Rydych yn Rhan o Bopeth a wnawn

O gefnogi myfyrwyr i ariannu ymchwil arloesol, mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth anferth i'r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr a chenedlaethau'r dyfodol, yn ystod eu hamser yn y Brifysgol ac wrth eu paratoi ar gyfer dyfodol disglair. Yn fwyfwy mae gan ein myfyrwyr sgiliau ehangach o lawer na’r maes academaidd ac mae angen meithrin a chefnogi'r rhain i'n galluogi i ddenu'r rhai mwyaf dawnus a disglair i astudio yn Abertawe.

Mae ein cylchoedd rhoi yn cydnabod ac yn dathlu cefnogaeth eithriadol ein rhoddwyr.