynhyrchu sglodion o’r blaen, mae’r cysylltiadau ariannol gyda nhw i ddechrau cynhyrchu a’r haerllugrwydd a’r hyder i’w wneud. Siaradais i â’m partner, y Prif Swyddog Gweithredu, Hermann Hauser am y syniad a dywedodd ef “Awn amdani. Rydyn ni wedi cyflogi rhai myfyrwyr PhD gwych o’r Brifysgol a gallan nhw weithio arno”. Ar yr ochr ariannol, roedd Acorn wedi troi’n gwmni cyhoeddus, felly am sbel, byddwn i’n teithio ar hofrennydd ar fusnes y cwmni a’r holl nonsens felly. Ond doedd y prosiect ddim yn enfawr. Rhan o’r rheswm pam cafodd sglodyn ARM ei ddylunio fel hynny oedd diffyg arian, roedd rhaid iddo fod yn economaidd ac ynni-effeithlon a phopeth. Doedden ni ddim i gyd yn athrylithoedd yn dyfeisio’r syniadau gwych hyn ar gyfer 30 mlynedd yn y dyfodol. Y cyd-destun oedd ein sbardun. Mae angen yr elfennau hynny arnoch chi, arian, diwydiant a’r byd academaidd. Felly, mae fy nghwmnïau i gyd wedi datblygu ar hyd y llinellau hynny, o leiaf o ran y dechnoleg. Dwi wedi sefydlu 13 cwmni i gyd, doeddwn i ddim yn bwriadu gwneud hynny ond dyna sut digwyddodd.  Wnes i ddim dechrau fy mywyd yn dweud mod i’n mynd i sefydlu cyfres o fusnesau. Mae’n anodd a chi’n dod ar draws rhwystrau lle rydych chi rhwng dau le, ac eto mae’n dod yn ôl i’r cwrs hwn yn Abertawe, yr arian, y diwydiant (pwy yw eich ffrindiau, pwy yw eich gelynion, sut siâp sydd ar y parêd, sut rydych chi’n ffitio, beth rydych chi’n ei wneud, gyda phwy rydych chi’n ffurfio partneriaeth, y cynnyrch ac yn y blaen) ac yna’r ochr academaidd; ar gyfer pobl, ar gyfer ehangder deallusol, ar gyfer cysylltu pobl ledled y byd a dyna chi. Dyna sut mae clwstwr Caergrawnt wedi tyfu. Fel hynny mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau wedi tyfu.

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rai o’ch myfyrwyr entrepreneuraidd presennol sy’n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain?

Mae hynny’n gwestiwn anodd. Bydda i’n swnio ychydig yn bwyllog achos fydda i ddim yn dweud ewch amdani, peidiwch ag oedi, pob lwc. Byddwn i’n dweud, gan bwyll, byddwch yn gall a gwnewch yn siŵr bod yr elfennau, - boed hynny’n dechnoleg, eich partneriaid, yr arian neu’r cynnyrch - yn debygol o helpu yn hytrach na’ch rhwystro. Ac yn ail, mae’n debyg y byddwch yn sefydlu nifer o gwmnïau, o leiaf mwy nag un, felly peidiwch â mynd dros ben llestri os nad yw pethau’n gweithio’n union fel roeddech chi wedi cynllunio. Anghofiwch amdano ac ymlaen i’r un nesaf. Yn y bôn, beth dwi’n ei ddweud yw, os yw rhywun yn gofyn am 50%, dwedwch wrtho am fynd i grafu ac ewch amdani beth bynnag, hebddo. Mae angen yr elfennau  iawn i lwyddo. Doeddwn i ddim yn entrepreneur i’r carn, does gen i ddim syniad beth dwi’n ei wneud heddiw, heb sôn am bryd hynny, pwy sy’n gwybod sut mae’r pethau hyn yn digwydd.

"...mae’r realiti’n well na hyd yn oed ein breuddwydion mwyaf gwyllt."

Roeddech chi ar flaen y gad ym maes cyfrifiadura yn y DU. Disgrifiwyd Acorn fel Apple Prydain. Sut profiad oedd bod yn y sefyllfa honno ar y pryd?

Wel, ar y pryd roedd y sefyllfa’n teimlo’n gystadleuol iawn o hyd. Roedd cwmni bach o’r enw Apple, roedd cwmni bach o’r enw Intel. Felly wrth ddechrau’r prosiect microbrosesydd mewn cwmni o’r enw Acorn a’r prosiect ARM, roeddem yn ymwybodol bod Intel (a gynhyrchodd y microbrosesyddion roeddwn i’n eu defnyddio yn Abertawe ym 1971/1972) yn un o’r cewri. Nhw oedd ein cystadleuwyr.

Yn ail, roedd y llwybr cyflymach, rhatach, gwell yn glir a doedd dim llawer o fusnesau eraill yn y farchnad chwaith felly, er ei bod hi’n gystadleuol, roedd craffter yn bwysig.  Roedd y busnes cyfathrebu drwy fideo, Zoom, Skype etc, o gwmpas 30 o flynyddoedd yn ôl, doedd dim angen naid ddychymyg ar beirianwyr weld hynny. Ond y craffter i benderfynu pa mor bell dylen ni wthio’r dechnoleg, dyna graffter cynnil nad oes gan lawer o bobl. Felly, mae angen y craffter hwnnw i benderfynu pa mor bell i fynd â’r peth nesaf, digon gwallgof ond ddim yn rhy wallgof fel na fydd pobl eraill yn gallu neidio gyda chi. Felly, p’un a ydych chi’n sôn am rwydwaith cyflymach, gwell sglodyn ar gyfer cyfrifiadur neu ffrydio amlgyfrwng, craffter sy’n bwysig. Mae llun ohono i’n defnyddio system ym 1990 a oedd â phost fideo, cynadledda fideo, sawl gwe-gamera a phob math o bethau fel hynny. Y ffaith roedden ni’n gallu ei adeiladu, roedd y dechnoleg yno ond roedd hi ychydig yn rhy gynnar i bobl. Mae fel cogydd sy’n gwybod pa sbeisys sy’n cyd-fynd, mae’n edrych ar ei gwsmeriaid, yn gwybod beth maen nhw’n ei hoffi, felly mae’n addasu’r rysáit.  Felly, roedden ni’n gwybod ein bod yn defnyddio’r craffter hwnnw a’n bod mwy na thebyg yn cael y rysáit yn iawn. Fodd bynnag wrth edrych yn ôl roedden ni’n ceisio meddwl mor fawr â phosib, yn fwriadol, ac mae’r hyn mae technoleg wedi’i gyflawni heddiw wedi rhagori ar hyd yn oed ein breuddwydion mwyaf gwyllt. Heddiw, mae’r ffaith bod pawb ar y blaned yn defnyddio Zoom neu Skype neu beth bynnag – er bod hynny am reswm gwael, sef y coronafeirws – wedi mynd ymhellach na’r breuddwydion mwyaf gwyllt ychydig fisoedd yn ôl, ond mae wedi digwydd ac mae’r byd wedi newid am byth. Felly, i ateb y cwestiwn, roedd hi’n deimlad gwych. Hefyd bu bron i fi fynd yn fethdalwr ar un adeg, felly roedd hi braidd yn frawychus hefyd, ond mae’r realiti’n well na hyd yn oed ein breuddwydion mwyaf gwyllt.

Mae’n rhaid eich bod yn hynod brysur. Oes amser sbâr gennych chi o gwbl a beth rydych yn ei wneud ag ef?

Dwi ddim yn eithriadol o brysur oherwydd bod rhaid i chi ddirprwyo, ymddiried mewn pobl a maddau ac ati.  Ond mae’n wahanol ar bob cam yn eich gyrfa. Ar y dechrau, roeddwn i’n gwneud popeth. Dwi’n cofio gweithio bob nos, dod allan o’r swyddfa a methu cofio lle roeddwn i wedi parcio fy nghar a gorfod crwydro o gwmpas nes dod o hyd iddo. Yn ddiweddarach yn eich gyrfa, mae’n haws achos does dim angen i chi wneud trefniadau contractiol trwm rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Gallwch chi ddefnyddio eich adnodd diwydiannol i gefnogi eich cyfrifoldebau addysgu academaidd. Er enghraifft, os ydych chi’n athro sydd wedi bod yn addysgu’r un dosbarth am flynyddoedd ac rydych chi’n dechrau diflasu arno, efallai fod myfyriwr PhD dawnus yn eich cwmni a fyddai’n falch o’r cyfle i addysgu a gallwch chi roi’r cyfle iddo. Mae’n brofiad gwell i bawb. Mae’r myfyrwyr yn cael rhywun llawn egni sy’n angerddol am y pwnc ac mae’r myfyriwr PhD yn gallu dweud bod brofiad addysgu ganddo. Mae’n osgoi’r teimlad negyddol o ‘mae angen i mi wneud hyn nawr ond dwi ddim eisiau ei wneud ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i mi wneud hyn i wella’r sgôr addysgu yn y tablau cymharu etc. Ar yr ochr ddiwydiannol, roeddwn i’n Brif Swyddog Gweithredu labordy ymchwil diwydiannol ac roedd hynny’n cymryd llawer o amser. Yn yr holl gwmnïau eraill, dwi wedi bod yn rhan-amser i bob pwrpas.  Roedd ein llinellau adrodd mor effeithiol, doedd dim angen i mi dreulio oriau yno. Rydych chi’n gallu dirprwyo os oes gennych bobl dda o’ch cwmpas. Y dyddiau hyn, fi yw Cadeirydd popeth, felly os oes angen Cadeirydd arnoch chi, fi yw’ch dyn. Wedi dweud hynny, dwi’n gwrthod y rhan fwyaf o bethau ac eithrio’r sector nid er elw a chwmnïau budd cymunedol heb randdeiliaid.

“Hedfan yw fy mhrif angerdd. Mae hedfan yn cyfuno nifer o bethau sydd o ddiddordeb i mi. Yn y bôn, peiriannydd ydw i, peiriannydd technoleg, Dwi’n hoffi electroneg a dwi’n hoffi potsian. Mae awyren fach gen i a dwi’n hoffi potsian â hi; systemau trydanol, d.c., a.c. systemau gwactod, systemau pwysedd, system danwydd, system olew, system afioneg, system ddadrewi, system propelor cylchdro amrywiol, systemau offer glanio a hydroleg. Er fy mod i’n dweud potsian, efallai bydda i’n edrych ar bethau, profi rhai paramedrau, ond mae gen i bobl broffesiynol sy’n gofalu amdani ac yn sicrhau ei bod hi’n ddiogel i’w hedan! Yn ail, dwi’n hoffi teithio, felly fy mhrif hobi yw teithio anturus a dwi wedi gwneud cryn dipyn, gan gynnwys hedfan o gwmpas y byd ar fy mhen fy hun. Roedd fy nhaith o gwmpas y byd i Seland Newydd ac yn ôl heb gymorth. Draw dros y Môr Tawel i Seland Newydd. Dwi wedi bod i bob man yn Ne America, Ynysoedd Falkland a phob man yn Ewrop. Dyna i chi’r hedfan, ond mae ’na elfen electronig hefyd achos mae’r rhyngrwyd gen i ac roedd y rhyngrwyd gen i o’r blaen, felly mae llawer o ffyrdd o gadw llygad ar le ydw i myn diawch. Does dim modd fy ngholli yng nghanol Cefnfor yr India, anghofiwch amdani! Hefyd dwi’n ddigon ffodus bod maes glanio y tu ôl i’r tŷ, felly dwi’n cerdded i ben yr ardd, bant â fi a dwi’n ôl erbyn amser te. Cychwynnodd y daith o gwmpas y byd o fan yma. Ffarweliais i ac, ychydig yn ddiweddarach, dyma fi’n ôl.

Dwi’n eithaf hoff o feicio ar benrhyn Gŵyr hefyd, felly bydda i’n taflu fy meic yng nghefn yr awyren, hedfan i lawr, treulio’r diwrnod yn beicio ac yna’n hedfan yn ôl gyda’r hwyr. O bryd i’w gilydd, bydda i’n galw heibio Tŷ Fulton (Tŷ’r Coleg)  am baned o de ond dwi ddim yn rhoi gwybod i neb ymlaen llaw, felly mae pobl siŵr o fod yn meddwl mai rhywun sydd wedi cerdded i mewn oddi ar y stryd ydw i.

Dyfarnwyd y CBE i chi yn 2007. Sut mae’n teimlo cael cydnabyddiaeth o’r fath am eich gwaith?

Mae hynny’n braf iawn ond mae cynifer o bobl sydd yr un mor haeddiannol, os nad mwy haeddiannol o’r anrhydedd hwn ond sydd heb ei dderbyn. Felly, mae’n rhaid i chi roi slap i chi eich hun o dro i dro. Ond, yn y diwylliant hwn, mae’n neis cael y gydnabyddiaeth.

Rydych chi hefyd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol. Beth mae hynny yn ei olygu?

Dwi’n Drysorydd ac yn Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol a dwi’n meddwl mai fi yw’r arbenigwr cyfrifiadura cyntaf i fod yn Drysorydd neu’n Is-lywydd neu unrhyw beth fel hynny. Swyddogion y Gymdeithas Frenhinol – ac mae Canghellor Prifysgol Abertawe, y Fonesig Jean Thomas, yn un o’m rhagflaenwyr – yw swyddogion anweithredol y Gymdeithas ac maen nhw’n mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd. Roedd Syr Christopher Wren yn un ohonyn nhw. Rydyn ni megis ymddiriedolwyr y Gymdeithas. Mae i gyd yn wirfoddol ac yn ddi-dâl. Fel Trysorydd, dwi’n goruchwylio gwaddol gwerth £250 miliwn. Mae gan y Gymdeithas drosiant gwerth £128 miliwn y flwyddyn hefyd ac mae’n cyflogi 220 o aelodau staff. Ochr yn ochr â hynny, gallaf arwain prosiectau sy’n gysylltiedig â pholisi i ryw raddau, ond drwyddyn nhw, gallwn ni ddefnyddio’r Gymdeithas Frenhinol fel offeryn cymeradwyaeth. Felly, gall y gymdeithas roi llais i brosiectau, yn debyg i’r ffordd mae diwydiant yn gweithio gyda’r byd academaidd mewn gwyddoniaeth ddarganfod. Pe bawn i’n dweud rhywbeth ar fy mhen fy hun, fyddai neb yn gwrando, ond pan fydd y Gymdeithas Frenhinol yn gwneud datganiad, mae pobl yn gwrando. Felly, os ydyn ni’n sôn am y ffordd mae busnesau’n gweithio, neu sut nad yw adolygiad gan gymheiriaid yn gweithio neu, mewn termau mwy adeiladol, sut rydw i’n llunio adroddiad am seiberddiogelwch, mae’r anrhydeddau a’r Gymdeithas Frenhinol yn rhoi llais mwy pwerus i bethau.

Dwi’n cadeirio un o bwyllgorau’r Gymdeithas Frenhinol, ar y cyd â’r Athro Syr John McCanny o Brifysgol y Frenhines, Belfast a chyflwynon ni adroddiad am seiberddiogelwch gan Uned Bolisi’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’r pwyllgor yn cynnwys pobl ddiwydiannol, academyddion a rhai pobl bolisi. Ychydig o amser yn ôl, buon ni’n ystyried a oedd amgryptio, dros alwadau fideo er enghraifft, yn bwysig ai peidio. Ein hargymhelliad oedd bod amgryptio dwy ochr yn bwysig iawn ac yn bwysicach na drysau cefn i systemau amgryptio lle gallai’r gwasanaethau diogelwch wrando i weld a ydyn ni’n siarad am derfysgaeth ai peidio. Felly, aethon ni ati i lunio’r papur hwn ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol a bellach, pedair blynedd wedi hynny, gyda phawb yn defnyddio technoleg ar-lein i gyfathrebu drwy’r amser, roedden ni yn llygaid ein lle! Dychmygwch y sefyllfa fel arall – rydych chi’n defnyddio rhywbeth â gallu amgryptio ac mae rhywun yn dweud na ddylech chi ei ddefnyddio am nad oes ganddo ddrws cefn i ganiatáu i’r gwasanaethau diogelwch glustfeinio. Dwi’n amau byddai’r llais hwnnw’n cael ei foddi gan leisiau pobl yn dweud “Bois bach, dim ond eisiau’r peth i oroesi a chyfathrebu â phobl ydw i”. Ar y pryd, roedd yn anodd dweud hynny ond roedd cefnogaeth y Gymdeithas Frenhinol yn helpu ac mae amser wedi profi mai ni oedd yn iawn. Felly, mae’r Gymdeithas Frenhinol yn rôl ddiddorol am y math hwnnw o reswm. Adroddiad arall welais i oedd un am ryngwynebau niwral (plygio cyfrifiaduron i mewn i’ch ymennydd). Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad. Cafodd ei ystyried yn ofalus iawn ac mae’n adroddiad blaengar. Mae’n ymdrin â’r holl bethau mae angen i ni eu hystyried, technoleg, busnes, moeseg, economeg, etc etc. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni i gyd ar fin dod  yn seiborgiaid, felly cawn weld beth ddaw o hwnnw!

"Yn fy marn i, mae cyfrifiadura’n cefnogi cynaliadwyedd y blaned yn wobr wych ac yn rhywbeth hoffwn i ei weld."

Felly, o’ch safbwynt ar flaen y gad ym maes technoleg, beth yn eich barn chi, fydd y datblygiad mawr nesaf yn y maes hwnnw?

Dwi’n meddwl bod fframwaith cyfan cyfrifiadura a chynaliadwyedd yn gyffrous iawn. Dychmygwch, os ydyn ni’n arsylwi ar y byd gan ddefnyddio synwyryddion, rhai awyrol yn bennaf, synwyryddion gwres a thechnegol, yn optimeiddio’r data yn y seiberofod ac yn bwydo hynny yn ôl i wella cynaliadwyedd y byd. Mewn geiriau eraill, gallai cyfrifiadura rheoli curiad calon y blaned. Bydd y dechnoleg yn parhau i ddatblygu ar garlam. Edrychwch ar y system leoli fyd-eang er enghraifft, gwasanaeth gwych sydd ar gael am ddim yn fyd-eang. Felly dychmygwch system tymheredd fyd-eang sy’n gallu rhoi tymheredd pob metr sgwâr ar y blaned, mewn amser real, i bawb, yn rhad ac am ddim. Byddai pob math o ben tost ynghlwm wrth hynny, moeseg, gwleidyddiaeth ac ati, dwi’n gwybod, ond rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi a dwi’n amau y bydd agweddau pobl yn newid. Er enghraifft, mae tracio’r coronafeirws ar ffonau pobl yn dod yn dderbyniol lle byddai wedi bod yn ddiwedd y byd fis yn ôl. Yn yr un modd, wrth i’r capiau iâ ddechrau toddi a phan fydd llifogydd yn dechrau boddi dinasoedd, bydd pobl yn derbyn efallai fod hyn yn rhywbeth pwysig. Yn fy marn i, mae cyfrifiadura’n cefnogi cynaliadwyedd y blaned yn wobr wych ac yn rhywbeth hoffwn i ei weld.