Coffáu treftadaeth ddiwydiannol a sefydlu'r brifysgol

Mae myfyrwyr wrth wraidd ein holl weithgareddau yn Abertawe, ac elfen bwysig o ddathlu'r Canmlwyddiant yw sicrhau etifeddiaeth y Brifysgol. Er ein bod yn wynebu cyfyngiadau ar ein cyllid, rydym yn parhau i gynllunio buddsoddiadau er mwyn atgyfnerthu ein henw fel prifysgol ragorol sy'n gwasanaethu Cymru a'r byd.

Wrth i ni ddathlu ein gorffennol, mae'n hollbwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad i'r dyfodol hefyd drwy sicrhau chyllid a chynaliadwyedd yn y tymor hir.

Enwyd y Cylch Terne er anrhydedd i Francis W. Gilbertson, sef y noddwr diwydiannol mwyaf blaenllaw wrth sefydlu'r Brifysgol. Fe'i hetholwyd yn Llywydd cyntaf y Brifysgol ym 1920, rôl a fu ganddo tan ei farwolaeth gynamserol ym 1929.  Roedd cwmni W. Gilbertson & Co. yn fyd-enwog am weithgynhyrchu ternblat yn ei weithfeydd yng Nghwm Tawe Uchaf yn bennaf.

Ein Diolch

Mae’r Cylch Terne yn cydnabod y rhai sy'n rhoi o leiaf £1,000 y flwyddyn neu £83.50 y mis.

I ddiolch ichi am eich rhodd, byddwn yn anfon newyddion rheolaidd atoch, yn eich gwahodd i ddigwyddiad blynyddol a chyda'ch caniatâd, byddwn yn arddangos eich enw ar Wal Goffáu'r Brifysgol.

Mae'r Cylch hwn yn coffáu treftadaeth ddiwydiannol a sefydlu'r Brifysgol. Fel aelod, byddwch yn rhan hollbwysig o gymuned y Brifysgol, yn gwneud gwahaniaeth i'r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr a chenedlaethau'r dyfodol, yn ystod eu hamser yn y Brifysgol ac wrth eu paratoi ar gyfer dyfodol disglair.