BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 2015. Deiliad Record y Gymanwlad.

Enillodd Alys Thomas, cyn-fyfyrwraig seicoleg, ras 200m strôc pili-pala yng Ngêmau'r Gymanwlad 2018, gan osod record newydd y gêmau hefyd. Ar ben hynny, llwyddodd i gipio’r fedal efydd yn ras gyfnewid dulliau cymysg 4x100m i fenywod yn ras olaf ond un y gystadleuaeth nofio. Hefyd, ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd 2018 yn Glasgow, cipiodd Alys ddwy fedal efydd yn y ras 200m strôc pili-pala a'r ras gyfnewid dulliau cymysg 4x100.