Yn Cydnabod Y Rhai Sy'n Rhoi o Leiaf £120 Bob Blwyddyn

Yn edrych ymlaen yn hyderus at y can mlynedd nesaf.

Mae myfyrwyr wrth wraidd ein holl weithgareddau ac elfen bwysig o ddathlu ein canmlwyddiant fydd codi arian ar gyfer etifeddiaeth y Brifysgol. Er ein bod yn wynebu cyfyngiadau ar ein cyllid, rydym yn parhau i gynllunio buddsoddiadau er mwyn atgyfnerthu ein henw fel Prifysgol ragorol sy’n gwasanaethu Cymru a'r byd. Wrth i ni ddathlu ein gorffennol, mae'n hollbwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad i'r dyfodol hefyd drwy sicrhau cyllid a chynaliadwyedd yn y tymor hir.

Mae'r ymrwymiad parhaus i ddatblygu a gwella Prifysgol Abertawe'n dangos ein hyder yn y dyfodol, a'r addewid i ddarparu amgylchedd academaidd a phrofiad o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr.

EIN DIOLCH I CHI

Os ydych yn rhoi £10 y mis, neu o leiaf £120 yn y flwyddyn academaidd, cewch eich cydnabod yng Nghylch y Canmlwyddiant. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddigwyddiad bob dwy flynedd.

Mae'r rhoddion hyn yn helpu'r Brifysgol i droi syniadau go iawn yn ddatblygiadau arloesol, gan ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant y can mlynedd diwethaf.

Bydd gweld eich enw ar restr o aelodau Cylch y Canmlwyddiant yn ysbrydoli'ch cymheiriaid i helpu cenhedlaeth heddiw er mwyn sicrhau bod myfyrwyr o bob math o gefndir yn fynnu yn Abertawe. Mae angen i ni sicrhau, nawr mwy nag erioed, ein bod yn cryfhau llais Prifysgol Abertawe a'i sefyllfa fel Prifysgol sydd ymysg goreuon y byd.

Gallwch roi rhodd drwy greu debyd uniongyrchol misol, bob chwarter, neu flynyddol, neu drwy siec, taleb CAF, cerdyn credyd neu rodd cyfranddaliadau.

Os ydych yn talu treth yn y DU, gallwch fanteisio ar drefniadau Rhodd Cymorth hefyd.   Bydd y Brifysgol yn gallu hawlio 25c ychwanegol am bob £1 rydych yn ei rhoi. Mae mwy o wybodaeth yma