Aimee Ehrenzeller.

BSc Seicoleg, MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol. Blwyddyn Graddio 2019. Arwr Gofal Iechyd.

Gan raddio i reng flaen yr ymateb i COVID-19, mae Aimee Ehrenzeller wedi bod yn diagnosio cleifion mewn ’canolfan boeth’ COVID.

Doedd gan Aimee Ehrenzeller, cyn-fyfyrwraig seicoleg, ddim syniad pa lwybr i'w ddilyn ar ôl gorffen yn yr ysgol.  “Doeddwn i ddim yn ymgysylltu'n dda â'r ysgol a doeddwn i ddim yn gweld dyfodol arbennig o ddisglair i mi fy hun“, esboniodd Aimee.  Fodd bynnag, penderfynodd Aimee, gan mai seicoleg oedd ei hoff bwnc lefel A, y byddai'n gwneud cais i astudio gradd mewn seicoleg. 

Gofynnon ni i Aimee pam dewisodd hi Brifysgol Abertawe i astudio seicoleg;

“Yn bennaf roeddwn yn chwilio am rywle lle byddwn yn hapus, yn derbyn cefnogaeth ac yn cael fy ysgogi’n feddyliol.  Cydiodd Abertawe ynof gyda theimlad cymunedol y campws, y parciau a'r traethau.“

"Roeddwn yn ffodus iawn i fod ymysg cynifer o bobl gefnogol ac angerddol yn Abertawe..."

Wrth ddechrau ei gradd seicoleg yn Abertawe, fe newidiodd bersbectif Aimee ar fywyd;

“Pan gyrhaeddais y brifysgol, roedd cynifer o fodelau rôl gwych ar gael i mi fe roddodd olwg newydd ar fywyd i mi a'r hyn y gallwn ei gyflawni pe bawn yn ymdrechu. Roeddwn yn ffodus iawn i fod ymysg cynifer o bobl gefnogol ac angerddol yn Abertawe a helpodd fi i dyfu o fod yn berson swil, heb hyder, i fersiwn llawer gwell o’r person y gallwn fod“.

Ar ôl gorffen ei gradd BSc Seicoleg, aeth Aimee ymlaen i astudio MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae hi bellach yn gweithio mewn meddygfa yn diagnosio ac yn rheoli amrywiaeth o gyflyrau, yn amrywio o fân afiechydon ac anafiadau i gyflyrau hirdymor fel methiant y galon.  Aimee hefyd sy'n rhedeg y clinig babanod yn y feddygfa, sydd, meddai hi, yn uchafbwynt ei swydd.

Yn ystod pandemig COVID-19, mae Aimee wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen;

“Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio mewn 'canolfan boeth COVID', sy'n golygu asesu cleifion yr amheuir bod ganddynt y cyflwr i weld a oes angen iddynt fynd i'r ysbyty, derbyn cyngor i ofalu am eu hunain neu hyd yn oed ddiagnosis arall.“

"Yr agwedd fwyaf gwobrwyol yn fy rôl yw'r berthynas rwy'n ei meithrin â'm cleifion."

Pan ofynnwyd iddi beth fu agwedd fwyaf gwobrwyol ei swydd, atebodd Aimee;

“Yr agwedd fwyaf gwobrwyol yn fy rôl yw'r berthynas rwy'n ei meithrin â'm cleifion. Mae'n wych pan ddaw cleifion yn ôl atoch i ddweud faint yn well maen nhw’n ei deimlo ers i mi eu gweld ddiwethaf, a phan allwch weld eu hysbryd yn codi ers yr ymweliad diwethaf.''